Index: John Ceiriog Hughes

Rhosyn yr Haf

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Wood

Mae rhosyn yr haf yn dechrau blaendarddu
  A mantell y maes yn newydd yn awr,
Mae egin yr y yn edrych i fyny,
  A'r haul yn ei wres yn edrych i lawr.

Mae'r wennol yn dychwel i'w hannedd ei hunan,
  Ac iechyd yn dychwel i fynwes y claf,
'D oes neb yn rhy hen i wenu ar anian
  Pob wyneb a we ar rosyn yr haf.

Mae rhosyn yr haf yn dechrau blaendarddu
  Y gwanwyn a dro, a gwynnodd y drain,
Mae'r helyg yn ir, a'r gweunydd yn gwenu,
  Y dolydd yn deg, a'r goedwig yn gain.

Mae blodau'r afalau fel eira'n y berllan
  A'r adar yn canu ple bynnag yr a,
'D oes neb yn rhy hen i wenu ar anian
  Pob wyneb a we ar rosyn yr haf.