Index: John Ceiriog Hughes

Y Ferch o'r Scer

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Price

Dywedir fod Merch y Scer yn ddarpar gwraig i'r telynor am rai blynyddau, ond gan iddo trwy ryw ddamwain golli ei olwg, fe berswadiwyd y llances gan ei pherthynasau a chan ei theimladau ei hun i roi pen ar y garwriaeth. Gwnaed y dôn gwynfanus a phrydferth hon gan y telynor i arllwys allan ei siomedigaeth a'i ofid.

ALAW, - Y Ferch o'r Scer.

'R wyf yn cysgu mewn dallineb
   Ganol dydd a chanol nos;
Gan freuddwydio gweled gwyneb
   Lleuad wen a seren dlos.
Tybio gweld fy mam fy hunan -
   Gweld yr haul yn danbaid dêr;
Gweld fy hun yn rhoddi cusan
      I fy chwaer a Merch y Scer.

Gwresog ydyw'r haul gwyneblon,
   Oer, ond anwyl, ydyw 'r ser;
Gwres oer felly yn fy nghalon
   Bâr adgofion Merch y Scer.
Mae fy mam a'm chwaer yn dirion,
   Yn rhoi popeth yn fy llaw;
Merch y Scer sy 'n torri 'm calon,
   Merch y Scer sy 'n cadw draw.

Cariad sydd fel pren canghennog,
   Pwy na chara Dduw a dyn?
Cangen fechan orflodeuog
   Ydyw cariad mab a mun.
O! 'r wy'n diolch ar fy ngliniau,
   Am y cariad pur di-ball;
Cariad chwaer sy 'n cuddio beiau -
   Cariad mam sy'n caru 'r dall.