Index: John Morris-jones (1864-1929)

Rhieingerdd

Author: John Morris-jones (1864-1929)

Contributed by: David Wood

Dau lygad disglair fel dwy em
  Sydd i'm hanwylyd i,
Ond na bu em belydrai 'rioed
  Mor fwyn a'i llygad hi.

Am wawr ei gwddf dywedyd wnawn
  Mai'r cann claerwynnaf yw,
Ond bod rhyw lewych gwell na gwyn,
  Anwylach yn ei liw.

Mae holl dyneraf liwiau'r rhos
  Yn hofran ar ei grudd;
Mae'i gwefus fel pe cawsai'i lliw
  O waed y grawnwin rhudd.

A chlir felyslais ar ei min
  A glywir megis ca
Y gloyw ddw yn tincial dros
  Y cerrig gwynion ma.

A chain y seinia'r hen Gymraeg
  Yn ei hyfrydlais hi;
Mae iaith bereiddia'r ddaear hon
  Ar enau 'nghariad i.

A synio'r wyf mai sw yr iaith,
  Wrth lithro dros ei min,
Roes i'w gwefusau'r lluniaidd dro,
  A lliw a blas y gwin.