Index: Richard Hughes

Bywyd y Bugail

Richard Hughes

Contributed by: David Wood

Diofal yw bywyd y bugail da'i awen,
A+'i god ac a+'i gostrel fo'i gwna hi mor llawen.
Mae ganddo'r gweiddgloddiau o'u hofian pan fynno
A'i bibau newyddion ar lasfryn crwn cryno.

	Tra mynno, tra mynno y ca+n pan ei tynno,
	A'i bibau newyddion ar lasfryn crwn cryno.

A'i ddefaid o'i amgylch yn pori 'rhyd dolydd,
Bara gwyn, cwrw, caws, lonaid ei goludd,
A'i gostog o'i ymyl o'i annos, pan fynno,
I drosi'r holl ddefaid ar lasfryn crwn cryno.

	Tra mynno, tra mynno y ca+n pan ei tynno,
	A'i bibau newyddion ar lasfryn crwn cryno.

Rhag gwres y Mehefin a+ dan y dail irion,
Rhag oerwynt y gwanwyn dan glawdd neu dwlc tirion,
O groen yr hen ddafad neu'r oen cynta' a rynno
Gwna ddyrnfyl a bacsau dan lasfryn crwn cryno.

	Tra mynno, tra mynno y ca+n pan ei tynno,
	A'i bibau newyddion ar lasfryn crwn cryno.