Index: John Ceiriog Hughes

Morfa Rhuddlan

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Price

ALAW, - Morfa Rhuddlan.

Gwgodd y nefoedd ar achos y cyfion,
   Trechodd Caethiwed fyddinoedd y Rhydd;
Methodd gweddiau fel methodd breuddwydion,
   Cleddyf y gelyn a gariodd y dydd;
Cuddied y Morfa tan eira tragwyddol,
   Rhewed yr eigion am byth tros y fan;
Arglwydd trugarog, O! tyred i ganol
   Achos y cyfiawn a chartref y gwan.

Brenin y gelyn fydd pen ein gwladwriaeth,
   Lleiddiad Caradog a gymer ei le;
Cwymped y delyn ar gwympiad Caradog,
   Syrthied i'r ddaear fel syrthiodd efe.
Eto, edrychaf ar draeth y gyflafan,
   Wadwyd mo Ryddid, a chablwyd mo 'r Iôr;
Gwell ydoedd marw ar Hen Forfa Rhuddlan,
   Gwell ydoedd suddo i Ryddid y môr.