Nant y Mynydd

John Ceiriog Hughes (Ceiriog) 1832-1887

Contributed by: David Wood

Nant y Mynydd groyw loyw,
Yn ymdroelli tua'r pant,
Rhwng y brwyn yn sisial ganu;
O na bawn i fel y nant!

Grug y Mynydd yn eu blodau,
Edrych arnynt hiraeth ddug
Am gael aros ar y bryniau
Yn yr awel efo'r grug.

Adar ma+n y Mynydd uchel
Godant yn yr awel iach,
O'r naill drum i'r llall yn 'hedeg;
O na bawn fel deryn bach!

Mab y Mynydd ydwyf innau
Oddi cartref yn gwneud ca+n,
Ond mae 'nghalon yn y mynydd
Efo'r grug a'r adar ma+n.