Index: John Ceiriog Hughes

Ti Wyddost Beth Ddywed Fy Nghalon

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Price

Achlysurwyd y penillion hyn gan eiriau ymadawol mam yr awdwr, pan oedd hi yn dychwelyd i Gymru, ar ol talu ymweliad iddo.

Yn araf i safle 'r gerbydres gerllaw,
   Y rhodiai fy mam gyda'i phlentyn;
I waelod ei chalon disgynnodd y braw,
   Pan welai y fan oedd raid cychwyn.
Ymwelwodd ei gwefus - ei llygaid droi 'n syn,
   Rhy floesg oedd i roddi cynghorion;
Fe'i clywais er hynny yn sibrwd fel hyn, -
   "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."

Canfyddodd fy llygad mewn dagrau 'n pruddhau,
   Gwir ddelw o'i llygad ei hunan;
Hyn ydoedd am ennyd fel yn ei boddhau,
   Er nad fy nhristau oedd ei hamcan.
Ond er fod cyfyngder yr ennyd yn gwneyd
   Atalfa ar ffrwd o gysuron,
Mudanrwydd rodd gennad i'w hanadl ddweyd, -
   "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."

Nid son am gynllwynion y diafol, a'i fryd,
   Er ennill ieuenctid i'w afael -
Nid son am ffolineb, a siomiant y byd,
   Yr ydoedd pan oedd yn fy ngadael;
Dymunai 'n ddiameu bob lles ar fy nhaith,
   Trwy fywyd i fyd yr ysbrydion;
Ond hyn oedd yr oll a ddiangodd mewn iaith, -
   "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."

I eiriau dirmygus, dieithrol nid wyf,
   Mi wn beth yw llymder gwatwariaeth;
Y munud diffygiwn dan loesion eu clwyf,
   Yn nesaf dro'i oll, yn ddieffaith
Do, clywais hyawdledd - er teimlo ei rym,
   Mewn effaith ni lyn ei rybuddion;
Ond hyn gan dynerwch fyth erys yn llym, -
   "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."

Mae ysbryd yr oes megis chwyddiad y môr,
   Yn chware â chreigiau peryglon;
O'm amgylch mae dynion a wawdiant Dduw Ior,
   Wyf finnau ddiferyn o'r eigion;
Fy nghamrau brysurant i ddinistr y ffol,
   Ond tra ar y dibyn echryslon
Atelir fi yno gan lais o fy ol, -
   "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."

Pe gwelwn yn llosgi ar ddalen y nef,
   Y tanllyd lythrennau "NA PHECHA;"
Pe rhuai taranau pob oes yn uu llef -
   "Cyfreithiau dy Dduw na throsedda;"
Pe mellten arafai nes aros yn fflam,
   I'm hatal ar ffordd anuwiolion,
Anrhaethol rymusach yw awgrym fy mam, -
   "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."