Index: John Ceiriog Hughes

Mae n Gymro Byth

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Price

ALAW, - O Gylch y Ford Gron.

Mae'n Gymro byth pwy bynnag yw,
   A gâr ei wlad ddinam;
Ac ni fu hwnnw 'n Gymro 'rioed,
   A wado fro ei fam.
Aed un i'r gâd a'r llall i'r môr,
   A'r llall i dorri mawn;
A chario Cymru ar ei gefn
   A wnaiff y Cymro iawn.

Cydgan: Does neb yn caru Cymru 'n llai,
   Er iddo grwydro 'n ffol;
Mae calon Cymro fel y trai
   Yn siwr o ddod yn ol.

Er mynd ymhell o Walia Wen,
   A byw o honi 'n hir,
Ac er i'r gwallt claerdduaf droi
   Yn wyn mewn estron dir,
Mae 'r cof am dad a mam yn mynd
   I'r bwthyn yn y ddôl,
A chlychau mebyd yn y glust
   Yn galw galw 'n ol.

Enilled aur ac uchel glod,
   Mewn gwlad o win a mêl;
Aed yn ei longau ar y môr,
   Er maint o'r byd a wêl;
Wrth edrych ar fachludiad haul
   A gwylio ser y nos,
Bydd clychau arian yn y gwynt
   Yn son am Gymru dlos.