Songs

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Wood

NOS GALAN

Oer yw’r gw+r sy’n methu caru,
Fal, la, la, la, la, la, la, la, la,
Hen fynyddoedd annwyl Cymru,
Fal, la, la, la, la, la, la, la, la;
Iddo ef a’u ca+r gynhesaf,
Fal, la, la, la, la, la, la, la, la,
Gwyliau llawen flwyddyn nesaf,
Fal, la, la, la, la, la, la, la, la.

I’r helbulus oer yw’r biliau,
Fal, la, la, la, la, la, la, la, la,
Sydd yn dyfod yn y Gwyliau,
Fal, la, la, la, la, la, la, la, la;
Gwrando bregeth mewn un pennill,
Fal, la, la, la, la, la, la, la, la,
Byth na waria fwy na’th ennill,
Fal, la, la, la, la, la, la, la, la.

Oer yw’r eira ar Eryri,
Fal, la, la, la, la, la, la, la, la,
Er fod gwrthban gwlanen arni,
Fal, la, la, la, la, la, la, la, la;
Oer yw’r bobol na ofalan’,
Fal, la, la, la, la, la, la, la, la,
Gwrdd a’u gilydd, ar Nos Galan,
Fal, la, la, la, la, la, la, la, la.

I WISGO AUR-GORON

I wisgo aur-goron y byd ar ei phen,
Hir oes i Frenhiniaeth yr hen Ynys Wen;
I chwifio prif faner y byd ar y don,
Hir einioes i rinwedd yr hen ynys hon.
O! bydded craig-wregys ein hynys wen ni,
Yn herio cynddeiriog nerth llidiog y lli,
“Mewn Awen fwyn lawen byw byth y bo hi.”

Mae llanw cerddoriaeth yn dod fel y mo+r
Mae pawb yn y cydgan, mae pawb yn y co+r;
Mae codiad y dwylo a churiad y traed,
A’r fanllef yn dwedyd “hir, hir y parha&AUMLAUTd.”
O! bydded craig-wregys ein hynys wen ni,
Yn herio cynddeiriog nerth llidiog y lli,
“Mewn Awen fwyn lawen byw byth y bo hi!”

Mae calon Pumlumon yn adsain o bell,
A chregiau’r Eryri yn dweud “Henffych Well”;
Parh&AUMLAUTed Brenhinaetih yr hen Ynys Wen
Yn fendith i’r ddaear, tan fendith y nen:
A bydded craig-wregys ein hynys wen ni,
Yn herio cynddeiriog nerth llidiog y lli,
“Mewn Awen fwyn lawen byw byth y bo hi!”

CADAIR IDRIS

Bu+m innau’n rhodianna yn Nyffryn Llangollen,
	Yn dringo y mynydd i Gaer Dinas Bra+n.
Yn edrych i fyny at Gynwyd a Chorwen,
	A mynydd Rhiwabon yn deifio gan da+n.
Mi a welais la+n ddyfroedd, aberoedd y Berwyn,
	A da ardal Dyfrdwy ar aswy a de;
Ond mi welais la+n fwthyn, nis gwn i beth wedyn,
	Nis gallwn i weled dim byd ond efe.

Disgynnais o’r Castell, a chroesais yr afon,
	Fel curai fy nghalon anghofiaf fi byth;
Ac fel heb yn wybod i’m traed ar fy union,
	At dy+ Jenny Jones ymgyfeiriais yn syth.
Ac er iddi eistedd ymysg ei chwiorydd,
	A’i thad wrth ei hochor yn siarad a+ mi,
Gyda’i brad o’r tu arall, nis gwn i mo’r herwydd,
	Nis gallwn i weled neb byw ond hyhi.

Yn eglwys Llangollen tra’r clychau yn canu,
	Os aethum yn wirion mi wn pwy a’m gwnaeth;
Unasom a’n gilydd byth byth i wahanu,
	Yn dlawd neu’n gyfoethog, yn well neu yn waeth.
Mae’n dda gennyf bobpeth, ’n enwedig fy hunan,
	Mae Jenny yn gwybod yn well na myfi;
Mae yn dda gennyf ganu, mae’n dda gennyf arian,
	Ond nis gallaf garu dim byd heblaw hi.

YN IACH ITI GYMRU

Yn iach iti Gymru, ffarw&EGRAVEl i’th fynyddoedd,
	Dy nentydd grisialog a’th ddolydd di-ail;
Y coedydd lle treuliais fy ieuanc flynyddoedd,
	Lle gwyliais agoriad y blodau a’r dail!
Mae’r llong yn y porth yn disgwyl amdanaf,
	O gwae imi feddwl ymadael erioed;
Ffarw&EGRAVEl o’r holl famau, y buraf, a’r lanaf,
	A’m cartref gwyn annwyl yng nghanol y coed!

Fy nwylo ddychwelant yn llawn neu yn weigion
	I agor drws annwyl fy nghartref gwyn draw.
Mae’r afon yn sisial yng nghlust yr hen eigion,
	Gan ofyn pa ddiwrnod yn o+l a fi ddaw!
O! am dy hen awyr i wrido fy ngruddiau,
	A’m hwian fel plentyn i huno mewn hedd;
A phan y gadawaf hen fyd y cystuddiau,
	Rhwng muriau’r hen fynwent O torrwch fy medd.

PE CAWN I HON

Pe cawn i hon yn eiddo i mi
	O galon yn fy ngharu:
Ni fynnwn ddim o’i chyfoeth hi,
	Rhag ofn i’m serch glaearu.
Mae rhywbeth yn ei gwisg a’i gwedd,
	Ac yn ei hagwedd hygar,
Rhaid iddi fod fy’n eiddo i,
	Tra byddom ar y ddaear.

Pe cawn i hon yn eiddo i mi,
	O! fel gwnawn ei mynwesu,
Mae dweud ei henw ar hin oer,
	Yn gwneud i’m corff gynhesu.
Ond pe bai hi yn eiddo i mi,
	A’i serch yn dal yn glaear,
Ni fynnwn i mo’honni hi,
	Ar gyfrif ar y ddaear!

MENTRA, GWEN

Amdanat ti mae so+n,
	Wennaf Wen, Wennaf Wen,
O Fynwy fawr i Fo+n,
	Wennaf Wen:
I’r castell acw heno,
Rhaid iti droi a huno,
Hen deulu iawn sydd ynddo,
	Da di mentra, mentra Gwen!

O’th flaen mae mynydd maith,
	Wennaf Wen, Wennaf Wen,
Gwell iti dorri’th daith,
	Wennaf Wen,
Wel yn fy mraich gan hynny,
Yr awn gan benderfynu,
Fod yn y castell lety;
	Da di mentra, mentra Gwen!

Fi piau’r castell hwn,
	Wennaf Wen, Wennaf Wen,
Ti elli fyw mi wn,
	Wennaf Wen,
Yn wraig yng Nghastell Crogen,
I’w barchu ef a’i berchen;
A chymer fi’n y fargen,
	Da di mentra, mentra Gwen!

CODIAD YR HEDYDD

Clyw! Clyw! Foreuol glod,
O! fwyned yw’r defnynnau’n dod,
	O wynfa la+n i lawr.
Ai ma+n ddefnynnau ca+n,
Aneirif lu ryw dyrfa la+n,
Ddihangodd gyda’r wawr?
Mud yw’r awel ar y waun,
A brig y grug, yn esmwyth gry+n:
Gwrando mae yr aber gain,
Ac yn y brwyn ymguddia’i hun:
Mor nefol serchol ydyw’r sain,
Sy’n dod i swyno dyn.

Cwyd, cwyd ehedydd, cwyd,
O le i le ar aden lwyd.
	Yn uwch, yn uwch o hyd:
Ca+n, ca+n dy nodau cu,
A dos yn nes at lawen lu
	Adawodd boen y byd.
Canu mae, a’r byd a glyw
Ei alaw lon o uchel le:
	Cyfyd hiraeth dynolryw,
A ôl ei lais i froydd ne’:
Yn nes at Ddydd, yn nes at Dduw
	I fyny fel efe!

CODIAD YR HAUL

Haul! Haul! araul ei rudd,
A gwawl boreuol dwyfol Dydd,
Mae’n dod, mae’n dod, yn goch ei liw,
Shecinah sanctaidd anian yw,
Yn troi trwy ymerodraeth Duw!
Mil o se+r o’i gylch sy’n canu megis adar ma+n
Toddant yn ei wyneb, ac ymguddiant ar waha+n,
Try’r wylaidd loer o’i w+ydd yn awr,
Mae’n dod, mae’n dod ar donnau’r wawr,
Fel llong o’r Tragwyddoldeb mawr!

Gwawr! Gwawr! geinwiw ei grud,
A gwawl boreuol dwyfol Dydd,
Mae ei blanedau ffyddlon draw,
Yn gwenu arno yn ddifraw:
Gan ei longyfarch ar bob llaw.
Hardd, hardd liwiau nofiant trwy’r cymylau dan ei traed
Coch da+n mawr yw’r Wyddfa, dwfr y mo+r a dry yn waed:
Try’r wylaidd loer o’i w+ydd yn awr,
Mae’r haul yn dod ar donnau’r wawr,
Fel llong o’r Tragwyddoldeb mawr!

ERYRI WEN

Eryri Wen, Frenhines bur,
	Daearol Ferch y ne',
Mewn awyr las ac wybren glir,
	Ac yn dy sanctaidd le.
Yn fab “y mynydd hwn” y’m gwnaed,
	I dy ofni er erioed;
Mae ta+n yn rhedeg trwy fy ngwaed,
	Pan safwyf wrth dy droed!

O’th gylch mae cestyll cedyrn mawr,
	Yn mynd yn friwsion ma+n;
O’th gylch mae twrf tymhestloedd gawr,
	Yn rhuo’u gaeaf ga+n.
Ond dyma gastell gododd Duw,
	Ag eira ar ei ben,
I Annibyniaeth Cymru fyw
	Am byth, Eryri Wen.

BREUDDWYD Y FRENHINES

Breuddwyd y Frenhines
	Oedd gweld ei hun yn dlawd,
Mewn bwthyn lle’r oedd gwe+n
	Ei mam, ei thad, a’i brawd.
Gla+n oedd yr ystafell,
	A’i tha+n oedd ar y llawr,
Ond nid oedd yno boen
	Na blinder ennyd awr.
Plant a ganent wrth y drws,
	Ganiadau’r pentref llon,
Ac fel y teimlai rhyw lawenydd
	Newydd yn ei bron;
Ymddeffro ddarfu’r Brenin,
	A hithau’i deffro gadd:
Breuddwydio’r oedd efe,
	Fod rhywun am ei ladd.

Breuddwyd dynes arall
	Oedd yn dlawd yn wir,
Oedd gweld ei hun trwy’i hun
	Yn aeres mo+r a thir;
Llawn oedd ei hystafell
	O arian ac o aur,
A choron ar ei phen o
	Fil o berlau clear,
Pwy oedd debyg iddi hi, mor
	Hardd o bryd a gwedd?
A hi a chwyddai pan yn edrych
	Ar ei swyddol sedd;
A’i gw+r ddeffro+dd o’r diwedd
	Gan ddwedyd wrthi “Siân!
Rhaid iti godi’n awr,
	Mae’n amser cynnau tân!”

MERCH MEGAN

“Mi welais fy merch” medd Gruffudd ap Cynan,
	“Ar ddiwedd y wwledd, pam digiodd fy mun?
Nis gwelais hi ’rioed mor brydferth yn unman,
	Caiff ddyfod yn o+l i’w haelwyd ei hun.
Er pan ymgadawodd mae’m calon ar dorri;
	Angharad, fy nghoron, O maddau i mi.”
“O nage,” medd Rhys, “nid eiddot mohoni,
	Nid merch i ti oedd, Merch Megan oedd hi.”

Merch Megan a’i mam elent adref i odro
	Ac un fuwch bob un yw’r oll ar eu llaw;
A cherbyd o aur arddunol ddaw yno,
	I ofyn am bwy, i Lys Aberfraw?
Yn blentyn mabwysiad, pwy godwyd o’r werin,
	I Lys y t’wysogion yn heulwen ei fri,
Sy’n fywyd a gwres wrth orsedd y brenin?
	Anrhydedd i’r tlawd, Merch Megan yw hi!

ANODD YMADAEL

Mewn bwthyn diaddurn yn ymyl y nant
Eisteddai gwraig weddw yng nghanol ei phlant;
Ar ieuaf ofynnodd wrth weld ei thristad
“Mae’r nos wedi dyfod ond ble mae fy nhad?”

Fe redodd un arall gwyneblon a thlws,
I’w ddisgwyl ef adref ar garreg y drws;
Fe welodd yr hwyrddydd yn cuddio y wlad
A thorrodd ei galon wrth ddisgwyl ei dad.

Y se+r a gyfodent mor hardd ag erioed,
A gwenai y lleuad drwy ganol y coed;
A’r fam a ddywedodd, ‘Mae’th dad yn y nef
Ffordd acw, fy mhlentyn – ffordd acw mae ef.’

Mewn bwthyn diaddurn yn ymyl y nant,
Ymddiried i’r Nefoedd mae’r weddw a’i phlant;
Ni fedd yr holl gread un plentyn a wad
Fod byd anweledig, os collodd ei dad.

DIFYRRWCH Y BRENIN

Beth mae’r Brenin yn fwynhau,
Yn fwy neu lai na ni ein dau?
Pobol ddistaw ar bob awr,
Yn ei senedd-dy+ ga+r yn fawr.
Pobol dda am dalu treth,
Ei galon ga+r uwchlaw pob peth;
Byddin iawn, a llynges gref;
Hyn ydyw ei ddifyrrwch ef.

Hoffa cerddor ga+n a thant,
Ond hoffi me+l a wna ei blant;
Ceidw un ei aur tra gall,
Ond hoffi rhoddi wna y llall.
Fel yr ydym ffryndiau ffri,
Os bodlon pawb, wel bodlon fi,
Caed y Brenin fel pob dyn,
Ddifyrrwch yn ei ffordd ei hun.

DIFYRRWCH GWY+R DYFI

Difyrrwch gwy+r Dyfi yr hen amser gynt,
Oedd tair aurdelyn chwareid gan y gwynt;
Cwynai un mewn gofid mawr,
Pan chwythai’r gwynt y derw i lawr;
Ond chware yn llawen trwy’r dydd heb ball,
A’r coed yn dadwreiddio’n llu wnelai’r llall.

Y drydedd a ganai yn brudd neu yn llon,
Pa un i sicrwydd ni wyddai neb bron:
Ond daeth derwydd barfog, gwyn,
Gwnaeth Delyn Deires o’r rhai hyn,
I ganu yng Nghymru mewn cydgord llawn. –
Fe wnaeth o’r tair eraill un delyn iawn.

Y SAITH GYSGADUR

Trigai gwraig bur gysglyd gynt,
	Yn Llan Mathafarn Eithaf,
Bloeddiai’r gw+r nes colli’i wynt,
Hi gysgai er ei waethaf:
“Hei ho! medd hi, fel teisen gri,
	Medd yntau, wedi sorri;
Os nad wyt sa+l, cwyd o dy wa+l,
	Neu aros tan yfory!”

Twr o blant am ddeg o’r gloch,
	Ddechreusant sw+n a chyffro;
’Gwedi bloeddio creulon croch,
	Medd hithau’n hanner effro:
“Am saldra’n awr, nis gwyddoch fawr,”
	Medd yntau “gwn o’re gore,
Dylyfu ge+n yw’th saldra hen,
	A’th glefyd di bob bore.”

Yna gw+r y wraig ddifudd,
	Darawyd gan y clefyd;
Cysgai’r plant tan hanner dydd,
	A chysgai yntau hefyd!
Ddo’r un o’i glwyd i’w fore fwyd,
	Na chynnau ta+n y bore;
Ac felly siw+r, y wraig a’r gw+r,
	Wnaent gysgu am y gore.

I BLAS GOGERDDAN

“I Blas Gogerddan heb dy dad!
	Fy mab erglyw fy llef,
Dos yn dy o+l i faes y gad,
	Ac ymladd gydag ef!
Dy fam wyf fi, a gwell gan fam,
	It golli’th waed fel dwfr,
Neu agor drws i gorff y dewr,
	Na derbyn bachgen llwfr.”

“I’r neuadd dos ac yno gwe+l
	Arluniau’r Prysiaid pur;
Mae ta+n yn llygad llym pob un,
	Yn golau ar y mur.” –
“Nid fi yw’r mab amharchai’i fam,
	Ac enw ty+ ei dad:
Cusenwch fi fy mam” medd ef,
	Ac aeth yn o+l i’r gad.

Daeth ef yn o+l i dy+ ei fam,
	Ond nid, ond nid yn fyw:
Medd hithau, “O fy mab! fy mab!
	O maddau im O Dduw!”
Ar hyn atebai llais o’r mur:
	“Trwy Gymru tra rhe+d dwfr,
Mil gwell yw marw’n fachgen dewr,
	Na byw yn fachgen llwfr!”

YN NYFFRYN LLANGOLLEN

Yn Nyffryn Llangollen ar ochor y Glyn,
’R oedd gynt hen delynor, a’i hanes yw hyn:
Heb damaid i’w fwyta, na llymaid o ddw+r,
Mewn newyn ac eisiau, bu farw’r hen w+r:
Ond i’w gladdedigaeth, gwirionedd oer yw
Daeth digon o fwydydd i’w gadw e’n fyw.

Ni welwyd mo’i delyn fyth fyth wedi hyn;
Ond clywir hi’n fynych ar Fynydd y Glyn.
Ymysg y bwganod ran amlaf y bydd,
Mewn brwyn ac mewn corsydd yn cwynfan yn brudd:
“Os cnawd eto wisgwn ym myd dynolryw,
Rhoddwn damaid i’n gilydd tra byddom ni byw.”

Y GADLYS

Caradog eilw’i ddeiliaid,
Ag utgorn ar ei fant;
Fe ruthrodd y Siluriaid,
Cwympasant yn y pant.
Enciliodd arwyr enwog:
Ond ar y march a+’r gwddw brith,
Fe ddaw’r Frenhines deg i’w plith,
I edrych am Garadog.

Fe welodd y Rhufeiniaid,
Y march a+’r gwddw brith:
Ond gwelodd y Brythoniaid,
Frenhines yn eu plith.
Mae’r corn yn ail-utganu,
Brythoniaid yn eu holau dro+nt,
Rhufeiniaid yn eu holau ffo+nt
O flaen cleddyfau Cymru.

SERCH HUDOL

Serch hudol swyn,
Sy’n llanw’r llwyn,
Pan fo myrdd o adar mwyn,
Yn canu yn y coed.
Mae anian oll yn canu ’nghyd,
’D oes dim yn fyddar nac yn fud,
Mae mwy o fiwsig yn y byd,
Na thybiodd dyn erioed:
Corau’r Wynfa wen,
A ganant byth heb ddod i ben,
Mae’r delyn aur gan deulu’r nen,
Yng ngwyddfod Duw ei hun!
Mae ca+n yn hedeg ar ei hynt,
Yn sw+n y mo+r a llais y gwynt,
Bu se+r yn bore’n canu gynt,
Paham na chana dyn?

Serch hudol yw,
Pob peth sy’n byw,
Yn y nef a daear Duw:
	O’r haul sy’n llosgi fry,
I’r pryfyn ta+n, yr hwn a roed,
I rodio’r clawdd a gwraidd y coed,
I olau ar y llwybr troed,
	Sy’n arwain i dy dy+.
Hardd yw llun a lliw,
Pob peth a ddaeth o ddwylo Duw,
I b’le’r a+ llygad dyn nad yw,
	Yng ngw+ydd y tlws a’r cain?
Prydferthwch sydd yn llanw’r nef,
A phob cr&EUMLAUTadur gr&EUMLAUTodd Ef,
O’r eryr ar ei aden gref,
	I’r dryw sydd yn y drain!

YN NYFFRYN CLWYD

Yn Nyffryn Clwyd nid oes,
Dim ond darn bach o’r groes,
	Oedd gynt yn golofn ar las fedd;
Y bugail ga+n i’w braidd,
Tra Einion Ririd Flaidd,
Yn gorffwys dan ei droed,
	Gan afael yn ei gledd.

Ond cedwir ei goffa+d
Er mewn pridd mewn parhad,
	Gla+n yw ei gleddyf fel erioed.
Os caru cofio r’ wyd,
Am ddolydd Dyffryn Clwyd,
O! cofia gofio’r dewr
	Sydd yno dan dy droed.

Mewn angof ni cha+nt fod,
Gwy+r y cledd, hir eu clod,
	Tra’r awel tros eu beddau chwy+th.
Y mae yng Nghymru fyrdd,
O feddau ar y ffyrdd,
Yn balmant hyd yr hwn
	Yn rhodia Rhyddid byth!

Y MYNACH DU

Hen Fynach Du Caerlleon Gawr,
Yn gwrando clychau’r ddinas fawr;
	Ding, dong, ding, dong, ding, dong,
A rodiai hyd y muriau’n syn,
Gan ddwedyd wrtho’i hun fel hyn,
O! pa hyd mewn gefynnau tyn,
Cedwir ef ein brenin cu,
Yn ei garchar oer a du,
Nos a dydd i wrando’n brudd;
	Ding, dong, ding, dong, ding, dong
Ai cnul ein Hannibyniaeth yw?
O ga+d i Ryddid eto fyw,
Trwy holl Gymru wen O Dduw!

Mae llawer tro ar fyd er hyn
Er pan glywai’r mynach syn,
	Ding, dong, ding, dong, ding, dong,
Ar lannau’r Ddyfrdwy ar bob pryd;
O ddydd i ddydd hyd ddiwedd byd,
Y mae’r clychau’n fyw o hyd.
Hyd y muriau megis gynt,
Yn cydgwynfan gyda’r gwynt,
Yn ein clyw su oesol yw;
	Ding, dong, ding, dong, ding, dong;
’D oes neb am frenin heddiw’n brudd,
Ond fel yr hedydd doriad dydd,
Y mae holl Gymru wen yn rhydd.

BUGAIL YR HAFOD

Pan oeddwn i’n fugail yn Hafod y Rhyd,
A’r defaid yn dyfod i’r gwair a’r iraidd y+d;
Tan goeden gysgodol mor ddedwydd o’wn i
Yn cysgu, yn cysgu yn ymyl trwyn fy nghi:
	Gwelaf a welaf,
	A+f fan y fynnaf,
	Yno mae fy nhaglon
	Efo hen gyfoedion
	Yn mwynhau
	Y meysydd a’r dolydd
	A’r hafddydd ar ei hyd.

Pan oeddwn i gartref, fy mhennaf fwynhad
Oedd naddu a naddu ar aelwyd glyd fy nhad;
Tra’m chwaer efo’i hosan, a mam efo’r carth
Yn nyddu, yn nyddu ar garreg la+n y barth.
	Dened a ddeno,
	Anian dyn yno,
	Hedaf yn fy afiaeth
	Ar adenydd hiraeth
	I’r hen dy+,
	Gla+n gynnes dirodres
	Adewais yn fy ngwlad.

Mae’r wennol yn crwydro o’i hannedd ddilyth,
Ond dychwel wna’r wennol yn o+l i’w hannwyl nyth
A chrwydro wnawn ninnau yn mhell ar ein hynt,
Gan gofio’r hen gartref chwareuem ynddo gynt.
	Pwyso mae adfyd,
	Chwerwi mae bywyd,
	Chwerwed ef a chwerwo,
	Melus ydyw cofio
	Annedd wen,
	Dan heulwen yr awen
	A wena arnom byth.

HOB Y DERI DANDO (Gogledd)

Unwaith eto mi ddywedaf
	Hob y deri dano
Sia+n, fwyn Sia+n?
Nid oes tes a’r amser gaeaf
Dyna ganu eto,
Sia+n, fwyn Sia+n.
Ond mae Sionyn wrth heneiddio
Dal di sylw Sia+n!
Efo cariad yn gwefreiddio
	Sia+n fwyn, tyrd i’r llwyn,
Seiniaf enw Siani fwyn,
Sia+n, fwyn Sia+n.

Llawer gaeaf, haf a gwanwyn
	Hob y deri dano
Sia+n, fwyn Sia+n?
Wnaeth fi’n foel a thithau’n felen:
Dyna ganu eto,
Sia+n, fwyn Sia+n.
Nid yw henaint o un d’ioni;
Dal di sylw Sia+n!
I wneud cariad ieuanc oeri:
	Sia+n fwyn, tyrd i’r llwyn,
Seiniaf enw Siani fwyn,
Sia+n, fwyn Sia+n.

MERCH Y MELINYDD

Os yw fy annwyl gariad,
	Yn caru dwy neu dair;
Ac yn eu cadw’n foddlon,
	Bob marchnad a phob ffair;
O peidied yntau feddwl
	Fod hynny’n boen i mi,
’R wyf fi mor rhydd ag yntau,
	I garu dau neu dri.

’Phrioda’i ddim eleni,
	Chwedleua’i ddim a neb;
Twyllodrus iawn yw meibion
	A fedrant ddweyd yn deg.
Po deced bo nhwy’n gwedyd,
	O, gwaetha’i gyd y daw;
Llawenydd pob merch ifanc
	Yw dewis ar ei llaw.

Os oes rhyw dair neu bedair
	Yn hoff ohono ef;
Mae gennyf innau bedwar
	Ar bymtheg yn y dref:
Ond nhw sy’n gweyd fel yma,
	A nhw sy’n gweyd fel hyn;
’D wyf fi ond gwenu arnynt,
	A dal fy serch yn dyn.

Fe we+d fy mod yn euog,
	Oherwydd gwrid fy moch;
Os gwrida ef yn welw,
	Mi wrida innau’n goch.
A gwedaf yn ei wyneb,
	A gwyneb dewr pob dyn;
Llawenydd “Merch Melinydd,”
	Yw caru dim ond un.

HUN GWENLLIAN

Gwenllian fach, fy nghalon dlos,
	’R wyt ti yn huno yn ddifraw,
	Gan ddal dy afal bach melyngoch yn dy law.
Mae’th ruddiau annwyl fel y gwridog ros;
Mae’th fron yn ddedwydd ddydd a nos,
Ym myd y gofid O gwyn fyd t’wysoges ifanc yn ei chrud,
Yn dal ei hafal bach ei holl o ofal byd.

Mae gennyt frodyr yn y gad,
	Mae’th dad a’i gleddyf wrth ei glun,
	A thithau’n cysgu’n drwm, gan wenu trwy dy hun.
Mae trwst y Norman dig yn crynu’r wlad,
Beth w+yr yr engyl am dy dad?
O am orffwyso’n ddedwydd iach,
Mae breninesau uchel ach,
A ro+i eu gorseddfainc am gwsg t’wysoges fach.

TORIAD Y DYDD

Mae llawer un yn cofio,
	Yr eneth fechan ddall:
Ni welodd neb un fach mor fwyn,
	Mor brydferth a mor gall.
Hi gerddodd am flynyddoedd,
	I ysgol Dewi Sant
Ar hyd y ffordd, o gam i gam,
	Yn nwylo rhai o’r plant.
’R oedd gofal pawb amdani,
	A phawb yn hoffi’r gwaith,
O helpu’r eneth fach ymlaen
	Trwy holl drofeydd y daith.
Siaradai’r plant am gaeau,
	A llwybrau ger y lli
Ac am y blodau tan eu traed,
	ond plentyn dall oedd hi.

Hi glywai felus fiwig
	Yr adar yn y dail;
Hi deimlai ar ei gwyneb bach,
	Belydrau serch yr haul;
Aroglai flodau’r ddaear:
	Ond, nis adwaenai’r fun
Mo we+n yr haul, a mwy na’r oll
	Mo we+n ei mam ei hun.
Mae’r plentyn wedi marw,
	Ar wely angau prudd,
Hi wenodd ar ei mam gan ddweyd
	“Mi welaf doriad dydd!”
Ehedodd mewn goleuni,
	Oddiwrth ei phoen a’i phall;
A gweled golygfeydd y nef,
	Y mae yr Eneth Ddall!

MYFI SY’N MAGU’R BABAN

Myfi sy’n magu’r baban,
	Myfi sydd yn siglo’r crud;
Myfi sy’n hwian, hwian,
	Yn hwian o hyd, o hyd
Bu’n crio bore heddiw
	O hanner y nos tan dri,
Ond fi sy’n colli cysgu,
	Mae’r gofal i gyd arnaf fi.

Myfi sy’n magu’r plentyn,
	Bob bore a nawn a hwyr;
Y drafferth sydd i’w ganlyn,
	Myfi, dim ond fi a’i gw+yr.
Ni w+yr ef air o Saesneg,
	Nac un gair on’ heniaith ni:
I ddysgu’r t’wysog bychan,
	Mae’r gofal i gyd arnaf fi.

Ond os caf fi ei fagu
	I dyfu yn llencyn iach,
Caiff iaith brenhinoedd Cymru
	Fod fyth ar ei wefus fach;
A phan ddaw yntau’n frenin,
	Ac onid yng nghofio i,
O cofied wlad y Cennin,
	Y wlad sydd mor annwyl i mi!

BENDITH AR EI BEN

Ar D’wysog gwlad y bryniau,
	O boed i’r nefoedd wen,
Roi iddo gyda choron,
	Ei bendith ar ei ben!
Pan syrthio’r aurwialen
	Pan elo un i’r nef,
Y nef a ddalio i fyny,
	Ei law frenhinol ef.

Ei faner ef fo uchaf
	Ar goedwig fyw y mo+r!
A’i liniau ef fo isaf,
	Wrth orseddfainc yr Io+r!
Drychafer gorsedd Prydain,
	Yn nghariad Duw a dyn,
Yn agos at orseddfainc,
	Y Brenin Mawr ei Hun!