Index: Miscellaneous

Englynion 14-17fed

Contributed by: David Wood

Ni pheidiaf a+ Morfudd, hoff adain - serchog,
Pes archai Bab Rhufain,
	Hoywliw ddeurudd haul ddwyrain,
	Oni dde+l y me+l o'r main.
- Morfudd, Dafydd ap Gwilym

Doe gwelais cyd a+ gwialen - o gorn,
		Ag arno nhw cangen;
	Gw+r balch ag og ar ei ben,
	A gwraig foel o'r graig felen.
- Carw, Dafydd ap Gwilym

Y gleisiad, difrad yw ef, - o'i ddichwain
		A ddychwel i'w addef;
	'No+l blino'n treiglo pob tref
	Teg edrych tuag adref.
- Myned Adref, Llawdden

Gwae'r gwan dan oedrain nid edrych, - ni chwardd,
		Ni cherdda led y rhych;
	Gwae ni wy+l yn gynilwych,
	Gwae ni chlyw organ a chlych.
- Hen a Byddar, Guto'r Glyn

Mae'n wir y gwelir argoelyn - difai
		Wrth dyfiad y brigyn;
	A hysbys y dengys dyn
	O ba radd y bo'i wreiddyn.
- Bonedd, Tudur Aled

Ni chaiff dyn ronyn ond a rannodd -
		Ni cheir dim o'o anfodd;
	Nid pob un a'i dymunodd
	Yr aeth ei fyd wrth ei fodd.
- Duw a Ran, Sio+n Tudur

O gyweth difeth mewn deufyd, - Duw gwyn,
		Digonedd sy gennyd;
	Gyda rhoi nef im hefyd,
	Trefna beth tra fwy'n y byd.
- Deufyd, Sio+n Tudur

Y maban yn wan unwaith - y genir,
		Ac yna i dwf perffaith;
	Ban e+l yn faban eilwaith
	Buan daw i ben ei daith.
- Twf Dyn, Edmwnd Prys

Aeth henaint a+'m braint, a'm brig - a lwydodd,
		A'm aelodau'n ysig;
	Diffaith fydd pren gwyrennig
	Yn y fron pan grino'i frig.
- Llesgedd, Anon

Mae dolur difesur dan f'asau - 'n tramwy,
		Mae trymion feddyliau;
	Y mae enaid i minnau
	Er na chaf ffordd i'w choffáu.
- Gw+r Trwblus, Anon

O fo+r, o faenor, o fynydd - agos,
		O eigion afonydd
	Y daw Duw ar hyd y dydd
	Â da i adail y dedwydd.
- Gw+r Dedwydd, Anon

Ni tharia yn Lloegr noeth oeryn - o beth
		Byth hwy nag uyn flwyddyn;
	Lle macer yr aderyn,
	Llyna fyth y llwyn a fyn.
- Tynfa, Anon

Plennais, da gwisgais dew gysgod - o'th gylch
		Wedi'th gael yn barod;
	Wele, yr Hendre Waelod,
	Byddi di, a m'fi heb fod.
- Dyn a'i Gartref, Rhisiart Phylip

Od ydwyd, fal y dywedan', - yn ffo+l
		Ac yn ffals dy amcan,
	Hynod i Dduw ei hunan
	Fentro dy lunio mor la+n.
- Glendid, Anon

Onid pe+r clywed pori - yr ychen?
		Hir iechyd i'r rhieni.
	Gwledd ni cheid i arglwyddi.
	Na baich y+d oni bai chwi.
- Ychen, Anon

Fy Nuw, gwe+l finnau, Owen; - trugarha
		At ryw grydd aflawen
	Fel y gwnawn pe bawn i'n ben
	Nef, a thî o fath Owen.
- Trugaredd, Anon

Meini nadd a mynyddoedd - a gwaliau
		Ac olion dinasoedd
	A dail, dy fyfyrdod oedd,
	A hanesion hen oesoedd.
- Er Cof am Edward Lhuyd, Anon