Index: John Ceiriog Hughes

Maes Crogen Bore Tranoeth

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Price

Ar y ffordd rhwng y Waun a Glynceiriog, y mae ty fferm mawr, o'r enw Crogen Iddon. Bu brwydr dost yn yr ardal hon yn 1164, rhwng y Cymry, tan arweiniad Owen Gwynedd, a Harri II. Y mae ôl ei wersyll mewn amryw fannau ar yr Orsedd Wen, Bwrdd y Brenin - ac ar ran o'r mynydd perthynol i'r amaethdy y'm ganwyd ac y'm magwyd i.

ALAW, - Y Fwyalchen.


Y frwydr aeth trosodd o'r diwedd,
   A baeddwyd y gelyn yn llwyr;
A'r ser edrychasant ar Wynedd,
   A'r bore ddilynodd yr hwyr.
'R oedd yno ieuenctid yn gorwedd,
   Am sefyll tros Wynedd yn bur -
Yn fore daeth mamau a gwragedd,
   I chwilio am feibion a gwyr.

Fe ganai mwyalchen er hynny,
   Mewn derwen ar lannerch y gâd;
Tra 'r coedydd a'r gwrychoedd yn lledu,
   Eu breichiau tros filwyr ein gwlad.
Gorweddai gwr ieuanc yn welw,
   Fe drengodd bachgennyn gerllaw;
Tra i dad wrth ei ochor yn farw,
   A'i gleddyf yn fyw yn ei law.

Gan frodyr, chwiorydd, a mamau,
   Fe gasglwyd y meirwon ynghyd;
Agorwyd y ffos ac fe 'i cauwyd,
   Ond canai 'r Fwyalchen o hyd.
Bu brwydyr Maes Crogen yn chwerw,
   Gwyn fyd yr aderyn nas gwyr
Am alar y byw am y meirw,
   Y bore ddilynodd yr hwyr.