Index: John Ceiriog Hughes

Tros y Garreg

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Price

Pan y bydd llanciau a merched sir Feirionnydd mewn llefydd rhwng Bwlch Llandrillo a Chlawdd Offa, soniant yn fynych am fyned am dro i sir Feirionnydd, tros Garreg Ferwyn a thros y Bwlch. Awgrymwyd y gân hon gan lodes oedd yn myned ag arian i helpu ei mam dalu y rhent am y ty bychan lle y ganwyd ac y bu farw ei thad.

ALAW, - Tros y Garreg.


Fe ddaw wythnos yn yr haf,
Gweled hen gyfeillion gaf;
   Tros y mynydd
   I Feirionnydd,
Tros y Garreg acw 'r af.
Ar y mynydd wele hi,
Draw yn pwyntio ataf fi;
Fyny 'r bryn o gam i gam,
Gyda 'm troed fy nghalon lam;
   Af ag anrheg
   Tros y Garreg
I fy unig anwyl fam.

Fe gaf chware ar y ddôl,
Fe gaf eistedd ar y 'stol,
   Wrth y pentan,
   Diddan, diddan,
Tros y Garreg af yn ol.
Pan ddaw 'r wythnos yn yr haf,
O fel codaf ac yr af,
Fyny 'r bryn o gam i gam,
Gyda 'm troed fy nghalon lam;
   Af ag anrheg
   Tros y Garreg
I fy unig anwyl fam.