Index: John Ceiriog Hughes

Yr Eneth Ddall

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Price

ALAW, Toriad y Dydd.

Mae llawer un yn cofio
   Yr eneth fechan ddall;
Ni welodd neb un fach mor fwyn,
   Mor brydferth, ac mor gall;
Fe gerddodd am flynyddau
   I ysgol Dewi Sant,
Ar hyd y ffordd o gam i gam,
   Yn nwylaw rhai o'r plant.
'R oedd gofal pawb am dani,
   A phawb yn hoffi 'r gwaith
O helpu 'r eneth fach ymlaen,
   Trwy holl drofeydd y daith;
Siaradai 'r plant am gaeau,
   A llwybrau ger y lli,
Ac am y blodau tan eu traed,
   Ond plentyn dall oedd hi.

Fe glywai felus fiwsig
   Yr adar yn y dail;
Fe deimlai ar ei gwyneb bach
   Belydrau serch yr haul;
Aroglai flodau 'r ddaear;
   Ond nis adwaenai 'r fûn
Mo wên yr haul, a mwy na 'r oll
   Mo wên ei mam ei hun.
Mae 'r plentyn wedi marw, -
   Ar wely angau prudd
Fe wenodd ar ei mam gan ddweyd,
   "Mi welaf doriad dydd!"
Ehedodd mewn goleuni
   Oddiwrth ei phoen a'i phall,
A gweled golygfeydd y nef
   Y mae yr ENETH DDALL.