Index: Alafon (Owen Griffith Owen) (1847-1916)

Yr Hen Fron 'r Erw

Author: Alafon (Owen Griffith Owen) (1847-1916)

Contributed by: David Wood

Bychan oedd yr Hen Fron 'r Erw,
      Eiddil, crwm;
Cludodd trwy ei fywyd chwerw
      Faich oedd drwm.
Dyna'i enw ar ei dyddyn,
      'Cramen sâl':
Ni fu'r perchen ddiwedd blwyddyn
      Heb ei dâl.

Codai'n fore, gweithiai'n galed
      Hyd yr hwyr;
Ni chadd llawer fwyd cyn saled,
      Nef a'i gw+yr.
Am y rhent a'r mân ofynion
      Cofiai fyth;
Ofnai weld cyn hir 'ryw ddynion'
      Wrth ei nyth.

Ef, o bawb a welai huan
      Mawr y nef,
Oedd y dinod waelaf druan
      Ganddo ef.
Anair i'w anifail roddai
      Yn y ffair:
Pob canmoliaeth a ddifoddai
      Gyda'i air.

Ar ei gorff 'r oedd ôl y teithio
      Hyd y tir;
Ar ei ddwylo ôl y gweithio,
      Oedd, yn glir.
Iddo beth fuasai fyned
      Môn i Went,
Os y gallai ef, oedd hyned,
      Hel y rhent?

Mynd i'r capel, er y blinder,
      Fynnai ef;
Ac ni chlywid sw+n gerwinder
      Yn ei lef.
Hen bererin hoff Bron 'r Erw!
      Mae'n beth syn,
Prin mae'n cofio am y berw
      Erbyn hyn.