Index: John Ceiriog Hughes

Serch Hudol

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Price

ALAW, - Serch Hudol.

   Serch Hudol swyn,
   Sy'n llanw 'r llwyn,
Pan fo myrdd o adar mwyn,
   Yn canu yn y coed.
Mae anian oll yn canu 'nghyd,
'D oes dim yn fyddar nac yn fud,
Mae mwy o fiwsig yn y byd
   Na thybiodd dyn erioed.
   Corau 'r Wynfa wen,
A ganant byth heb ddod i ben,
Maer delyn aur gan deulu 'r nen,
   Yng ngwyddfod Duw ei hun.
Mae cân yn hedeg ar ei hynt,
Yn swn y môr a llais y gwynt,
Bu ser y bore 'n canu gynt,
   Paham na chana dyn?

   Serch hudol yw,
   Pob peth sy'n byw,
Yn y nef a daear Duw;
   O'r haul sy'n llosgi fry -
I'r pryfyn tân yr hwn a roed,
I rodio 'r clawdd a gwraidd y coed,
I oleu ar y llwybyr troed
   Sy'n arwain i dy dy.
   Hardd yw llun a lliw,
Pob peth a ddaeth o ddwylaw Duw,
I ble 'r a llygad dyn nad yw,
   Yng ngwydd y tlws a'r cain?
Prydferthwch sydd yn llanw 'r nef,
A phob creadur greodd Ef,
O'r eryr ar ei aden gref,
   I'r dryw sydd yn y drain.