Index: Owen Wynne Jones (Glasynys) 1828-1870

Bugeilgerdd Gw+yl Ifan

Author: Owen Wynne Jones (Glasynys) 1828-1870

Contributed by: David Wood

Awn allan, fwyn forynion,
Fe ddaeth Gw+yl Ifan ddoeth,
Boreddydd y Bedyddiwr gwyn
Sy'n euro'r bryniau noeth.
Awn allan efo'n gilydd
I droed y Mynydd Mawr
I rwymo'r llwdwn gwyn ei wlān
A blodau teg eu gwawr.
Cyn yfo'r haul y manwlith
O gwpan-flodau'r waun,
A chyn i'r tes a'i wridog wres
Ymwibio'n ōl a blaen,
Awn allan efo'n gilydd
I droed y Mynydd Mawr
I blethu grug yn gorlan glws
Cyn iddi dorri'r wawr.

Awn allan, fwyn forynion,
Mae'r cloddiau'n wyrddion las,
A'r adar glān yn ceincio cān
Rhwng brigau'r brysglwyn bras.
Awn allan efo'n gilydd.
O awel, saf yn syn,
I weled llun y crinllys cun
Yn llonydd ddwfr y llyn.
Awn allan yn gariadlon
I droed y Mynydd Mawr,
I ddisgwyl cān rhyw fugail glān
Cyn agor dorau'r wawr.
Awn, deuwn, efo'n gilydd,
A dawnsiwn ar y bryn,
Nes delo'r dydd i roddi'n rhydd
Y gwlanog lwdwn gwyn.