Index: R. Silyn Roberts (1871-1930)

Blodau

Author: R. Silyn Roberts (1871-1930)

Contributed by: David Wood

Pan rodiwn ddoe drwy'r berllan,
   Yr haul yng nglas y nen,
A'r coed afalau'n wynion
   O flodau uwch fy mhen,
Fy nghalon oedd yn curo
   Ei serch i wrido 'ngrudd
A'r adar bach yn sibrwd
   Dy enw yn y gwy+dd.

Ond heno mud yw'r adar
   A ganai yn y gwy+dd,
A loes annelwig baentia
   Ei llwydni ar fy ngrudd;
Awelon bro'r cysgodion
   A'u lleithder oera 'ngwaed,
A'r coed afalau'n bwrw
   Eu blodau dan fy nhraed.