Index: John Ceiriog Hughes

Does Dim Ond Eisieu Dechreu

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Price

ALAW, - Y Gadlys.

'Does dim ond eisieu dechreu,
Mae dechreu 'n hanner gwaith,
I ddysgu pob gwybodau
   A deall unrhyw iaith.
Nac ofnwch anhawsderau,
   'Does un gelfyddyd dan y rhôd
   Nad all y meddwl diwyd ddod,
I'w deall wedi dechreu.
"Fe hoffwn innau sengyd
   Ar ben y Wyddfa draw,"
Medd hen foneddwr gwanllyd
   A phastwn yn ei law.
Cychwynnodd yn y boreu,
   Ac erbyn hanner dydd yr oedd
   Ar ben y mynydd yn rhoi bloedd,
"'Doedd dim ond eisieu dechreu."

I fesur y planedau
   Sy'n hongian er erioed;
I ddarllen tudalennau
   Y ddaear tan dy droed -
Y bachgen efo 'i lyfrau
   Ymlaen yr a, ymlaen yr a
   I wneuthur drwg neu wneuthur da,
'Does dim ond eisieu dechreu.
Wel, deuparth gwaith ei ddechreu,
   'Does un ddihareb well;
Cychwynnwch yn y boreu,
   Fe ellwch fynd ymhell.
Edrychwch rhwng y bryniau
   Ffynhonnau bach sy'n llifo 'i lawr,
   Ond ânt i'r môr yn genllif mawr,
'Does dim ond eisieu dechreu.