Index: Alafon (Owen Griffith Owen) (1847-1916)

Dros y Ffin

Author: Alafon (Owen Griffith Owen) (1847-1916)

Contributed by: David Wood

Yng ngwyll y ffin, dywedent hwy,
  A thybiwn i fod hynny'n wir,
'Nis gwelir mwy, nis gwelir mwy,
  'Ddaw neb yn ôl o'r dirgel dir.'

Ond drosodd daethost lawer gwaith
  I sibrwd wrthyf, mi a wn;
A mi, ni holais am y daith,
  Rhy sanctaidd yw'r dirgelwch hwn.

Ni wyddant hwy, ond gwyddost ti
  A minnau am y troeon hyn;
Ti'n taflu trem neu air, a mi
  Yn gwrando ac yn sylwi'n syn.

Aderyn llwyd, na wn o b'le,
  I'm gardd daw ataf ambell dro;
A diarwybod fel efe
  Y deui dithau o dy fro.

A mi yn brudd, heb achos mawr,
  Ti weni eto, megis cynt;
A chywilyddiaf dan dy wawr,
  A ffy y pruddglwyf ar ei hynt.

Daw hiraeth neu anhawster blin,
  I'm rhwystro weithiau ar y daith;
Doi dithau weithiau dros y ffin,
  A'th air i mi yn ysbryd gwaith.

Mi wn fod ffin, mi wn fod llen,
  A gudd dy wlad oddi wrthym ni;
Ond gw+yr fy nghalon fwy na'm pen, -
  A'r ddirgel ffordd a wyddost ti.