Index: Morwyllt 1839-1921

Yr Ornest

Author: Morwyllt 1839-1921

Contributed by: David Wood

I bentre'r sir roedd pobl Môn
   Yn mynd yn lluoedd difyr,
Ac wrth ei gilydd pawb yn sôn
   Am ornest y meirchfilwyr.

"Pwy gariai'r dydd?" roedd holi mawr,
   Ac enwid llanciau dewrion,
Ond trechu'r oll a wnaeth ryw gawr,
   Rhyw gawr o wlad y Saeson:
Roedd hyn i'r Cymry yn sarhad,
Rhai fu mor enwog yn y gad.

Yr hen Gymry gwlatgar edrychent mewn trallod,
   Gan ofyn a ydyw'r meib dewr wedi darfod;
Digalon y gwragedd a'r annwyl rianod
   Wrth weled fod estron yn trechu'r holl wlad.

Y cawr farchogai 'mlaen ac ôl,
   A'r Cymry yn alarus,
A'i farch a'i garnau rwygai'r ddôl,
   A heriai yntau'n wawdus.

Ond hanner awr cyn hanner dydd,
   Yr adeg i derfynu,
Y dyrfa fawr gweiddi sydd
   Fod marchog yn dynesu:
I fewn i'r cylch ar garlam aeth,
A'i farch yn ewyn fel min traeth.

Ymdrechai'r ddau farchog yn fedrus a hoyw,
   Ond buan o'i gyfrwy y Sais gadd ei fwrw;
Y dewr Owain Tudur gadd glod y dydd hwnnw,
   A chadw bri Gwalia yn loyw a wnaeth!