Index: John Ceiriog Hughes

Meddyliau am y Nefoedd

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Price

Y mae y tri phennill hyn mewn rhan yn wreiddiol, ac mewn rhan yn gyfieithiedig.

Daw meddyliau am y nefoedd
   Gydag awel wan y nawn,
Gyda llanw'r môr fe ddeuant,
   Gan lefaru 'n felus iawn;
Pan fo 'r mellt fel ser yn syrthio,
   Yn y storm gynhyrfus, gref -
Pan fo 'r llong yn teimlo 'r creigiau,
   Daw meddyliau am y nef.

Daw meddyliau am y nefoedd,
   I unigedd fforest goed,
Ac i'r anial, lle nas tyfodd
   Un glaswelltyn bach erioed.
Ar fynyddau 'r ia tragwyddol,
   Ac ar greigiau llymion, lle
Bydd eryrod yn gorffwyso,
   Daw meddyliau am y ne.

Daw meddyliau am y nefoedd
   I ynysig leia 'r aig,
Lle mae 'r don yn gosod coron
   Gwrel wen ar ben y graig;
Trwy holl gyfandiroedd daear,
   Glynnoedd dwfn, a bryniau ban,
Pur feddyliau am y nefoedd
   Ddont eu hunain i bob man.