Index: John Ceiriog Hughes

Trot y Gaseg

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Price

ALAW - Trot y Gaseg.

Rhaid imi basio heno
   Ty geneth lana'r fro,
Dymunwn alw yno,
   Ond ni wnaiff hynny 'r tro.
      Tyrd ti fy merlen hoew,
      I fyny 'r dyffryn acw;
      Da gwyddost am y ty
      Y trig fy ngeneth gu -
Dynesu mae yr afon,
Cynesu mae fy nghalon,
Wrth basio 'r Dolydd Gleision,
      Ar gefn fy merlen ddu.

Mae miwsig hen alawon,
   Yn swn dy bedwar troed:
Rwy 'n croesi tros yr afon
   Mi welaf lwyn o goed.
      Tra 'r afon ar y graian,
      Yn hwian iddi' hunan,
      Mae seren Gwener gu
      Yn crynnu uwch y ty,
A'm calon wirion innau
Yn crynnu am y goreu.
Wrth fynd ar loergan oleu
      Ar gefn fy merlen ddu.

Yn y coedwigoedd agos,
   Fy merlen lo'wddu lefn,
Y clywais lais yr eos
   Wrth deithio ar dy gefn.
      Pan oeddit ti yn trotian,
      Yr oeddwn innau 'n dotian,
      Wrth wrando 'r eos gu
      Ac edrych ar y ty.
Pan dderfydd y gostegion,
Bydd Merch y Dolydd Gleision,
Mewn cannaid ddillad gwynion,
      Ar gefn fy merlen ddu.