Index: R. Silyn Roberts (1871-1930)

Llwybrau Bywyd

Author: R. Silyn Roberts (1871-1930)

Contributed by: David Wood

Mae ynys werdd yng nghefnfor poen;
Ac awel falm gwanwynol hoen
Gusana'r blodau ar ei bron
Yn sw+n galarnad prudd y don.

Ar fron y nos mae seren gu;
A deilen werdd ar ywen ddu;
Yn oergri'r gwynt ceir goslef hedd;
A blodyn gobaith dyf o'r bedd.

Tywynna'r haul yng nglesni'r nen
Pan ddua'r cwmwl gylch fy mhen;
A heb gynddaredd tymestl gref
Ni welid enfys yn y nef.

Try barrug llwyd y cyfnos prudd
Yn emau claer ar doriad dydd;
A pherlau gloywa'r nefol wawr
Fydd heilltion ddagrau'r cystudd mawr.