Index: John Ceiriog Hughes

Y March a'r Gwddw Brith

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Price

ALAW, - Y Gadlys.

Caradog eilw 'i ddeiliaid,
   Ag udgorn ar ei fant;
Fe ruthrodd y Siluriaid,
   Cwympasant yn y pant.
Enciliodd arwyr enwog,
   Ond ar y march a'r gwddw brith
   Fe ddaw 'r frenhines deg i'w plith
I edrych am Garadog.

Mae cynnwrf yn y ceunant,
   Ar derfyn dydd y gad;
A dynion dewr orweddant,
   I farw tros eu gwlad.
Yr afon foddodd fyddin,
   Ond ar y march a'r gwddw brith,
   Fe ddaw 'r frenhines deg i'w plith,
I edrych am y brenin.

Fe welodd y Rhufeiniaid
   Y march a'r gwddw brith;
Ond gwelodd y Brythoniaid
   Frenhines yn eu plith.
Mae 'r corn yn ail-udganu,
   Brythoniaid yn eu holau drônt,
   Rhufeiniaid yn eu holau ffônt,
O flaen cleddyfau Cymru.