Index: Richard Hughes

Y Bardd a'i Gariad

Author: Richard Hughes

Contributed by: David Wood

'Gwrando, f'enaid, gwrando'n rhodd,
Gwrando draethu'r sut a'r modd
A'r gwir achos y rhois arnad
Fy llwyr fryd a'm serch a'm cariad.'

'Doeth a gwir yw'r hen ddihabre:
"Haws yw gwrando na rhoi ateb."
Cymrwch gennad, doedwch ddigon,
Byddwch siw gael byr atebion.'

'Cynta' man o'th gorff a hoffais,
Y ddau dduon loywon lednais,
Y rhain a ddichon ag un troad
Lwyr iachu neu ladd dy gariad.'

'Bychan iawn yw gwraidd dy gariad
O cynhwysi fo'n fy llygad:
Hawsa man y medra'i guddio,
Lleia'i sym, ond rheitia' wrtho.'

'Pwy ni chare'r ddwy ael feinion
Sy'n cysgodi'r ddeurudd wynion,
Lle mae'r rhosyn coch a'r lili
Yn ymddangos dan ymberchi?'

'Odid fab a blan ei gariad
Ar na grudd nac ael na llygad
Ond ar feder, pan i mynno,
Godi dw o gylch lle'i planno.'

'Y dedwyddwas a ga gennad
Ar dy rudd i blannu'i gariad,
Can brath dager yn ei galon
A gode ddw o'r fath ffynnon.'

'Oddi wrth ddw a heilltion ddagre
Ymadewais heddiw'r bore;
Odid eilwaith cyn pen wythnos
Na cha'u cyfwrdd nhw'n ddiachos.'

'Os natur d'w drwg a staenodd
Y grudd glana' erioed a wenodd,
Mi a ercha' i Dduw, a thithe'n ddiddrwg,
Na ddelo d'w byth yn dy olwg.'

'Angharedig yw'ch damuniad
O w sydd yn cynnig cariad -
Peri im golli 'nagre heilltion,
Rhyddid corff ac engdwr calon.'

'Anghredigrwydd, drwg newyddion,
A mwg tost tan irgoed gleision
A geir weithiau'n peri i'r merched,
Medd a'u hedwyn, ollwng llyged.'

'Tan y coed erioed ni cherais,
Na mwg tost, da'i gwn nas haeddais;
Ond gw Duw a Mair pei digiwn
Yn fy myw fy ngrudd ni sychwn.'

'Lle bo gw o wan gredinieth,
O cyll un, fe chwilia am ddeubeth;
Rhag eich enaid nedwch iddo
Fynd i uffern am gam dybio.'

'Y mab, madde, ac mi addawa',
Cyn diweddiad mis Gorffenna',
O cha' i amser, modd a chyfle,
Er mwyn f'enaid mi wna' 'ngore.'

'I'r glas lwyni cyll tan irddail
Lle mae'r cnau'n brigdrymu'r gwiail
Tyrd, a hel o'r cnau gwisga,'
A chadw dair heb dorri'n gyfa.'

O gofynnir pwy a'i canodd,
Dic a merch erioed a garodd;
'Rwy' fel Indeg yn ynfydu
Na alla'i henwi, ei chael na'i chelu.