Index: John Ceiriog Hughes

Mae John yn Mynd i Loeger

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Price

Y mae hen dôn wladol o'r enw Gofid Gwynan, ac un led dlos ydyw ar y cyfan, ond nid i gyd felly. Ysgrifennwyd y geiriau canlynol i'w canu arni, ond nid ydynt yn ymbriodi â'r alaw mor hapus ag y dymunwn. Dymunwn ddyweyd am y gân ganlynol, mai ychydig iawn o ddychymyg sydd ynddi, ond fy mod yn dyweyd fy mhrofiad oreu gallwn.

Mae John yn mynd i Loeger,
   A bore fory 'r a;
Mae gweddw fam y bachgen
   Yn gwybod hynny 'n dda;
Wrth bacio 'i ddillad gwladaidd,
   A'u plygu ar y bwrdd,
Y gist ymddengys iddi,
   Fel arch ar fynd i ffwrdd.

Mae ef yn hel ei lyfrau,
   I'r gist sydd ar y llawr;
Yn llon gan feddwl gweled
   Gwychderau 'r trefydd mawr.
Nis gwel e 'r deigryn distaw
   Ar rudd y weddw drist;
Na 'r Beibl bychan newydd
   A roddwyd yn y gist.

Yn fore, bore drannoeth,
   Pan gysgai 'r holl rai bach;
Wrth erchwyn y gwelyau
   Mae John yn canu 'n iach.
Carasai aros gartref,
   Ond nid oedd dim i'w wneyd -
Fe gawsai aros hefyd,
   Pe b'asai 'n meiddio dweyd.

I gwrdd y tren boreuol,
   Cyn toriad dydd yr a, -
"Ffarwel, fy mhlentyn anwyl,
   O bydd yn fachgen da!
Y nef a'th amddiffynno,
   Fy machgen gwyn a gwiw;
Paid byth anghofio 'th gartref,
   Na 'th wlad, na 'th iaith, na' th Dduw."