Index: Owen M. Edwards

Gwaith Samuel Roberts

Author: Samuel Roberts

Contributed by: David Price

Transcribed from the 1906 Ab Owen edition by David Price, email ccx074@coventry.ac.uk

Rhagymadrodd.

Ganwyd Samuel Roberts yn Llanbrynmair, Mawrth 6, 1800.  Bu farw yng Nghonwy, Medi 24, 1885; ac ym mynwent gyhoeddus Conwy y rhoddwyd ef i huno.

O’r Diwygiad y cododd teulu galluog S. R.  Yr oedd ei dad, John Roberts, er 1798 yn olynydd i Richard Tibbot a Lewis Rees fel gweinidog Hen Gapel Llanbrynmair.  Dyma enwau aelodau mwyaf adnabyddus y teulu,—

                  John Roberts - Mary Brees y Coed.
                  (1767-1834)  |
                               |
         +--------+------------+--------+-------------+
       Maria   Samuel         Anna     John        Richard
      (1797)   (S.R.)        (1801)    (J.R.) (Gruffydd Rhisiart)
         |  (1800-1885)            (1804-1884)     (1810-1883)
         |
     Gohebydd
        - 1877.

Symudodd John Roberts a’i deulu, tua 1806, o Dy’r Capel i ffermdy y Diosg dros yr afon ar gyfer.  “Tyddyn bychan gwlyb, oer, creigiog, anial, yng nghefn haul, ar ochr ogleddol llechwedd serth” oedd y Diosg; ac efe yw Cilhaul.

Daeth S. R. yn gynorthwywr i’w dad fel gweinidog yn 1827; dilynodd ef fel tenant y Diosg yn 1834.  Cyn 1856, yr oedd y brodyr wedi penderfynu gadael Llanbrynmair,—aeth J. R. yn weinidog i Ruthyn, a hwyliodd S. R. a Gruffydd Rhisiart i’r America.

Cychwynodd S. R. o Lerpwl Mai 6, 1857; cyrhaeddodd yno ’n ol Awst 30, 1867.  Yr oedd wedi ei siomi yn y gorllewin ac wedi troi ei gefn ar dŷ ei alltudiaeth,—Bryn y Ffynnon, Scott Co., East Tennessee.  Cafodd ei dwyllo gan y rhai oedd yn gwerthu tir; darlunnir hwy ym Martin Chuzzlewit Dickens.  Nid oedd wedi sylweddoli, hwyrach, mor erwin yw’r ymdrech mewn gwlad anial.  A daeth y Rhyfel Cartrefol i andwyo ei amgylchiadau.  Teimlai fod y ddwy ochr i’w beio, ac mai dyledswydd y Gogledd oedd talu pris rhyddhad y caethion i wyr y De.

O 1867 ymlaen ail ymunodd y teulu, a bu’r tri brawd byw yn yr un cartref yng Nghonwy hyd nes y cludwyd hwy i’r un fynwent.

Ychydig iawn oedd yn fwy adnabyddus nag S. R. yn ei ddydd yng Nghymru.  Bu ef a’i frodyr mewn llu o ddadleuon,—y mae y gornestwyr oll wedi tewi erbyn hyn,—a gwnaethant lawer i ddeffro gwlad.  Bu ei Gronicl yn foddion addysg i filoedd.  Bu ef ei hun yn llais i amaethwyr Cymru, ac yn llais i werin yn erbyn gorthrwm o bob math.  Cyhoeddwyd cofiant am dano ef a’i frodyr yn y Bala, gan y Dr. E. Pan Jones.

Wele ddwy ran nodweddiadol o’i waith.  Bu y Caniadau yn hynod boblogaidd; y teulu yn Llanbrynmair yw’r “Teulu Dedwydd.”  Hwy hefyd yw teulu “Cilhaul,” ac y maent y darlun goreu a chywiraf o ffermwyr Cymru dynnwyd eto.

OWEN EDWARDS.
Llanuwchllyn,
Awst 1, 1906.

Photograph of Samuel Roberts, Llanbrynmair

CYNHWYSAID.

1.  CANIADAU BYRION.

[Argraffwyd y Caniadau hyn laweroedd o weithiau, ac y maent wedi bod yn foddion cysur i genhedlaethau o werinwyr.  Dont o flaen adeg y Bardd Newydd, nid oes dim yn gyfriniol yn eu dyngarwch syml, eu tynherwch mwyn, a’u synwyr cyffredin cryf.]

Y Teulu Dedwydd
Marwolaeth y Cristion 
Y Lili Gwywedig      
Cân y Nefoedd   
Ar farwolaeth maban   
Y Cristion yn hwylio i fôr gwynfyd
Cwyn a Chysur Henaint
Mae Nhad wrth y Llyw
Y Ddau Blentyn Amddifad
Cyfarchiad ar Wyl Priodas
Dinystr Byddin Sennacherib
Gweddi Plentyn
Cwynion Yamba, y Gaethes ddu
Y creulondeb o fflangellu benywod
Y fenyw wenieithus
Y Twyllwr hudawl
Darostyngiad a Derchafiad Crist
Buddugoliaethau yr Efengyl yn y Mil Blynyddoedd

II.  CILHAUL UCHAF.

[Darlun o fywyd amaethwr, a’i ofidiau, yn hanner cyntaf y ganrif ddiweddaf.  Mae’n fyw ac yn werthfawr am ei fod yn wir.  Dyma’r bywyd gynhyrchodd oreu Cymru, a dyma’r bywyd hapusaf a iachaf yn y byd.]

John Careful, Cilhaul Uchaf.  Senn y Steward.  Gwobrwyon John Careful am wella ei dir,—I. Colli ei arian.  II. Codi ei rent.  III. Codi’r degwm.  IV. Codi’r trethi.  V. Rhoi cerdod i Peggy Slwt Slow nes y cai fynd ar y plwy.  VI. Rhoi benthyg arian i Billy Active i ymfudo.

Jacob Highmind.  Cario chwedlau i’r steward.  Notice to quit i John Careful.

Pryder y teulu; troi golwg tua’r Amerig.  Squire Speedwell yn ymyrryd.  Yr ysgwrs rhwng Lord Protection a John Careful.  Swn y bytheuaid.  Meistr tir a steward.  Ymadael o Gilhaul.

Yr Highminds yn denantiaid newyddion.  Mynd i’r dim.  Cilhaul ar law.  Y steward yn sylweddoli anhawsterau’r ffermwyr.  Hen wr Hafod Hwntw.  Gweld colled am ffermwyr gonest di-dderbyn wyneb.

III.  BYWYDAU DISTADL.

[Ysgrifennodd S.R. hanes rhai adwaenai, yn fyrr iawn, yn y Cronicl.  Distadl oeddynt, ac y mae swyn pennaf bywyd Cymru yn eu hanes dinod.  Nid oes le yn y gyfrol hon ond i ddau yn unig o’r llu, sef cardotes a gwas ffarm.]

Mary Williams, Garsiwn

Thomas Evans, Aber

Y Darlunìau.

Samuel Roberts
Darlun o’r Oriel Gymreig, dynnwyd gan y diweddar John Thomas.

Bwthyn ym Maldwyn
O’r Oriel Gymreig.

“Mewn hyfryd fan ar ael y bryn,
   Mi welwn fwthyn bychan;
A’i furiau yn galchedig wyn,
   Bob mymryn, mewn ac allan”

Pont Llanbrynmair
O’r Oriel Gymreig.

Dan Haul y Prydnawn
O’r Oriel Gymreig.
Darlun o dai yn Llanbrynmair dan dywyniad haul yr Hydref.

Cyflwynwyr Tysteb S. R.
O’r Oriel Gymreig.

Cyflwynwyd y dysteb yn Lerpwl yn union wedi dychweliad S. R. o’r America.  Eistedd Caledfryn yn y canol, a’i bwys ar ei ffon.  Ar ei law chwith eistedd S.R., a J. R. yn agosaf ato yntau.  Wrth gefn y ddau frawd saif y Gohebydd, eu nai, a chadwen ar ei fron.  Yn union y tu cefn i S. R., yn dalaf o bawb sydd ar eu traed, saif Mynyddog.

Ffrwd y Mynydd
O’r Oriel Gymreig.
Darlun o olygfa yn ucheldir Llanbrynmair.

My Lord
H. Williams.

Talu’r Rhent
H. Williams.

CANIADAU BYRION.

Bwthyn ym Maldwyn

Y TEULU DEDWYDD.

Wrth ddringo bryn ar fore teg,
   Wrth hedeg o’m golygon,
Gan syllu ar afonig hardd,
   A gardd, a dolydd gwyrddion;
Mewn hyfryd fan ar ael y bryn
   Mi welwn fwthyn bychan,
A’i furiau yn galchedig wyn
   Bob mymryn, mewn ac allan.

Canghennau tewfrig gwinwydd îr
   Addurnant fur y talcen,
A than y tô yn ddof a gwâr
   Y trydar y golomen;
O flaen y drws, o fewn yr ardd,
   Tardd lili a briallu;
Ac O mor hyfryd ar y ffridd
   Mae blodau’r dydd yn tyfu.

Wrth glawdd yr ardd, yn ngwyneb haul,
   Ac hyd y dail, mae’r gwenyn
Yn diwyd gasglu mêl bob awr
   I’w diliau cyn daw’r dryc-hin;
Ar bwys y ty, mewn diogel bant,
   Mae lle i’r plant i chwareu;
Ac yno’n fwyn, ar fin y nant,
   Y trefnant eu teganau.

O fewn y ty mae’r dodrefn oll,
   Heb goll, yn lân a threfnus;
A lle i eistedd wrth y tân
   Ar aelwyd lân gysurus;
Y Teulu Dedwydd yno sy
   Yn byw yn gu ac anwyl;
A phob un hefyd sydd o hyd
   Yn ddiwyd wrth ei orchwyl.

Ychwaith ni chlywir yn eu plith
   Neb byth yn trin na grwgnach,
Ond pawb yn gwneyd eu goraf i
   Felysu y gyfeillach;
Mae golwg iachus, liwus, lon,
   A thirion ar bob wyneb;
A than bob bron y gorffwys hedd,
   Tagnefedd, a sirioldeb.

Pan ddel yr hwyr, ac iddynt gwrdd,
   Oddeutu’r bwrdd eisteddant;
Ac am y bwyd, o hyd nes daw,
   Yn ddistaw y disgwyliant;
Pan ddyd y fam y bwyd gerbron
   Gwnant gyson geisio bendith;
Ac wedi ’n, pan eu porthi gânt,
   Diolchant yn ddiragrith.

Ar air y tad, â siriol wên,
   A’r mab i ddarllen pennod;
Ac yna oll, mewn pwysig fodd,
   Codant i adrodd adnod;
Yr emyn hwyrol yn y fan
   Roir allan gan yr i’angaf,
Ac unant oll i seinio mawl
   Cysonawl i’r Goruchaf.

Y tad a dd’wêd ddwys air mewn pryd
   Am bethau byd tragwyddol;
Y fam rydd ei Hamen, a’r plant
   Wrandawant yn ddifrifol;
Wrth orsedd gras, o flaen yr Ior,
   Y bychan gôr gydblygant;
A’u holl achosion, o bob rhyw,
   I ofal Duw gyflwynant.

Am ras a hedd, a nawdd y Nef,
   Y codant lef ddiffuant;
A Duw a ystyr yn gu-fwyn
   Eu cwyn a’u holl ddymuniant;
Ac O! na fedrwn adrodd fel
   Mae’r tawel Deulu Dedwydd,
Mewn gwylaidd barch, ond nid yn brudd,
   Yn cadw dydd yr Arglwydd.

Yn fore iawn, mewn nefol hwyl
   I gadw’r wyl cyfodant;
Ac wedi ceisio Duw a’i wedd,
   I’w dŷ mewn hedd cydgerddant;
Fe’u gwelir gyda’r fintai gu
   Sy’n cyrchu i’r addoliad;
Ac yn eu côr, ym mhabell Ion,
   Yn gyson ceir hwy’n wastad.

Ceir clywed mwynber leisiau’r plant
   Mewn moliant yn cyfodi,
A’u gweld yn ddifrif-ddwys o hyd,
   Ac astud, wrth addoli;
Ni wâg ymrodiant i un man
   I hepian na gloddesta;
Ond bydd eu calon gyda gwaith
   A chyfraith y Gorucha’.

Pob un, â’i Feibl yn ei law,
   I’r ysgol ddaw’n amserol;
Ac yn eu cylch fe’u ceir bob pryd
   Yn ddiwyd a defnyddiol;
Pan ddeuant adre’r nos yn nghyd
   I gyd, a’r drws yn nghauad,
Dechreuant ddweyd yn bwysig rydd
   Am waith y dydd, a’u profiad.

Mor fwyn eu cân! mor ddwys pob gair,
   Ac O mor daer eu gweddi!
A Duw yn siriol wenu ar
   Y duwiol hawddgar deulu;
Gwir nad oes ganddynt ddodrefn aur,
   Na disglaer lestri arian,
Na llawrlen ddrudfawr yn y tŷ,
   Na gwely-lenni sidan.

Ni feddant seigiau mawr eu rhin,
   Na melus win na moethau,
Na thuedd byth i flysio’n ffol
   Frenhinol arlwyadau;
Ond mae rhinweddol win a llaeth
   Yr iechydwriaeth ganddynt;
A Christ yn Frawd, a Duw yn Dad
   A thirion Geidwad iddynt.

Fe’u ceidw’n ddiogel rhag pob braw,
   Ac yn Ei law fe’u harwain,
Nes dwyn pob un i ben ei daith
   Trwy hirfaith dir wylofain;
Pob un a gyrraedd yn ei dro
   Hyfrydawl fro paradwys;
Ac yno’n dawel berffaith rydd
   Y cânt dragwyddol orffwys.

MARWOLAETH Y CRISTION.

Gristion hawddgar!  Daeth yr adeg
   It’ ehedeg at dy Dad;
Gad dy lesgedd, hwylia’th edyn,
   Cyfod, cychwyn tua’th wlad;
Sych dy ddagrau, dechreu ganu,
   Darfu’th bechu, darfu’th boen;
Ti gei bellach dawel orffwys
   Ym mharadwys gyda’r Oen.

Er fod afon angau’n donnog,
   A llen niwlog dros y glyn,
Gwel dy Briod cu yn dyfod
   I’th gyfarfod y pryd hyn;
Dacw’r gelyn wrth ei gadwyn,
   Heb ei golyn, dan ei glwy’;
Dacw uffern wedi ’i maeddu:-
   Gristion! pam yr ofni mwy?

Yn y dyffryn, er mor dywyll,
   Gwelaf ganwyll ddisglaer draw,
Wedi ’i chynneu i’th oleuo,
   Rhag it’ lithro ar un law;
Mae dy Iesu wedi blaenu,
   Wedi torri grym y donn;
Pam yr ofni groesi’r dyffryn?
   Pam mae dychryn dan dy fron?

Eilia’th gân, mae’r nos yn cilio,
   Gwel, mae gwawl yn hulio’r glyn:
Edrych trwy y niwlen deneu,
   Gwel drigfannau Seion fryn:
Gwel, mae hyfryd wên dragwyddol,
   Heulwen nefol ar y wlad;
Gwel mor ddisglaer deg danbeidiol
   Yw brenhinol lys dy Dad.

Gwel y dirif seirian berlau
   Wisgant furiau’r nefol gaer;
Gwel ei huchel byrth disgleirdeg,
   A’i llydain dêg heolydd aur;
Gwel yr afon bur redegog,
   Gwel y deiliog ffrwythlawn bren;
Gwel y llwybrau a’r trigfannau
   Sydd i’r seintiau uwch y nen.

Gwel y dedwydd brynedigion
   Yn eu gynau gwynion draw,
Wedi gwisgo eu coronau,
   A’u telynau yn eu llaw;
Yuo’n gorffwys, gyda’u gilydd,
   Mewn llawenydd pur dilyth,
Heb na loes, na chroes, na phechod,
   Mwyach i’w cyfarfod byth.

Gwel y gosgordd-lu yn cychwyn
   I’th ymofyn idd eu mysg;
Gwel dy Brynwr, mewn gwên siriol,
   Yn ei hardd gyfryngol wisg;
Clyw, mae’r clychau oll yn canu,
   I’th groesawu tua thref;
Clyw bereiddlawn seingar donau
   Aur delynau côr y nef.

Gwel dy gerbyd wrth yr afon,
   Gwel dy goron,—gad dy gledd;
Cymer bellach dawel feddiant
   O ogoniant gwlad yr hedd,
Ffarwel iti, collaf bellach
   Dy gyfeillach a dy wedd,
Hyd nes cawn gyfarfod eto
   Yn y fro tu draw i’r bedd.

Y LILI GWYWEDIG.

Galar-gân Mam ar Farwolaeth Maban Mynwesol.

Caed Lili têg, mewn hyfryd fan,
   Ar gorsen wan yn tyfu;
Ei hawddgar liw, a’i gywrain lun,
   Wnai i bob un ei garu;
Ei berchen o anwyldeb âi,
   A siriol syllai arno,
Mewn gobaith hoff o’i gadw’n îr
   Am dymor hir heb wywo.

Ond ar ddiwrnod tywyll du,
   Y gobaith cu ddiflannodd;
Daeth awel oer ’nol heulwen haf,
   A’r Lili braf a wywodd;
Mae’n awr yn gorwedd yn y llwch,
   Heb degwch yn wywedig;
A’i berchen deimla dan ei bron
   Ei chalon yn glwyfedig.

Ochenaid ddwys o’i mynwes wan,
   Ac egwan lef sy’n codi,—
“A raid im’ golli’r olwg ar
   Fy hawddgar wiwber Lili?
Flodeuyn hardd! dy golli raid,
   Er dibaid dywallt dagrau;
Llwyr ddiflanedig ’nawr yw drych
   Dy unwaith harddwych liwiau.

“Dy addurnedig wisgoedd braf,
   Eu gweled ni chaf mwyach;
Wrth syllu ar dy le, nid wyf
   Ond gwneyd y clwyf yn ddyfnach.”
Ar hyn, pan ydoedd natur wan
   O dan y groes yn suddo,
I arllwys balm i’r galon brudd
   Daeth gwiw Ddiddanydd heibio.

Yn dirion (nid i beri braw)
   Ei ddeheu-law estynnai;
Cyd-deimlo wnai wrth wrando’i chŵyn,
   Ac mewn iaith fwyn dywedai,
“Na wyla mwy,—dy Lili hardd
   Sy’n awr yng ngardd paradwys,
Mewn tawel gynnes nefol fro
   Yn ail-flodeuo’n wiwlwys.

“Ei nôdd, ei ddail, ei arogl pêr,
   Ei liwiau têr a hawddgar,
Rhagorach fyrdd o weithiau ynt
   Nag oeddynt ar y ddaear.
Ei weled gei ar fyr o dro
   Yn gwisgo harddwch nefol:
I’r ddedwydd wlad dy gyrchu wnaf,
   Lle t’wyna haf tragwyddol.”

CAN Y NEFOEDD.

Fy enaid blinedig! cwyd d’edyn yn awr,
Ehed trwy’r wybrennau uwch gofid y llawr,
I glywed nefolion yn seinio’r trwy’r nen
Fawl ganiad i’r Iesu, dy Briod a’th Ben.

Mor hardd Ei frenhinwisg, mor uchel Ei sedd,
Mor ddisglaer Ei goron, mor siriol Ei wedd;
Aur-seren awdurdod sy’n awr ar y fron
Fu gynt yn llif-waedu o glwy’r waew-ffon.

Angylaidd gantorion gydunant mewn cân
A seintiau fil miloedd, a’u gwisgoedd yn lân;
A broydd a bryniau tragwyddol y nef
Trwy’r dedwydd ororau adseiniant eu llef.

Y llu archangylaidd ddechreuant y gainc,
Gan barchus gydblygu o amgylch Ei fainc:
Y saint a’u coronau wnant balmant i’w draed,
Gan felus gydganu am rinwedd ei waed.

Pan daniodd Ei fynwes, pan gododd mewn brys,
Gan adael Ei orsedd, a’i goron, a’i lys,
A hedeg heb oedi o fynwes Ei Dad,
Ar edyn trugaredd, at ddyn yn Ei waed;

Pan welwyd E’n Faban mewn gwael egwan gnawd,
Etifedd y nefoedd o’i wirfodd yn dlawd,
Angylion a seintiau a floeddient yng nghyd,
“Gogoniant trwy’r nefoedd, Tangnefedd trwy’r byd.”

Pan rodiai o amgylch, gan wneuthur lleshad
I gloffion, a deillion, a chleifion yn rhad,
Gan alw’r blinderog, yn serchog a llon,
I orffwys yn dawel eu pwys ar Ei fron,—

Pan godai yn erbyn pyrth uffern Ei gledd,
Gan siglo sylfeini hen garchar y bedd,—
Dyrchafu yn hyfryd bêr-seiniawl wnai’r gân,
A bywiol orfoledd wnai’r nefoedd yn dân.

Ond sydyn!—pan ydoedd pob telyn mewn hwyl,
A’r udgyrn yn seinio fel ar uchel wyl,—
Wrth daro’r nôd uchaf cydsyniai’r dorf hardd
Ei weled E’n chwysu mewn ing yn yr ardd.

Pan welwyd E’n gwaedu dan hoelion ar bren,
Pan wanwyd Ei fynwes, pan glwyfwyd Ei ben,
Pan yfodd E’r cwpan, pan gollodd fwynhad
Diddanol gysuron gwedd wyneb Ei Dad;

Pan gododd Cyfiawnder i’w erbyn Ei gledd,
Pan welwyd E’n gorwedd yng ngharchar y bedd,
Dyrysodd telynau cantorion y nef,
Ymlaesodd pob aden, distawodd pob llef.

Ar unwaith ymdaenodd tywyllwch fel llen
Dros harddwych drigfauau dedwyddawl y nen;
Cydwywodd y blodau, dadhwyliodd pob tant,
Llesgaodd pob seraff—pob angel—pob sant.

Ond bore’r adgodiad, ar doriad y dydd,
Pan neidiodd y Cadarn o’i gadwyn yn rhydd,
Gan ymdaith o Edom yn amlder ei rym,
Mewn harddwisg borfforaidd, a’i gleddyf yn llym;

Pan gododd hardd-faner trugaredd a hedd,
Ac yn Ei law waedlyd agoriad y bedd,
Gan floeddio’n fuddugol, “Enillais y dydd—
“Gorchfygais bob gelyn—daw’r caethion yn rhydd,”—

Mil myrdd o gantorion, yn gydsain eu llef,
Ail-seinient yr Anthem, hwyl lawen trwy’r nef;
Gan floeddio caniadau, mewn tonau mor bêr,
Nes siglo y bydoedd gan adsain y ser.

Angylaidd osgorddion ehedent mewn brys
I dywys eu Brenin i orsedd Ei lys;
Ar balmant o berlau olwynai i’r nen,
A’r seirian byrth oesawl ddyrchafent eu pen.

’Nol disgyn o’i gerbyd, ac esgyn Ei sedd,
Ei euraidd deyrnwialen estynnai mewn hedd,
Gan ddwyn agoriadau llywodraeth Ei Dad,
Ac anfon i ddynion Ei roddion yn rhad.

Rho heibio ’nawr, f’awen, cyn gorffen dy gân,
Rhag boddi ar unwaith mewn syndod yn lân;
Nid da cynnyg nofio—’rwyt eto’n rhy wan—
Mewn môr o ryfeddod, heb waelod na glan.

I erfyn maddeuant, plyg ’nawr wrth Ei draed,
Ymorffwys am fywyd ar rinwedd Ei waed;
Cei ddianc ar fyrder o’th garchar o gnawd,
I orffwys ym mynwes dy fwyn hynaf Frawd.

Ei wyneb cu hardd-deg gei weled heb len;
Ac yna, dan ganu, coroni Ei ben;
Pan welir y ddaear yn wenfflam o dân,
Mawr fydd dy orfoledd, a melus dy gân.

AR FARWOLAETH MABAN.

Daeth yma i’r byd i weld ein gwae,
   Lle mae gorthrymder garw;
Ond trodd ei egwein lygaid draw,
   Gan godi ’i law a marw.

Er dod am dro i’n daear ni
   I brofi’r cwpan chwerw;
Ni fynnai aros is y nen,
   Trodd draw ei ben i farw.

Dros ennyd ferr fe rodd ei glust
   I wrando’n trist riddfannau;
Ond buan, buan, blino wnaeth,
   A hedodd ymaith adre’.

Ni chawn ei weled yma mwy
   Dan unrhyw glwy’n galaru;
Mae wrth ei fodd ar Seion fryn,
   A’i dannau’n dynn yn canu,

Ni welir deigryn ar ei rudd,
   Na’i wedd yn brudd wylofus;
Ni chlywir mwy o’i enau ef
   Un egwan lef gwynfannus.

Ni chaiff y fam byth, mae’n ddilys,
   Waith sychu ’i chwys a’i ddagrau,
Na chwaith ei gynnal, pan yn wan,
   I gwynfan yn ei breichiau.

Ni rydd un gelyn iddo glwy,
   Nis gellir mwy ei faglu;
Ni welir ef yn dewis rhan
   Gyda’r annuwiol deulu.

Ni chaiff y tad na’r fam byth mwy
   Boen trwy ei weld yn pechu:
Nid ofnant iddo yn ei oes
   Ddwyn croes ar achos Iesu.

Fe darddodd ffynnon ar y bryn
   I’w gannu’n wyn, a chymhwys
I lanw lle yn mhlith y llu
   Sy’n canu ym mharadwys.

Diangodd draw i wlad yr hedd
   O gyrraedd pob rhyw ddrygfyd,
Ac uno wnaeth â’r nefol lu
   I ganu fry mewn gwynfyd.

Mewn teulu duwiol yn y byd,
   Tra hyfryd y gyfeillach;
Ond fry ymhlith y nefol hil
   Y bydd yn fil melusach.

Heb unrhyw boen o dan y fron,
   Mae ’nawr yn llon a dedwydd:
A’r pur orfoledd yno sy
   A bery yn dragywydd.

Er rhoi ei gorff yng ngwaelod bedd
   I orwedd a malurio,
Daw bore hyfryd yn y man
   Y cwyd i’r lan oddiyno.

Cawn gydgyfarfod fry mewn hedd,
   Tudraw i’r bedd yn dawel;
Ac uno i ganu yn ddilyth,
   Heb achos byth ymadael.

Y CRISTION YN HWYLIO I FÔR GWYNFYD.

Fel morwr cyfarwydd wrth ddedwydd fordwyaw,
Yn troi yn dra medrus ei lyw â’i ddeheulaw,
Gan ganu wrth ledu ei hwyliau claerwynion
I farchog y cefnllif o flaen yr awelon,—
Mae’r Cristion yn gadael anialdir marwoldeb,
Gan hwylio yn dawel i fôr bythol burdeb.
Pan ddel y gorchymyn mae’n lledu ei hwyliau,
Heb ofni’r Iorddonen, nac ymchwydd ei thonnau;
Gan wenu heb ddychryn, wrth gychwyn, mae’n canu,—
“O’m golwg yn gyflym mae’r byd yn diflannu,
Diangaf yn fuan o gyrraedd gofidiau,
Tawelu mae’r gwyntoedd, llonyddu mae’r tonnau,
Mae’r heulwen yn gwenu, a’r wybren yn siriol,
Caf nofio mewn moroedd o wynfyd tragwyddol.”

CWYN A CHYSUR HENAINT.

Ymgiliodd y gaeaf, mae’r gwanwyn yn gwenu,
Mae’r oenig yn neidio, a’r durtur yn canu;
Mae’r coedydd, a’r dolydd, a’r gerddi’n blodeuo;
A minnau gan nychdod a henaint yn gwywo. 
   Mae f’einioes yn cilio, a’m dyddiau bron darfod,
   Caf fyned i orffwys yn fuan i’r beddrod.

Mae’r i’enctid o’m hamgylch yn heinyf a chryfion,
Yn wridog eu gruddiau, yn llawen eu calon,
Yn siriol gydrodio’n finteioedd diddanus,
A minnau fy hunan yn llesg a methiannus. 
   Mae f’einioes yn cilio, a’m dyddiau bron darfod,
   Caf fyned i orffwys yn fuan i’r beddrod.

Bu amser, ’rwy’n cofio, pan gynt ’roeddwn innau
Mor heinyf, a bywiog, a gwridog a hwythau,
A’m dwyfron yn llawen, a’m cân yn soniarus;
Ond ciliodd fel cysgod, fy hafddydd diddanus. 
   Mae f’einoes yn cilio, a’m dyddiau bron darfod,
   Caf fyned i orffwys yn fuan i’r beddrod.

Diangodd holl dirion gymdeithion fy mebyd,
O gyrraedd marwoldeb, i dawel fro gwynfyd;
A minnau, heb gymar, adawyd fy hunan.
Mae’m calon, gan hiraeth, yn rhy lesg i gwynfan. 
   Mae f’einioes yn cilio, a’m dyddiau bron darfod,
   Caf fyned i orffwys yn fuan i’r beddrod.

Mae ceidwad y babell gan wendid yn crynnu,
A’r heinyf wyr cryfion yn awr yn cydgrymu;
Swn isel, wrth falu, wna’r felin fethedig,
Ychydig yw’r meini, ac oll yn sigledig. 
   Mae f’einioes yn cilio, a’m dyddiau bron darfod,
   Caf fyned i orffwys yn fuan i’r beddrod.

Y gloewon ffenestri gan lenni dywyllwyd,
A llydain byrth mwyniant gan henaint a gauwyd;
Y cwsg a lwyr gilia wrth lais yr aderyn,
A baich ar yr ysgwydd fydd ceiliog y rhedyn.
   Mae f’einioes yn cilio, a’m dyddiau bron darfod,
   Caf fyned i orffwys yn fuan i’r beddrod.

Holl ferched cerddoriaeth ar unwaith ostyngir,
A phopeth, wrth araf ymlwybro, a ofn;
Mae chwant wedi pallu, ’does dim rydd ddiddanwch,
Diflannodd pob seren dan ddulen tywyllwch.
   Mae f’einioes yn cilio, a’m dyddiau bron darfod,
   Caf fyned i orffwys yn fuan i’r beddrod.

Y cawg aur a’r piser yn fuan a ddryllir,
Y llinyn ariannaidd a’r olwyn a dorrir;
Ychydig sy’n aros o flodau’r pren almon;
Dadfeilio mae’r babell, llewygu mae’r galon.
   Mae f’einioes yn cilio, a’m dyddiau bron darfod,
   Caf fyned i orffwys yn fuan i’r beddnod.

Hosanna!—’Rwyn teimlo fy llesg gorff yn datod,
Mae’n addfed o’r diwedd i fyned i’w feddrod;
Caiff gysgu heb ddychryn, dros ronyn, yn dawel,
Nes hyfryd ddihuno wrth floedd yr archangel. 
   Ac yna, heb lygredd, caiff godi’n dra siriol,
   I ddedwydd deyrnasu mewn i’enctid tragwyddol.

Ar edyn angylaidd, heb lesgedd na methiant,
Caf esgyn i dawel ororau gogoniant,
I dderbyn y palmwydd, y delyn, a’r goron,
A chlywed peroriaeth nefolaidd gantorion;
   Ac yna caf brofi’r gymdeithas a’r gwleddoedd
   Sy’n bythol goroni dedwyddwch y nefoedd.

“MAE NHAD WRTH Y LLYW.”

Draw, draw ar y cefnfor, ar noson ddu oer,
’Roedd cwch bach yn hwylio heb seren na lloer;
A rhuad y tonnau, a’r gwyntoedd, a’r gwlaw,
A lanwai fynwesau y morwyr o fraw.

Ond bachgen y cadben, yn llawen a llon,
A dd’wedai dan wenu, heb ddychryn i’w fron,—
“Er gwaethaf y tonnau awn adref yn fyw:
Pa raid ini ofni?—Mae Nhad wrth y Llyw.”

O blentyn y nefoedd!  Paham mae dy fron
Mor ofnus wrth weled gwyllt ymchwydd y donn?
Mae’r dyfnder du tywyll yn rhuo, gwir yw;
Ond diogel yw’th fywyd—Mae’th Dad wrth y Llyw.

Daw’n fuan orfoledd diddiwedd i’th ran;
Draw’n disgwyl mae’th geraint oddeutu y lan:
Y disglaer lys acw, dy hoff gartref yw;
Mae Canan yn ymyl, a’th Dad wrth y Llyw.

Cwyd bellach dy hwyliau, mae’r awel o’th du,
’Rwyt bron mynd i fynwes dy fwyn Brynwr cu;
Mae’th angor yn ddiogel, a’th Gadben yn fyw,
Mae’th gwch yn y porthladd, a’th Dad wrth y Llyw.

Y DDAU BLENTYN AMDDIFAD.

Pont Llanbrynmair

Fy ngherbyd safai, ar fy nhaith,
   Unwaith wrth westy bychan,
Pan oedd gwên oleu’r heulwen glaer
   Yn euro caer y dreflan.

Wrth weled pawb o’m cylch â’u bryd
   Ar dawel gydnoswylio,
Aethum i gladdfa oedd gerllaw
   I ddistaw ddwys fyfyrio.

Dan briddell lâs, y tlawd yn llon
   Ro’i hun i’w fron glwyfedig;
Ond meini cerf o farmor trwch
   A guddient lwch pendefig.

Wrth fedd, dan gysgod ywen grin,
   Dau blentyn oedd yn wylo,
Mewn ing a hiraeth ar y pridd,
   Lle’r oedd eu mam yn hunc.

Er fod y ddau mewn newyn mawr,
   Ar lawr ’roedd darn o fara;
Edrychent arno weithiau’n syn,
   Er hyn ni wnaent ei fwyta.

“Fy anwyl blant! gwnewch ddweyd i mi
   Pam ’rych chwi mewn cyfyngder,
Ac yn gwastraffu’r bwyd eich dau,
   A chwithau mewn fath brinder?”

Atebai’r bach, mewn gwylaidd dôn,
   A’i heilltion ddagrau’n llifo,—
“Yn wir yr ym mewn eisiau llym,
   Heb ddim i’w ofer-dreulio.

“Troi’n eneth ddrwg mae Mair fy chwaer,
   ‘Rwy’n daer am iddi fwyta;
Ni chafodd damaid heddyw’n wir,
   A dir, hi bia’r bara.”

“Nis bwytaf mwy,” atebai hi,
   “Nes bwyto Henri dipyn;
Mi gefais i beth bara ddoe,
   Ond echdoe cadd ef fymryn.”

Ar hyn fe deimlwn dan fy mron
   Y galon lesg yn gwaedu;
Eisteddais rhyngddynt ar y bedd
   I geisio’u hymgeleddu.

Yn dirion gwesgais ddwylaw’r ddau,
   Oedd fel y clai gan oerder;
A’r bachgen llwydaidd ataf drodd,
   I adrodd eu cyfyngder.

“Ein ty oedd wrth y dderwen draw,
   Gerllaw y dolydd gwyrddion,
Lle’r oeddym gynt yn chwareu o hyd
   Yn hyfryd a chariadlon.

“Un tro, pan oeddym oll yn llon,
   Daeth dynion creulon heibio,
I fynd â’n tad i’r môr i ffwrdd;
   Ni chawn mwy gwrdd mohono.

“Ni wnaeth ein mam, byth ar ol hyn,
   Ond wylo’n syn a chwynfan,
Gan ddistaw ddweyd, yn brudd ei gwedd,
   Yr â’r i’r bedd yn fuan.

“Un hwyr, pan ar ei gwely’n wan,
   A’i hegwan lais crynedig
Galwodd ni’n dau, mewn tyner fodd,
   A d’wedodd yn garedig,—

“‘Fy anwyl blant!  Na wylwch chwi,
   Gwnewch dyner garu’ch gilydd:
Dichon daw’ch tad yn ol yn glau,
   I’ch gwneyd eich dau yn ddedwydd.

“‘Ond os na ddychwel byth eich tad,
   Cewch Dduw yn Geidwad tyner;
Mae Ef i bob amddifad tlawd
   Yn Dad a Brawd bob amser.’

“Yna, ar ol ymdrechu’n gu
   I sychu’n dagrau chwerw,
Cusanodd ni, wrth droi ’i phen draw,
   Gan godi ’i llaw a marw.

“Ein hanwyl fam ni chawn byth mwy
   I’n harwain trwy ofidiau;
Ac ofni’r ym, mewn dirfawr fraw,
   Na ddaw ein tad byth adre’,

“Er wylo yma lawer dydd
   Mewn hiraeth prudd am dano,
Ac edrych draw a welem neb
   Yn dod—yn debyg iddo;

“Er clywed fod y môr yn mhell,
   Tybiem mai gwell oedd myned,—
Os gallem gyrraedd yno’n dau,
   Y caem yn glau ei weled.

“Dan wylo aethom, law yn llaw,
   Trwy wynt a gwlaw a lludded,
Gan droi yn wylaidd i bob ty
   I holi’r ffordd wrth fyned.

“Gwnai rhai, dan wenu, ymaith droi,
   Heb roi i ni ddim cymorth;
Och’neidiai’r lleill wrth wrando’n cwyn,
   Gan roddi’n fwyn in ymborth.

“Ond erbyn gweld y môr mawr draw,
   Gwnaeth dirfawr fraw ein llenwi;
Ac ofni’r ydym fod ein tad
   Anwylfad wedi boddi.

“Ar fedd ein mam ’r ym ’nawr o hyd,
   Mewn ing a gofid chwerw,
A hiraeth dwys am fod ein dau,
   Fel hithau, wedi marw.

“A wyddoch chwi ddim p’le mae’n byw
   Y Duw sy’n Dad amddifaid?
Pe gallem ni ryw fodd Ei gael,
   Mac Ef yn hael wrth weiniaid.

“Dywedodd mam mai yn y nef
   Yr ydoedd Ef yn trigo:-
A d’wedodd llawer wrthym ni,
   Heb os, ei bod hi yno.

 “Ac os yw mam ’nawr yno’n byw,
   Hi dd’wed wrth Dduw am danom;
A disgwyl ’r ym y llwydda hi
   Cyn hir i’w yrru atom.”

Gwnaeth hyn im’ hoff gofleidio’r ddau,
   A sychu ’u gruddiau llwydion,
A dweyd,—“Fel mam, gofalaf fi
   I’ch ymgeleddu’n dirion.

“Na wylwch mwy!  Dewch gyda mi,
   Rhof ichwi fwyd a dillad,
A dysg, a thŷ, a modd i fyw,
   A chewch Dduw’n Dad a Cheidwad.

“Efe yn fwyn a’m gyrrodd i
   I ddweyd i chwi Ei ’wyllys:
A diwedd pawb a’i carant Ef,
   Yw mynd i’r nef i orffwys.”

CYFARCHIAD AR WYL PRIODAS.

Tangnefedd a ffyniant, diddanwch a chariad,
Fo rhwymyn a choren eich undeb anwylfad;
Ymleded eich pabell dan wenau Rhagluniaeth,
A’ch epil fo’n enwog dros lawer cenhedlaeth.
Disgleiried eich rhinwedd.  A gwneled yr Arglwydd
Eich cylchoedd yn fendith, a’ch ceraint yn dedwydd:
Estynned eich dyddiau i fod yn ddefnyddiol;
Ei eglwys fo’ch cartref, Ei air fyddo’ch rheol.
A rhodded Ei Ysbryd diddanol i’ch tywys
Trwy dd’rysni yr anial i’w nefol baradwys.

DINYSTR BYDDIN SENNACHERIB.

[Cyf. o “The Destruction of Sennacherib” Byron].

O Fras fro Assyria, y gelyn, fel blaidd,
Ymdorrai i’r gorlan er difa y praidd;
A’i lengoedd mewn gwisgoedd o borffor ac aur,
Wrth hulio glyn Salem, a’i lliwient yn glaer.

Eu harfau o hirbell a welid o’r bron
Fel llewyrch ser fyrddiwn ar frig y werdd donn;
A thrwst eu cerddediad a glywid o draw,
Fel rhuad taranau trwy’r wybren gerllaw.

Eu chwifiawg fanerau, cyn machlud yr haul,
A welid fel coedwig dan flodau a dail;
Eu chwifiawg fanerau, ar doriad y wawr,
Fel deiliach gwywedig, a hulient y llawr.

Daeth angel marwolaeth ar edyn y chwa,
Gan danllyd anadlu i’w gwersyll ei bla,
Nes gwneuthur pob calon, a llygad, a grudd,
Mor oer ac mor farw a delw o bridd.

Y ffrom farch ddymchwelwyd.—Yn llydan ei ffroen,
Mae’n gorwedd heb chwythu mwy falchder ei hoen,
A’i ffun oer o’i amgylch fel tywyrch o waed:
Llonyddodd ar unwaith garlamiad ei draed.

Ar oer-lawr mae’r marchog, a’r gwlith ar ei farf,
A’r llaid ar ei harddwisg, a’r rhwd ar ei arf:
Nid oes trwy y gwersyll na thinc picell fain,
Na baner yn ysgwyd, nac udgorn rydd sain.
Mae crochwaedd trwy Assur, daeth amser ei thâl,
Mae’r delwau yn ddarnau trwy holl demlau Baal:
Cynddaredd y gelyn, heb godi un cledd,
Wrth olwg yr Arglwydd, ymdoddai i’r bedd.

GWEDDI PLENTYN.

Ni cheisiaf aur, na bri, na nerth,
   Na diwerth fwyniant bydol:
Fy enaid gais ragorach rhan
   Na seirian rwysg brenhinol.

Nid moethau o ddanteithiol rin,
   Na gloew win puredig,
Nac yd, na mêl, nac olew per,
   Na brasder lloi pasgedig.

Nid plethiad gwallt, na thegwch pryd,
   Na gwisg i gyd o sidan,
Nac eang lys, a’i addurn claer
   O berlau, aur, neu arian.

Ond dwyfol werthfawrocach rodd,
   Mewn taerfodd, wy’n ei cheisio:
Ac O fy Nuw! erglyw fy nghri,
   A dyro imi honno.

Fel arwydd hoff o’th gariad hael,
   Rho imi gael Doethineb:
Nid oes ond hon a ddwg i’m rhan
   Ddedwyddawl anfarwoldeb.

Dysg fi yn nechre f’einioes frau
   I rodio llwybrau’r bywyd;
A chadw’th air,—trwy fyw yn ol
   Ei nefol gyfarwyddyd.

Fel ufudd blentyn, boed i mi
   Byth wneyd dy dŷ yn gartre,
Fel caffwyf brofiad melus iawn
   O’i radlawn arlwyadau.

Na ad im’ ffol ymlygru byth,
   Trwy fynd i blith rhagrithwyr;
Na rhedeg chwaith o lwybrau’r ne’,
   I eiste’n lle’r gwatwarwyr.

Dy santaidd waith a’th achos di
   A fo mi’n hyfrydwch;
A gwiw gymdeithas D’ anwyl blant
   Fy mwyniant a’m dyddanwch.

Os caf gysuron ar fy nhaith,
   Fy melus waith fydd moli:
Fy noniau oll, o galon rwydd,
   I’m Harglwydd gânt eu rhoddi.

Ond os caf gystudd drwy fy oes,
   A dwyn fy nghroes mewn galar,
Heb ddim ond gofid ar bob cam,
   Gwna fi yn amyneddgar.

Os, fel blodeuyn, gwywo wnaf
   Yn nechreu haf fy mywyd;
Cymhwysa f’enaid, drwy Dy ras,
   I deyrnas bythol wynfyd.

Os hir fy nhaith, rho im’ Dy hedd,
   Nes mynd i’r bedd i orffwys;
Ac yna seiniaf gyda’th blant
   Dy foliant ym mharadwys.

CWYNION YAMBA, Y GAETHES DDU.

Er bod mewn caethiwed ymhell o fy ngwlad,
’Rwy’n cofio hoff gartref fy mam a fy nhad,
Y babell, a’r goedwig, yr afon, a’r ddôl;
Ond byth ni chaiff Yamba ddychwelyd yn ol.

Dros euraidd ororau ymlwybro wnawn gynt,
Heb ofid, nac angen, yn llawen fy hynt;
A’m plant o gylch gliniau fy mhriod mwyn cu,
Heb neb yn fwy boddlon a dedwydd na mi.

Pan unwaith yn gwasgu y bach at fy mron,
A’r lleill wrth fy ymyl yn cysgi yn llon;
Disgwyliwn fy mhriod, gan sio’n ddi-fraw,
Heb feddwl fod dychryn na gelyn gerllaw.

Ond pan yn hoff sugno awelon yr hwyr,
Ar unwaith ymdoddai fy nghalon fel cwyr,—
Gweld haid o ddyn-ladron yn dyfod o’r môr,
Gan guro fy mwthyn nes torri y ddor.

Heb briod, na chyfaill, chwaer, brawd, mam na thad,
I achub y gweiniaid crynedig rhag brad,
Fe’n llusgwyd, fe’n gwthiwyd, er taered ein cri,
I ddû-gell y gaeth-long at gannoedd fel ni.

Wrth riddfan i gyfrif munudau’r nos hir,
A threiglo’n ddiorffwys fy mhen gan ei gur,
Mi gefais fy maban, ar doriad y dydd,
Yn oer ac yn farw—o’i boenau yn rhydd.

Hoff faban fy mynwes!  I’r dyfrllyd oer fedd,
Er gwaetha’r gormeswr, diangaist mewn hedd:
Cei orffwys yn dawel, ni’th werthir byth mwy,
Ac ni rydd y fflangell na’r gadwyn it’ glwy,

Ffodd llawer, fel tithau, o gyrraedd pob aeth;
Ond eto mae’th gu-fam anwylaf yn gaeth;
Pam rhwystrwyd i Yamba gael huno yn llon,
A’i sio i orffwys yn mynwes y donn?

Ar ol garw fordaith, a chyrraedd y lan,
A’n didol, a’n gwerthu i fynd i bob man;
Y brawd bach a rwygid o fynwes ei chwaer,
Er mynych lesmeirio wrth lefain yn daer.

Y wraig, wrth ymadael, gusanai ei gŵr,
A’i llygaid toddedig yn boddi mewn dŵr:
A’r lesg fam a wasgai ei dwyfron—o chwant
Cael myned i orwedd i’r un bedd a’i phlant.

Hoff geraint ysgarwyd, er cryfed eu bryd
Am weithio, dioddef, a marw ynghyd;
Y clymau anwylaf a dorrwyd bob un,
A rhwygwyd llinynau y galon ei hun.

I greulawn ormeswr fy ngwerthu a wnaed,
I gael fy fflangellu o’m dwyfron i’m traed;
Mae’m llafur yn galed, a minnau yn wan,
Heb ddefnyn o gysur i’w gael o un man.

Mae’r bwyd roddir imi yn brin ac yn ddrwg,
Mae’r haul yn fy llosgi, mae popeth mewn gwg:
Dan oer wlith y ddu-nos rhaid cysgu, heb len;
O’r braidd y caf garreg i gynnal fy mhen.

Mewn ing rhaid im’ farw, nis gallaf fyw’n hwy,
Mae’r holl gorff yn glwyfus, a’r galon yn ddwy;
O na chawswn drengu yn mynwes fy ngwlad,
Fy mhlant a fy mhriod, fy mam a fy nhad.

Wrth farw, fy ngweddi daer olaf a fydd,
I’r caeth o’i gadwynau gael myned yn rhydd:
Pa Gristion, heb deimlo ei galon mewn aeth,
All gofio du lafur ei frodyr sy’n gaeth?

O Brydain brydweddol!  “Arglwyddes y donn,”
Na âd i un gaeth-long ymrwygo drwy hon;
Cwyd Faner wen Rhyddid, nes gwawrio y dydd
I’r olaf gael dianc o’i gadwyn yn rhydd.

Y CREULONDEB O FFLANGELLU BENYWOD.

A ysgrifenwyd wrth ddarllen penderfyniad barbaraidd blaenoriaid dideimlad planfeydd Jamaica, i ddinoethi a fflangellu gwyryfon a gwragedd.

Pe bae gennyt deimlad, pe byddi tyn Gristion,
Fe wridai dy wyneb, fe waedai dy galon,
Weld menyw brydweddol wrth gadwyn yn crynnu,
Dan fflangell anifail yn griddfan a gwaedu;
   O ystyr, yn dirion, ei gwylder a’i dagrau;
   Tafl ymaith y fflangell, a dryllia’i chadwynau.

Dwys glwyfir, bob ergyd, ei chorff teg tyneraidd,
Ond dyfnach y clwyfir ei gwylder benywaidd;
Heblaw ei harcholli o’r ddaear i’r ddwyfron,
Mae’r fflangell mewn ail fodd yn cyrraedd ei chalon;
   O ystyr, yn dirion, ei gwylder a’i dagrau;
   Tafl ymaith y fflangell, a dryllia’i chadwynau.

Pan oeddit yn faban hi’th wasgai i’w mynwes,
A breichiau o’th amgylch, hi’th gadwai yn gynnes;
Rho’i gusan, dan wenu, i’th gadw’n ddiddanus,
Ac ar ei bron dyner hi’th siai i orffwys:
   O ystyr, yn dirion, ei gwylder a’i dagrau;
   Tafl ymaith y fflangell, a dryllia’i chadwynau.

Trywenid ei mynwes gan ingawl ddwys alaeth,
A gwewyr dirboenus, cyn dyfod yn famaeth:
A chreulawn ei gwasgu mewn cyfyng amgylchiad,
Sy’n gofyn ymgeledd, tynerwch, a chariad;
   O ystyr, yn dirion, ei gwylder a’i dagrau;
   Tafl ymaith y fflangell, a dryllia’i chadwynau.

Dyngarwch a rhinwedd ymgiliant i wylo,
A chrefydd, o hirbell, saif draw dan och’neidio,—
Gweld gwaedlyd archollion y fflangell gylymog
Yn gwysau plethedig dan ddwyfron y feichiog;
   O ystyr, yn dirion, ei gwylder a’i dagrau;
   Tafl ymaith y fflangell, a diyllia’i chadwynau.

Mae Llywydd y bydoedd yn gweled ei chlwyfau,
Mae’n clywed ei chwynion, mae’n cyfrif ei dagrau,
Mae’n codi i ddial—clyw’r daran yn rhuo—
Mae’n gwisgo ei gleddyf, mae bron mynd i daro:
   O cryned dy galon! ymostwng mewn dychryn,
   Tafl ymaith y fflangell, a dryllia y gadwyn.

Y FENYW WENIEITHUS.

Ar wyll y nos, dan dywyll lenni’r hwyr,
Pan guddid gwên yr haul dan orchudd llwyr,
Yn nrws ei thy, yn denawl wenu’n llon,
Mewn esmwyth wisg, a dichell dan ei bron,
Y fenyw dêg wenieithus welaf draw,
Yn gwamal droi ei llygaid ar bob llaw,
Nes canfod llanc mwyn hardd-dêg, ond heb bwyll
Na deall da i ochel hudawl dwyll.

Gan ddal ei law, hi a’i cusanodd ef,
Ac mewn iaith ystwyth, gyda dengar lef,
Dywedai’n hyf,—“Roedd im’ aberthau hedd,
Ond cedwais wyl, a gwnaethum heddyw wledd:
Yr hen adduned ddwys, cywirais hi,
A brysiais heno’n llon i’th gyfarch di:
Fy ngwely drwsiais â cherfiadau gwych,
Ac â sidanaidd lenni têg eu drych;
Mwg-derthais ef âg enaint peraidd iawn,
O aloes, myrr, a sinamon, mae’n llawn.
Tyrd gyda mi,—ni chawn byth gyfle gwell
I garu’n gu,—mae’r gŵr yn awr ymhell:
O arian cymerth godaid yn ei law,
Ac ar y dydd amodol adref daw.
Mae dyfroedd cêl fel gwin i’r galon brudd,
Cawn hyfryd wledd o beraidd fara cudd.”

A’i geiriau teg, ei droi a’i ddenu wnaeth,
Nes cael i’w rhwyd ei galon ffol yn gaeth;
Fel ych yn fud i’r lladdfa aeth yn glau,
Neu fel yr ynfyd cyn i’r cyffion gau:
Heb gofio gwg na llygad craff yr Ior,
Canlynodd hi, gan ddistaw gau y ddôr.

Ymysg ei fwyn hoff gu gyfoedion llon,
Lle rhodiai gynt heb ofid dan ei fron,
Nac yn ei dŷ, ni welwyd mono mwy;
Ei geraint oll, mewn galar gwelid hwy.
Ei dad, mewn dagrau, ro’i ei ben dan gudd,
A’i fam, wrth riddfan, rwygai ‘i mynwes brudd.

Wrth wrando llais y fenyw ddengar ddrwg,
Cynhyrfir Ior y nef i wisgo gwg;
Porth uffern yw ei haddurnedig dŷ,
A’i ffordd i gell oer angau’n arwain sy;
Gweu maglau mae i ddal eneidiau’n gaeth
Yn nyfnder gwae, i oddef bythol aeth;
Os yno’r a, nid oes i’r adyn ffol
Ond gobaith gwan y dychwel byth yn ol.

Y TWYLLWR HUDAWL.

Mewn hyfryd le o gyrraedd swn y byd,
Y trigai’n llon forwynig deg ei phryd;
Hoff unig ferch ei dedwydd fam a’i thad,
Heb dan ei bron na briw na thwyll na brad.

Pan, gyda’r wawr, y pigai’n llon o blith
Pêi-lysiau’r maes a dagrau’r bore wlith,
Y rhosyn coch a’r lili, teg eu drych,
I fritho’n hardd ei swp o flodau gwych,
A phan adseiniai lais yr eos fwyn,
Gan heinif ddawnsio’r gân o dwyn i dwyn,—
O’r braidd, er craffu, gall’sid dweyd ar g’oedd,
Pa un ai dynes ai angyles oedd.

Ond gwywo wnaeth y gwrid oedd ar ei grudd,
A buan ffôdd y gân o’i mynwes brudd.
Un hwyr, gan wisgo gwên, rhyw dwyllwr ddaeth
I geisio ’i dal mewn hudawl serch yn gaeth.
Wrth weld ei wên, ei chalon dyner wan,
Heb feddwl drwg, orchfygwyd yn y fan:
A’r gelyn cas, ’nol ei handwyo hi,
Arllwysai wawd, heb wrando ar ei chri.

Ei thad, wrth weld ei gwarth, creuloni wnaeth,
A’i galon falch fel darn o garreg aeth;
Dan erchyll reg—gan droi ei wyneb draw—
Ei gwthio wnaeth o’i dŷ i’r gwynt a’r gwlaw;
A chloi ei ddrws, gan greulawn dyngu’n ffol,
Na chai hi byth ddychwelyd yno’n ol.

Ar gopa craig, wrth oleu gwan y lloer,
Ei baban gaed yn farw ac yn oer;
A’i ddagrau’n iâ tryloew ar ei rudd,
A’i ddwylaw bychain rewent wrth y pridd.

Y fam, yn awr o’i phwyll, yn llwyd a gwan,
A grwydrai’r dydd yn brudd o fan i fan;
A’r nos, mewn lludded dost, eisteddai’n syn
Dan gysgod llwyn, neu fry ar ael y bryn:
Ing ar ol ing drywanai ’i mynwes brudd,
Ond byth ni welid deigryn ar ei grudd.

Yn glaf neu iach, âi allan ar bob hin,
Ac yn ei llaw y cariai gorsen grin,
Gan ddistaw ddweyd o hyd, yn syn ei gwedd,—
Fy chwaer yw hon, a daw i wylio’m bedd.”
Ni soniai byth am gâr, na mam, na thad,
Na’i hudwr cas, nac am ei baban mad;
Ymddiddan wnai, bob dydd, â’r gorsen grin,
Heb deimlo dwys effeithiau ’i chystudd blin.
Nes marw dan oer wlith y niwlogf nen,
Heb frawd na chwaer i gynnal pwys ei phen.
O’i llygredd oll ei chyflawn buro wnaed,
Gan Ysbryd Duw, drwy rin y dwyfol waed;
A’i henaid ffodd o’r maglau oll yn rhydd,
Gan hedeg fry i wlad o fythol ddydd.

Ond wrth gyfleu ei chorff i’w wely pridd,
Ei thad, dan guro’i fron, felldig ai’r dydd
Y gwelodd hi o’i dŷ yn gorfod ffoi,
Mewn cyflwr gwan, heb wybod p’le i droi:
A’i hudwr tlawd a welai, er ei fraw,
Ddialydd llym â’i gleddyf yn ei law;
A’i Farnwr dig ar ddisglaer orsedd lân,
A’i wae’n seliedig mewn llyth’renau tân.

DAROSTYNGIAD A DERCHAFIAD CRIST.

I Gu Geidwad gwael bechadur,
   Gyda gwylder, seiniwn gân;
Ac enynner yn ein mynwes
   Fywiol fflam o nefol dân:
Canwn am Ei ddarostyngiad,
   Am Ei gur a’i gariad Ef,
Gan adseinio tonau mwynion
   Telynorion llys y nef.

Wrth weld adyn diymgeledd,
   Tlawd, yn gorwedd yn Ei waed,
Dan ei faich, yn archolledig
   O’i ben ysig hyd Ei draed;
Heb un cyfaill i dosturio,
   Heb un balm i’w galon friw,
Codai Iesu lef drugarog
   Am i’r euog gwael gael byw.

Gadael uchel sedd gogoniant,
   Gadael moliant dirif lu,
Gadael hardd frenhinol goron
   Wnaeth ein tirion Iesu cu;
Disgyn wnaeth ar edyn cariad,
   Achub oedd Ei fwriad E’,
Daeth o’i fodd i gystudd chweiw,
   Daeth i farw yn ein lle.

Yn y preseb, pan yn faban,
   Llesg ac egwan gwelwyd Ef:
Isel annedd, gwael ymgeledd,
   Gadd Etifedd mawr y nef:
Eto seren gain y dwyrain,
   Wenai ar ei lety gwael;
Thus, a myrr, ac aur-anrhegion,
   Wrth Ei draed ro’i’r doethion hael.

Dirif luaws ser y bore,
   Drwy’r wybrennau seinient gân,
Gan fwyn ateb cyngan nefol
   Y waredol dyrfa lân:
Gras, cyfiawnder, a gwirionedd,
   A thrugaredd yn gytun,
Wrth yr orsedd yn hoff wenu
   Am gael modd i godi dyn.

Cilio wnaeth y tew gysgodau,
   Gwawriodd hyfryd oleu ddydd;
Nid oes eisiau gwaedlyd ebyrth,
   Thuser aur, nac allor bridd:
Daeth y Gogoneddus Sylwedd,
   Daeth yr addawedig Had,
Cododd disglaer Haul Cyfiawnder,
   Sain y durtur sydd trwy’r wlad

Mwy ni cheisir urddau Aaron,
   Olew pêr, na brasder ŵyn;
Gwisgo’r Urim ar ei ddwyfron
   Yn y nef mae’r Iesu mwyn;
Wrth yr allor aur mae’n gweini,
   Clywir adsain clychau hedd;
Yn Ei law mae’r aur deyrnwialen,
   Wrth Ei glun mae’r dwyfol gledd.

Hoeliodd ddeddf yr ordinhadau,
   Oedd i’n herbyn, wrth Ei groes,
Gan yspeilio’r awdurdodau
   Pan yn dioddef angau loes;
Cododd faner wen trugaredd,
   Drylliodd gedyrn byrth y bedd,
Seiniodd jubil lawn i’r caethion,
   Ac arlwy odd radlawn wledd.

Agoriadau y llywodraeth
   Wisgwyd ar Ei ysgwydd Ef,
Rhoddwyd iddo bob awdurdod
   Ar y ddaer ac yn y nef;
Marchog mae yng ngherbyd cariad,
   Troi o’i gylch mae engyl nef;
Sigla cedyrn byrth y fagddu
   Hyd eu sail wrth rym ei lef.

Croesaw iddo wisgo’r goron,
   Aed Ei enw dros y byd;
Plyged pawb i’w fwyn awdurdod
   Am Ei gymod Ef inewn pryd;
Boed i’r euog tlawd ymguddio
   Dan Ei dawel gysgod Ef,
Boed i’r gwannaf ffyddiog bwyso
   Ar Ei fraich alluog gref.

Mewn gogoniant dirfawr eto,
   Heb y groes a’r goron ddrain,
Disgyn gyda myrdd myrddiynau,
   Llawen floedd, ac uchel sain;
Cwyd Ei orsedd, egyr lyfrau,
   Sigla seiliau dyfna’r bedd,
Lleda’r wyntyll, hwylia’r clorian,
   Ysgwyd fry Ei farnol gledd.

Pan y ffy y nefoedd heibio,
   Pan y byddo’r ddaer yn dân,
A’r holl anwir fyd mewn cyffro,
   A llu’r saint yn seinio cân;
Pan y todda’r euog ymaith
   Dan lewygon bythol fraw,
Boed i ni gael tawel orffwys
   Ar ei dirion ddeheu law.

BUDDUGOLIAETHAU YR EFENGYL YN Y MIL BLYNYDDOEDD.

Dan Haul Y Prydnawn.  (Bythynod yn Llanbrynmair)

Efengyl oludog!  Angyles trugaredd,
   Mae cyrrau y ddaear am weled dy wedd;
Ym mantell dy harddwch, ar gerbyd dy haeledd,
   Dos rhagot nes llenwi y byd â dy hedd;
Mae gennyt ti’n barod wledd lawn i’r newynog,
   A chymod i’r euog, a hardd-wisg i’r noeth,
A thrysor i’w rannu rhwng tlodion anghenog,
   Sydd fyrdd mwy ei werth na mil myrdd o aur coeth.

Mae’r byd yn ymysgwyd o gwsg mil o oesau,
   Gan dditif dylwythau cei roesaw i’w mysg,
A gwastad balmantwyd ffyrdd rhyddion i’th gerbyd
   Gan feibion celfyddyd, masnachaeth, a dysg:
Peiriannau tân cariad i droi dy olwynion
   Yw’r llon Gymdeithasau addurnant ein gwlad;
A chwareu diwy’r nef mae holl dannau gorfoledd,
   Fod gobaith i ddyn gael ymgeledd yn rhad.

Cyhoeddwyd o’r cynfyd gan lais ysbrydoliaeth
   Am bur effeithiolaeth diatal dy ras,—
Llwyr ofer i’r bobloedd i’th erbyn derfysgu,
   I lengoedd y fagddu amlygu eu câs:
I’th ddilyn wrth d’alwad cwyd torf o genhadon
   A’u calon yn fflamio dan fedydd o dân;
Ymdaenu trwy wersyll y gelyn mae’r cyffro,
   Mae’r delwau’n malurio yn fawrion a mân.

Mae’th weision yn barod i gludo’th drysorau
   Trwy’r ’stormydd, tros donnau trochionogy y môr;
Wynebant yn llon ar dros fil o ynysoedd,
   I dd’weyd am oludoedd trugaredd yr Ior;
Dilynant afonydd, ânt trwy anial-diroedd,
   A dringant fynyddoedd clogwynog yr ia,
I ddangos i adyn ar suddo mewn adfyd
   Fodd i achub ei fywyd a symud ei bla.

Mae llwythau yr Oen, wrth dy weld, yn gwroli,
   Llawenydd a chân sy’n coroni eu pen;
Mae gwresog bêr anadl eu cariad a’u gweddi
   Yn chwalu’r cymylau fu rhyngddynt a’r nen;
A gwelir ysprydoedd y perffaith gyfiawnion,
   Fel cwmwl o dystion ar furiau y nef,
Yn plygu i wrando’u plethedig ganiadau,
   Gan hwylio’u telynau i ateb eu llef.

Daeth Iesu o Bosra a’i ddillad yn gochion,
   Gan ymdaith yn eon yn amlder ei rym;
Enillodd holl yspail y tywysogaethau,
   Gall ddial, neu faddeu,—ei gledd sydd yn llym;
O’i orsedd llefara mewn iawnder a chariad,
   Mae’n gwisgo agoriad awdurdod a bri;
Gan hynny ni lwydda dy elyn na’i luoedd,
   Mae Brenin y nefoedd yn Noddwr i ti.

Wrth wrando dy gais dros y Gŵr a groeshoeliwyd,
   Dwysbigwyd calonnau myrddiynau cyn hyn,
A denwyd trueiniaid i droi eu hwynebau
   O swynol lwyn Daphne i Galfari fryn;
Dadblygaist dy faner ar brif-ddinas Rhufain,
   Ce’st luoedd yn Athen i ganmol y gwaed;
A golchaist yn Nghorinth dorf fawr o’r rhai duaf,
   Gan wisgo mewn gwyn yr aflanaf a gaed.

Dy lais yn oes Luther ddychrynnodd y bwystfil,
   Dy wên doddodd galon y Greenlander draw,
A dofwyd cynddaredd y Bushman trwy’th eiriau,
   Nes gollwng ei saethau gwenwynigo’i law;
Dy felus beroriaeth trwy helaeth goedwigoedd
   America fras, ac Ynysoedd y De,
A ddenodd farbariaid o’u dawns yn y llwyni,
   I wrando a chanu am gariad y Ne’.

Dihunodd yr udgyrn gydwybod Brytania
   I ollwng wyth gan-mil o’i chaethion yn rhydd;
A gyrraist gyflawnder o bêr-falm Calfaria
   I wella archollion y galon fu’n brudd;
O gylch elor gormes mae myrdd o gadwynau
   Ar wasgar yn ddarnau drylliedig dan draed;
A’r famaeth a’i maban sy’n llon gadw jubil
   Uwch bedd yr anghenfil fu’n meddwi ar waed.

Gorchfygodd yr Oen i agoryd y seliau,
   A llawn yw’r phiolau ar allor y nef;
Hardd sefyll o’u cylch mae eneidiau’r merthyron,
   Mewn gynau claerwynion, yn llawen eu llef;
O’u llwch cododd ysbryd a ddryllia’r cadwynau
   Fu’n dal cydwybodau am oesoedd yn gaeth;
Pinaglau coelgrefydd yn chwilfriw a chwelir,
   A’r gelyn ymlidir i’r llyn o’r lle daeth.

Bu anghymedroldeb yn llifo am oesau,
   Bu’n lledu ei donnau fel dylif o dân;
A chyfoeth, a chysur, a bywyd myrddiynau,
   Er pob atal-furiau, ysgubid o’i flaen;
Ond codaist dy faner er atal ei ymchwydd,
   A safodd yn ebrwydd, a chiliodd mewn brys;
Ac ’nawr lle bu’r gelyn yn creulawn deyrnasu,
   Mae rhinwedd yn codi hardd orsedd ei lys.

Bu erchyll olwynion car Moloch Hindostan
   Yn treiglo dros balmant o esgyrn a gwaed,
A myrdd o rai gwallgof dan floeddio’n ei dynnu,
   Gan fathru eu plant a’u rhieni dan draed;
Ond safodd er’s dyddiau, ni faidd dy gyfarfod,
   Mae’n suddo i’r tywod, a’i lu’n cilio draw;
Mae blodau sidanaidd ei dŵr wedi gwywo,
   A’i gêr yn malurio trwy’r tes a thrwy’r gwlaw.

Heb ddim o ffydd Abram, bu myrdd o’i hiliogaeth
   Dan iau annghrediniaeth yn gaeth lawer oes;
Ond troant i’th ddilyn, gan gerdded ac wylo,
   Nes tawel ymffrostio yn Aberth y groes;
Ail-hwylir y delyn fu’n hir ar yr helyg,
   Daw’r llwythau crwydredig i Seion mewn hedd;
Am ryfedd rinweddau y gwaed y cydganant,
   A melus ganmolant gyflawnder y wledd.

Trwy’r fro lle bu Israel yn lledu ei babell,
   Bro cafell y ddisglaer Shecina cyn hyn,
Bro melus beroriaeth telynau’r proff wydi,
   Bro’r ardd lle bu’r chwysu, bro Calfari fryn:
Trwy honno mae’r wawr ’nawr yn gwasgar ei goleu
   I ymlid cysgodau coelgrefydd ar ffo;
Trwy honno tyrr eto sain tannau gorfoledd,
   A blodeu tangnefedd goronant y fro.

Hardd Rosyn Glyn Saron a siriol flodeua
   Ar foelydd Siberia a gwledydd yr ia,
A’r awel wasgara ei iraidd aroglau
   Nes gwella tylwythau y Tartar o’u pla;
I wlad y Saith Eglwys fu gynt yn flodeuog
   Estynnir yr eurog ganwyllbren yn ol,
Ceir eto fflam fywiol o’r allor i danio
   Lamp gras i oleuo pob bryn a phob dôl.

Dan iau tri chan miliwn o eilunaddolwyr
   Mae China mewn gwewyr yn griddfan yn awr;
Ond siglwyd ei mur, er cadarned ei seiliau,—
   Mae eisoes yn fylchau, daw’n ddarnau i lawr;
Llon-gyrcha minteioedd i gysgod ei llwyni
   I ddarllen a chanu am Aberth y bryn,
Ti wy demlau Fôbî mae cerí-ddelwau yn crynnu,
   A’u crefftwyr yn gwelwi, gan ediych yn syn.

Mae awel adfywiol yn awr yn ymsymud
   Ar wyneb du-ddyfnder cymysglyd y byd;
Ar dymor dymunol mae’r nefol addewid
   Bron esgor—mae gwewyr drwy natur i gyd:
Llawn bywyd yw heinif forwynion Rhagluniaeth,
   Mae tannau mwyn odiaeth pob telyn mewn hwyl,
Mae arlwy frenhinol yn rhad i’r holl bobloedd,
   A mil o flynyddoedd fydd yspaid yr wyl.

Goleuni gwybodaeth trwy’r ddaear ymdaena,
   O’i flaen yr ymgilia’r tywyllwch yn glau;
Breuddwydion coelgrefydd fel niwl a ddiflanna,
   A’r bleiddiaid gormesol a ffoant i’w ffau;
Cyfaredd y friglwyd ddewines a dorrir,
   Y Gair a ddilynir fel Rheol y Gwir;
Doethineb fydd sicrwydd a nerth yr amserau,
   Hyfrydwch hardd-fryniau y nef leinw’r tir.

Holl ddoniau yr enaid a gydymegniant
   Er cynnydd ei fwyniant a symud ei boen;
Harddwisgir traethodau’r anianydd dysgedig
   Ag iaith ostyngedig o fawredd i’r Oen;
Diweirdeb a rhinwedd a hoffant felusder
   Y delyn fwyn seinber roes gynt iddynt glwy;
I chwythu eu gwenwyn dan flodeu maes awen,
   Colynawg seirff uffern ni lechant yn hwy.

Gwir ydyw fod rhannau o’r wybren mewn cyffro,
   Ond tyrfu wrth gilio mae’r ’storom yn awr;
Cenfigen a drenga, a nefol dangnefedd
   Deyrnasa mewn mawredd dros wyneb y llawr;
Dinystriol beiriannau tân rhyfel a ddryllir,
   Y march coch a rwymir mewn cadwyn o bres;
Ymleda yr heulwen nes chwalu’r tywyllwch,
   A blodeu brawdgarwch a dyf yn ei gwres.

Defnynna sancteiddrwydd o’r nef fel gwlith Hermon,
   Melysa gysuron holl gylchoedd y byd,
Addurna y cerbyd, y meitr, a’r goron,
   Nefola serchiadau y galon i gyd;
Ireiddia ei olew olwynion masnachaeth,
   A hwylia ei awel holl longau y môr,
Ei darth gwyd o’r allor, a’i iachus aroglau
   A leinw holl gonglau cysegroedd yr Ior.

Yr anial di-annedd, fel rhosyn, flodeua,
   Y myrtwydd addurna hardd odre y bryn,
Ym mhen y mynyddoedd bydd yd yn ddyrneidiau,
   Tyf brwyn lle bu’r dreigiau, daw’r crasdir yn llyn;
Bwytânt o bêr-ffrwythau’r gwinllannoedd a blannant,
   A’u tai gyfaneddant dros ddedwydd oes hir;
Hardd-wridog a heinif y ceir y mab canmlwydd,
   Hyfrydwch a llwydd a briodant y tir.

Sylfaenir pryd hyn y Jerusalem newydd
   A saphir,—a hon fydd gogoniant y byd;
O feini dymunol y gwneir ei therfynau,
   A’i phyrth fydd o berlau uchelbris i gyd;
Agaur y palmentir ei llydain heolydd,
   O fewn ei magwyrydd bydd iechyd dilgth,
A thrwy ei grisialaidd ffenestri tywynna
   Gogoniant Jehofa, heb fachlud mwy byth.

Tymhorau ei gweddwdod a’i galar a dderfydd,
   Llawenydd i’r holl genhedlaethau a fydd;
O fewn ei therfynau am drais byth ni chlywir,
   A chenedl a enir o’i mewn yr un dydd;
Brenbinoedd a welant ei disglaer ogoniant,
   Ac iddi y dygant anrhegion heb rif;
Diwellir ei phlant â helaethrwydd diddanwch,
   A’i heddwch ymchwydda fel tonnau y llif.

Llys Ior geir i’w chanol, ac allan o’i oisedd
   Yr afon risialaidd a lifa heb drai;
O’i deutu bydd tyrfa nad elli ei rhifo
   Yn rhodio heb deimlo na melldith na gwae;
Dan gysgod iachusol gwyrdd ddail pren y bywyd
   Cydgadwant wyl hyfryd heb lygredd na phoen;
A’r Oen gadd ei ladd a’u bugeilia hwy’n wastad,
   A byrdôn eu caniad fydd—“Teilwng yw’r Oen.”

CILHAUL UCHAF.

Ychydig flynyddoedd yn ol yr oedd ffarmwr ymdrechg ar o’r enw John Careful, a’i wraig ddiwyd Jane Careful, yn byw yn Nghilhaul Uchaf, yn nhalaeth Gwynedd.  Yr oedd iddynt chwech o blant—tri mab a thair merch—oll wedi tyfu i fyny yn bobl ieuainc iachus, cryfion, bywiog, gweithgar a gofalus; ac yr oeddynt yn diwyd serchog gynorthwyo eu ihieni yn holl wasanaeth y ffarm.  Yr oedd y rhan fwyaf o’u tyddyn yn dir gwlyb, oer, melyn, cleiog, a phur dlawd.  Yr oll a fedrent wneyd mewn cylch blwyddyn o holl gynnyrch y ffarm oedd oddeutu £185; tra yr oedd y talion—rhent, degwm, trethoedd, cyflogau, gwrteith au, porfa gaeaf, &c., &c., yn llawn £220.  Ar ol llawer o lafur, ac o ludded, ac o bryder, ac ar ol rhes o ffeiriau pur farw a digalon, darfu i John Careful un bore rhent anturio crybwyll wrth y steward nad oedd dim modd iddo yn wir wneuthur y talion o’r ffarm.  Edrychodd y steward yn ddu ac yn llym arno, ac atebodd yn bur sychlyd y dylai wneyd mwy o’r ffarm: ei fod ef wedi darllen rywbryd yn ddiweddar, mewn rhyw bapyr newydd, am ryw ffarmwr yn rhywle, ag oedd yn talu llawer mwy o rent nag oedd ef yn dalu, a hynny am ffarm lai na’i ffarm ef; ac ychwanegodd y byddai yn hawdd iddo osod Cilhaul Uchaf am rent uwch na’r rhent presennol.  Wrth glywed y steward yn siarad mor graslyd, ac wrth ei weled yn edrych mor gibog, dywedodd John Careful dan grynnu, a’i wefusau yn gwynnu, ei fod ef a’i deulu yn awyddus i wneyd eu goreu; ac yna, heb yngan sill yn ychwaneg, ymgiliodd allan o’r ystafell yn wysg ei gefn, dan fowio i’r steward yn y dull gostyngeiddiaf.  Parhodd geiriau cras y steward—“y dylai wneyd mwy o’r ffarm”—i seinio yn ei glustiau am hir amser wedi hynny.  Yr oedd ef a’i wraig a’i blant yn awyddus iawn am wella y ffarm.  Gwyddent y gellid ei gwella; ac yr oeddynt wedi meddwl ac ymddiddan llawer am gynllun i drin yn well; ond yr oeddynt yn ofni traul y drefn newydd.  Beth bynnag, gan fod y steward wedi rhoddi awgrym mor gryf ac mor eglur iddynt am drin yn well, penderfynasant gynnyg yn deg am amryw welliantau: ac ar ol cyfnerthu y wedd, a phrynu offer newyddion, a chyflogi ychwaneg o ddwylaw, darfu i’r gŵr a’r wraig a’r plant, i gyd oll yn wyth enaid, gydymroi i lafurio yn ddiflino am welliantau am dros dair blynedd.  Ond ar ol gwneuthur y cyfrifiad manylaf, cawsant er eu siomedigaeth fod y draul ychwanegol tuag at welliantau yn llawn triugain punt y flwyddyn, tra nad oedd gwerth cynnyrch y gwelliantau hynny prin yn ddeugain punt y flwyddyn: ac felly eu “hennill” drwy y gwell-iantau a ddirgymhellwyd arnynt gan y steward oedd colled o ugain punt yn y flwyddyn.  Yr oedd y steward, a llawer o foneddigion eraill, ac amryw o’r cymydogion, yn eu canmol yn fawr iawn ac yn fwyn iawn, am drefn dda eu tyddyn; sylwent fod wyneb a chalon eu tyddyn yn glod iddynt, ac yn brydferthwch i’r gymydogaeth: ond nid oedd yr holl ganmoliaeth oeddynt yn gael ddim yn gymorth iddynt at dalu hyd yn nod am hoelen pedol; ac felly colled o ugain punt y flwyddyn oedd y wobr gyntaf a gafodd y Farmwr Careful am ei ofal a’i ludded a’i arian gyda “gwelliantau.”

Gyda bod y ffarm wedi cael ei gwella a’i threfnu yn y dull a grybwyllwyd, daeth y steward heibio yn lled fore un diwrnod yn yr haf, pan oedd yr ydau ar hedeg; ac wedi dweyd “bore da i chwi” wrth John Careful, ac wedi gwneyd wyneb rhyw hanner-stewardaidd i ofyn mewn llais dienaid am iechyd a helynt ei wraig a’i blant, dywedodd dan wenu yn bur foneddigaidd fod yn hoff iawn ganddo weled Cilhaul Uchaf mewn calon ac mewn trefn mor rhagorol; ei fod yn falch iawn o’r olwg oedd ar y tyddyn, a bod yn dda ganddo fod y gair ar led fod y prisiau braidd yn codi; a bod y seneddwyr aurhydeddus ac enwog Mr. B. a Mr. D. a Mr. Y. wedi hyfgyhoeddi yn eu bareithiau diweddar o ben Assblock y farchnadfa eu bod am gymeryd i fyny achos y ffarmwr yn y senedd newydd, a’u bod am adsefydlu treth yr ŷd a phob cynnyrch tramor; ond ychwanegai y steward mewn llais mwyn, tyner, isel, dan fân-gecian, fod cyfiawnder ag ymddiriedaeth y swydd bwysig oedd ganddo fel steward yn ei orfodi i godi mymryn—mymryn bach ar y rhent.  Nis gallai ddweyd yn fanwl y bore hwnnw pa faint, ond ymrwymai y cai y codiad fod yn bur deg a rhesymol—na chai ddim bod dros bymtheg ar hugain y cant.  “A gobeithio,” meddai, “yr ewch rhagoch i wella eich ffarm, oblegid yn y dyddiau goleu hyn o iawnder a diwygiad, pan y mae arglwyddi tiroedd mor enwog o ran eu craffineb a’u tegwch a’u gofal, a phan y mae y stewardiaid mor hynod o ofalus ac o gydwybodol ac o deimladwy am galonogi y tenantiaid, bydd ffarmwyr ymdrechgar yn sicr o gael tâl da am eu llafur, a llog da am eu treuliau wrth wella eu tyddynod.”  A dyma oedd yr ail wobr a gafodd Ffarmwr Careful am ei flynyddoedd o welliantau llafurus a drudfawr yn Nghilhaul Uchaf.

Cyn pen teirawr ar ol i’r steward droi ei gefn, dacw bwtyn byr tew wynebgoch pwfflyd bolfawr o ddegymwr yn dyfod drwy y nant, ac ar draws y rhos, a thros y gwrych, a’i lyfr “counts” yn ei law, ac yn dringo i edrych dros y wal i gyfrif y gwyddau oeddynt ar y llyn, ac yna yn estyn ei ben drwy y twll oddiar ddrws cut yr hwch fagu i gyfrif ei thorllwyth diweddaf; ac wedi hynny yn galw ar John Careful ato i’w holi am nifer y defaid a’r ŵyn noson y cneifio diweddaf, ac i ofyn iddo amryw bethau eraill; a rhybuddiai y degymwr y ffarmwr i fod yn bur fanwl yn ei gyfrifon.  “Oblegid,” meddai, “rhaid i mi fod yn fanwl iawn y tro yma i’ch gosod chwi i lawr yn ol eich llawn werth, oblegid y prisiad yma sydd i fod yn sylfaen i’r drefn newydd ag y mae fy meistr parchedig a dirprwywyr y degwm wedi cytuno i sefyll ati o hyn allan.”  A darfu i’r degymwr boliog, cyn symud o’r fan honno, ledu’i gount-book ar garreg y wal, ac â’i bwt pensil black lead ferr fawr bron ddyblu degwm Cilhaul Uchaf: a dyna oedd trydedd wobr John Careful am ei welliantau amaethyddol.

Ymhen llai na mis ar ol hynny, daeth tri o briswyr heinyf craffus yn enw y plwyf, a thros y festri fach, i edrych dros ffarm Mr. John Careful.  Yr oeddynt yn siriol ac yn siaradus iawn wrth ganmol ei thriniaeth a’i threfn; a dywedent fod Mr. Careful yn haeddu tlws arian am y cae maip uchaf, a sylwent fod ei gnwd gwenith yn hynod o lân ac o wastad, ond ei fod braidd yn ysgafn: ac yna, ar ol sisial ychydig o eiriau yng nghlustiau eu gilydd, a nodio, a wincio, a hwm-hamio, cryn dipyn, darfu iddynt gofnodi i lawr yn eu llyfr godiad o naw punt at drethoedd plwyfol Mr. Careful, heb ofyn iddo gymaint ag un gofyniad, na cheisio ganddo un gair o eglurhad am ddim o hanes y ffarm, nac o’r draul a gymerodd i’w gwella; a dyna oedd ei bedwaredd wobr amer welliantau amaethyddol yn Nghilhaul Uchaf.  Yr oedd rhai o’r cymydogion cyfrwysaf a hwyaf eu pennau yn awgrymu y dylasai John Careful fod wedi cyrchu ychydig o French Brandy i’r tŷ erbyn dyfodiad bol y degymwr heibio, ac y buasai yn burion peth fod ganddo alwyn o gwrw da wrth law pan oedd y priswyr yn gwneyd i fyny eu cyfrif o werth ei dyddyn.

Yn lled hwyr brydnawn y dydd ar ol hynny, daeth Peggy Slwt Slow, gwraig yr hen Ned Slow, at y drws; ac wedi gwneyd wyneb hir hyll crychiog, dywedodd fod Ned yn methu cael dim gwaith er’s llawer dydd, a’u bod heb yr un tamaid o fwyd yn y tŷ; a bod yr hyn a oedd Ned wedi gardota iddynt ddydd Sadwrn, a dydd Sul, a dydd Llun, yn y cwm draw wedi darfod; a’i bod hi wedi cymeryd i fyned drwy y cwm yma heddyw, mewn gobaith o gael tipyn bach i’w cadw hwy a’r plant yn fyw dan ddydd Sadwrn, pan y cai eu merch hynaf Pol (os gallent gael ei hesgid oddiwrth y cobbler heb dalu am ei thrwsio) neu ynte y cai ei brawd Bob fyned i lawr y dyffryn i gardota ychwaneg iddynt: a chwanegai Peggy ei bod yn mawr obeithio y caent eu henwau i lyfr y plwyf yn y festri nesaf, oblegid fod Squire Three X Tap yn bur hoff o Ned ac o’r bachgen hynaf, am fod y ddau mor barod i redeg gyda milgwn a by theuaid y Squire bob tro y byddent yn dyfod y ffordd hynny.  Ac ychwanegai Peggy fod y Squire wedi addaw troi i mewn i’r festri cyn ei diwedd i ddweyd gair drosom, a bod ei ddull a’i lais cry fyn sicr o fynnu gwrandawiad: ac awgrymai Peggy ymhellach i’r Squire, pan unwaith mewn diod, edrych yn bur fant-lon ar lygaid gleision Nansi ei merch, ac iddo sylwi ei bod yn tyfu yn lodes fawr lân gref dal dew brydferth, ac y gwnai ef rywdro rywbeth i Nansi.  Yr oedd wyneb Peggy yn gloewi ac yn llonni pan y siaradai fel hyn am y Squire ac am Nansi, ac am gael myned i lyfr y plwyf; ond gan ei bod yn eglur fod cwpwrdd Peggy y noson honno yn wag, dymunodd John Careful ar ei ferch hynaf roddi iddi gardod o flawd ceirch, digon i wneuthur swper da o uwd i’r teulu anghenus y noson honno.  A dyna oedd pumed wobr Ffarmwr Careful am wella ei feusydd.

Yn lled hwyr y noson honno, ar ol oriau gweithio, galwodd Billy Active gyda Mr. Careful, a chyda gwedd drist isel, dywedodd wrtho ei fod allan o waith; fod ei hen feistr gofalus Fychan Graff o’r Ffarm Fawr wedi hollol wneyd ei feddwl i beidio cynnyg byth mwy am ddim “gwelliantau” er elw i bobl eraill.  Yr oedd ef unwaith wedi meddwl a son llawer am sychu Dol y Brwyn, a chlirio y Wern Ddu, ac unioni gwrych y Ddol Gam, a rhannu y Ffridd Hir yn ddwy, a gwneyd ffordd newydd sych galed dda ar draws yr holl ffarm.  Ond y mae wedi bod yn ystyried ac yn cyfrif y tâl a gawsoch chwi am eich holl welliantau, ac y mae wedi dysgu oddiwrth y cam a’r golled a gawsoch chwi y wers bwysig o beidio meddwl am ddim gwelliantau byth mwy.  Y mae wedi cael argyhoeddiad trwyadl mai y ffordd oreu o lawer iddo ef ydyw gwneyd mor ychydig ag y medro, a gwneyd yr ychydig hynny yn y ffordd rataf ag y medro, fel yr hen ffarmwr distaw llonydd hirben Owen Dwl o’r Ffridd Groes.  Ni wariodd Owen yr un chwecheiniog am na gwelliantau nac adgyweiriadau er’s dros bymtheg mlynedd ar hugain; a’i ffarm ef y dydd heddyw ydyw y rataf yn yr holl gymydogaeth, ac wrth weled pethau fel hyn, y mae fy hen feistr Fychan Graff yn penderfynu gwario o hyn allan cyn lleied ag y medro ar y ffarm; ac y mae newydd fy ngollwng i, a’r dynion eraill oedd ganddo yn gweithio wrth y dydd, i’n ffordd;—ond yr oedd ei wyneb yn wyn, a’i lygad yn llawn, a’i wefus yn crynu, wrth ein gollwng ymaith.  Y mae wedi addaw talu i ni gyflogau y chwarter diweddaf yn mhen pymthegnos; ac yr wyf yn deall fod amryw eraill o ffarmwyr yr ardaloedd hyn yn debyg o ddilyn ei siampl.  Nid oes gennyf ddim golwg yn awr am gael gwaith, ac nis gallaf oddef meddwl am fyned ar y plwyf.  Nid wyf yn hoff o’r ysmocio a’r yfed, a’r gwasanaeth afiach a budr sydd yn llawer o ardaloedd y gweithiau; ac mae fy ngwraig a minnau wedi gwneyd i fyny ein meddyliau i ymfudo ar unwaith i America ar ol ein cefnder Tomy Strong.  Yr wyf newydd dderbyn llythyr annogaethol iawn oddiwrth Tomy.  Costiodd y llythyr swllt i mi, er nad yw yn pwyso mo’r bumed ran o owns.  Y mae Tomy, a phob un o’r bechgyn a’r merched a aethant gydag ef, yn gwneyd yn dda iawn yn America; ac yr ydym ninnnau yn penderfynu myned yno tra byddo gennym ddigon o fodd i fyned.  Y mae gennym ddigon yn awr; o leiaf bydd gennym, ar ol gwerthu hynny o ddodrefn sydd gennym, ddigon i’n cario ni ein dau, a’n tri phlentyn bach, i Wisconsin.  Pe baem ni yn ymdroi ac yn oedi, ac aros yn segur yn y wlad yma nes i Betsy wella ar ol y baban nesaf, mae’n bur debyg na byddai gennym ddim digon o fodd i fyned; ac felly yr ydym yn gwbl benderfynol i fyned yn awr ar unwaith.  Y mae y rheilffyrdd a’r llongau yn cludo yn awr am brisiau pur resymol.  Yr ydym am barotoi barilaid dda o fara ceirch ac ymenyn a chaws, a thipyn o gig moch, a phethau anghenrheidiol felly, yn ddioed: a byddwn yn wir yn ddiolchgar iawn i chwi os rhoddwch fenthyg dwy bunt i ni am bymthegnos, pan y caf fy nghyflog i dalu yn ol i chwi; ac yna ni allwn brynnu rhyw betheuach anhebgorol at y fordaith am arian parod, a bydd Betsy a minnau, os parhawn i gael ein hiechyd, yn sicr o wneyd yn dda yn America.  Gwyddoch ein bod bob amser yn foddlon i weithio, a’n bod yn hoff o weithio, ac nad ydym byth yn ddedwydd os na bydd gennym ddigon o waith.”

Methodd calon dyner John Careful wrthod cais Billy Active yn y fath wasgfa.  Estynnodd iddo y benthyg gofynedig dan bron wylo wrth feddwl am golli teulu mor ddiwyd ac mor weithgar, mor garedig ac mor onest o’r ardal: a thyna y chweched wobr a gafodd Ffarmwr Careful am ei ludded a’i ofal a’i dreuliau wrth “wella” Cilhaul Uchaf.

Cyflwynwyr Tysteb S. R.

Ar ol dwys fyfyrdod yn ei galon ar y pethau hyn ddydd a nos am lawer o wythnosau, teimlai John Careful fwyfwy, ac yn ddwysach ddwysach, ei fod wedi cael cam, a’u bod wedi ymddwyn yn annheg iawn tuag ato.  Ac un bore, pan ydoedd ar dipyn o neges yn yr Efail wrth y dafarn, cwynodd yn lled uchel, ac mewn iaith gref, yng nghlywedigaeth rhyw segurwyr masweddgar a diog oedd yn ymlechian o amgylch yno, nid yn unig ar berson y plwyf, a’r degymwr, a’r cardotwyr, ond hefyd ar y meistr tir a’r steward.  A’r diwrnod cyntaf oll ar ol hynny darfu i Bob Clep, neu Jack Cant, neu Mrs. Gossip, neu Bessy Tattle, gario y cyfan oll a ddywedodd, a mymryn bach dros ben hefyd, i deulu y steward; a rhoddwyd llinell ddu ar unwaith ar gyfer ei enw yn llyfr private y steward, ac anfonwyd gair am dano fel tenant ystyfnig a grwgnachlyd y prydnawn hwnnw at ei arglwydd tir, a deallwyd yn fuan drwy yr holl ardal fod John Careful druan wedi llwyr golli ffafr y steward a’i deulu.

Oddeutu yr amser hynny darfu i Mr. Jacob Highmind, yr hwn oedd newydd gael pedwar cant o bunnau ar ol ei hen ewytthr o Lundain, briodi Miss Jenny Lightfoot, yr hon oedd newydd gael dau gant o bunnau iddi ei hun ar ol ei mam gu; ac yr oedd y ddeuddyn ieuainc, gan eu bod newydd briodi, yn awyddus iawn am gael ffarm er dechreu byw; ac felly darfu i Jacob un bore, wrth groesi moel ei gymydog, saethu dwy betrisen, a phrynnu pwys o’r “gunpowder tea” goreu, i’w hanfon yn anrheg i wraig y steward; ac awgrymodd yn gynnil yn ôl-ysgrifen ei lythyryn boneddigaidd y byddai yn dda iawn iawn ganddo ef a’i wraig newydd Jenny gael ffarm dan Lord Protection.  Yn bur fuan ar ol byn, yn lled hwyr ar noson marchnad, gweithiodd Jacob ei ffordd, drwy landlord neu landlady y Queen’s Head, i ystafell y steward yno, a chafodd adeg a chyfle da iawn i ddangos ei foes i’r steward, ac i adnewyddu ei gais am ffarm cyn gynted ag y gellid ei chael.  Crybwyllodd y steward wrtho yn bur ddistaw, ac fel secret i’w gadw rhag pawb, fod John Careful o’r Cilhaul Uchaf yn debyg iawn o ymadael oddiyno; ac os deuai y ffarm honno yn rhydd y gwnai y tro i’r dim iddo ef ac i’w wraig newydd.  Gwyddai Jacob yn burion fod Cilhaul Uchaf mewn cyflwr a threfn da dros ben; a bowiodd yn foesgar ac isel iawn wrth ddiolch i’r steward am ei awgrym caredig.  Canodd y gloch yn union am botelaid o Champagne digymysg goreu; yfodd iechyd da Lord Protection a’i stewardiaid; ac yna ymgiliodd allan, gan fowio yn foneddigaidd iawn, a gadawodd y Champagne wrth ddeheulaw y steward.

Ymhen llai na mis ar ol y digwyddiad bychan yma, daeth y steward i’r gymydogaeth i gasglu ôl-ddyledion; ac anfonodd i erchi am i John Careful (er nad oedd dim ôl-ddyled arno ef) i ddyfod i’w gyfarfod ef i’r Queen’s Head erbyn naw o’r gloch bore drannoeth.  Brysiodd Mr Careful yno yn brydlawn, gan obeithio cael rhyw newydd da, drwy ei fod bob amser wedi gofalu am y rhent i’r diwrnod.  Ar ol disgwyl yn bur hir oddeutu y drws, cafodd ei alw i mewn.  Edrychodd y steward yn llym wgus arno, a dywedodd wrtho, mewn llais cryf garw, na wnai ef ddim goddef iddo gwyno ar y codiad diweddar, fel ag yr oedd wedi gwneyd y dydd o’r blaen wrth yr Efail; fod ei rent ef yn bur resymol yn wir,—ei bod yn llawer îs na rhenti ffermydd cymydogaethol arglwyddi eraill.  Nid oedd Ffarmwr Careful wrth gychwyn mor fore tua’r Queen’s Head, ac wrth chwysu yn ei frys i gyrraedd yno mewn pryd, ac wrth ddisgwyl yno ar ol hynny nes oeri braidd gormod—nid oedd ddim wedi dychymygu mai myned yno i gael ei drin a’i athrodi felly yr oedd wedi y cyfan: a darfu i drinfa front fawaidd felly, pan yr oedd yn agor ei glustiau a’i lygaid am ryw newydd cysurus, gynhyrfu mymryn ar ei ysbryd; ac atebodd mewn geiriau braidd cryfach nag a fyddai yn arfer ddefnyddio ar adegau felly,—ei fod ef a’i deulu wedi gwneyd eu goreu yn mhob ffordd i drin yn dda; ei fod ef a’i wraig a’i blant yn cydymroi weithio eu goreu yn fore ac yn hwyr—nad oedd byth na smocio, nac yfed, na gloddesta, na dim o’r fath beth yn eu ty; eu bod wedi gwario i drefnu a gwella y ffarm, y cyfan oll o’r chwe’ chan punt a dderbyniodd ei wraig yn gynhysgaeth ar ol ei thad; ei fod yn gwbl foddlon er’s blynyddau i lôg yr arian hynny gael myned i wneyd i fyny’r talion yn y blynyddau drwg presennol; ei fod wedi hoff-obeithio gallu cadw y £600 yn gyfain i’w rhannu yn gyfartal rhwng ei ferched ufudd a diwyd ar ddydd eu priodi; ond yn awr, fod y £600 i gyd oll wedi myned, ac na byddai y stoc ddim yn hollol rydd ganddo ar ol y talion nesaf; ac yn wir nad oedd dim modd iddo ef dalu am y ffarm heb gael cryn ostyngiad.  Wrth glywed hyn, dywedodd y steward yn bur sychlyd wrtho,—

“Gwell i chwi ynte roddi y ffarm i fyny.”

“Yn wir, syr,” atebai y tenant, “rhaid i mi ei rhoddi i fyny os na cheir rhyw gyfnewidiad yn fuan.”

Hwdiwch ynte,” ebe y steward, “dyma fi yn rhoddi i chwi notice i ymadael Gwyl Fair.”

Ar hyn, gostyngodd y tenant ei ben, ac atebodd mewn llais isel toredig, y byddai yn galed iawn i’w deimladau orfod ymadael o hen gartref ei dadau; ei fod ef a’i wraig a’i blant yn eu hamser goreu i drin y ffarm, ac y byddent yn foddlon i lafurio ac ymdrechu eto am flwyddyn neu ddwy mewn gobaith am amserau gwell.  Ond brysatebodd y steward yn bur sarrug,—

“Yr wyf yn deall eich bod wedi gwario yn barod yr arian cefn oedd gennych.  Gwell i chwi chwilio ar unwaith am ffarm lai.  Hydiwch, dyma’r notice i chwi ymadael.  Rhaid i mi yn awr fyned at orchwylion eraill—bore da i chwi.”

Rhoddodd Mr. Careful y notice yn ei logell, a dychwelodd adref gyda chalon drom iawn; a phan oedd yn gorffen adrodd wrth Jane ei wraig yr hyn oedd y steward wedi ddweyd ac wedi wneyd, daeth y tri mab yn annisgwyliadwy i’r tŷ.  Daethant hanner awr yn gynt nag arferol, am eu bod wedi gorffen cau y gwter fawr yng ngwaelod y braenar, a galwasant heibio i’r tŷ am fara a chaws cyn cychwyn at eu gorchwylion yr ochr arall i’r ffarm.  Deallasant ar unwaith fod rhyw newydd drwg, neu ryw amgylchiad cyfyng yn gofidio eu tad a’u mam.  Bu tafodau pawb am ennyd yn fud, ond yr oedd llygaid y plant yn dadleu fod hawl ganddynt i wybod achos blinder eu rhieni.  Penderfynodd y tad i beidio celu oddiwrth ei blant y notice i ymadael ydoedd newydd dderbyn, ac adroddodd wrthynt yr oll a gymerasai le.  Gwrandawsant hwythau arno yn fudsynedig; ac ar ol iddo dewi, edrychasant ar eu gilydd yn bur effeithiol, ond heb yngan gair.  O’r diwedd torrodd y tad ar y distawrwydd trwy ddweyd, megys wrtho ei hun, mewn llais trist isel, yn cael ei hanner fygu gan gymysg deimladau,—

“Yr oeddwn i wedi hoff-obeithio y cawswn orffen fy nyddiau yn Nghilhaul Uchaf, ac wedi breuddwydio llawer gwaith ganol dydd a chanol nos y cawsai fy llwch huno gyda llwch fy nhadau yn eu hen feddrod rhwng yr ywen fawr a drws cefn y clochdy, lle y gorffwys y rhai lluddedig, ac y peidia yr annuwiol â’i gyffro.”

“Ië, ié,” ebe y fam, “lle y mae John bach, fy nghyntafanedig anwyl, yn huno yn felus ar fynwes ei dad cu tirion, a lle y mae fy anwyl, anwyl, anw”—(ar hyn collodd y fam ei lliw—dechreuodd ei gwefusau grynu—ymrwygodd ochenaid ddofn o gronfa ei chalon; ond nis gallodd orffen ei dywediad).  Wrth weled hynny, cododd y mab hynaf ei wyneb mawr llydan iach gwridog; a chyda llais dwfn, cryf, caredig, effeithiol, llawn o deimlad, naill ai teimlad o serch cynnes at ei rieni, neu ynte teimlad o ddigllonedd brwd tuag at y gormeswyr, neu dichon y ddau deimlad yn ferw cymysgedig, dywedodd,—

“O fy anwyl fam, na adewch iddynt ladd eich calon fel yna.  Y maent wedi gwneyd eu gwaethaf i ni.  Na hidiwch mo honynt byth mwy.  Na ofnwch hwy ddim yn chwaneg.  Os gwnawn ni ein dyledswydd yn y byd yma, nid yw o ddim cymaint pwys pa le bydd ein llwch yn gorffwys.  Bydd yn sicr o fod allan o’u cyrraedd hwy; a byddwn yn sicr o ddihuno yn iach ar alwad gyntaf bore mawr y codi, a deuwn o hyd i’n hen gyfeillion ar darawiad llygad, a deuant hwythau hefyd o hyd i’w lle eu hun, a chesglir hwy at eu pobl, i dderbyn yn ol yr hyn a wnaethant yma.  Gwyddoch eu bod wedi creulawn lyncu i fyny yn barod eich £600 chwi.  Gwyddoch ein bod ni oll wedi gweithio yn galed iawn, haf a gaeaf, drwy wynt a gwlaw, ac oerni a gwres, fore a nawn a hwyr, er eu helw hwy, a’n bod heb ennill rhyngom oll yr un swllt i ni ein hunain.  Yr ydym wedi cyson dalu iddynt bob parch ac ufudd-dod yn ein gallu, ond tlawd iawn yw yr ad-dâl ydym yn gael am ein holl lafur a’n gofal.  Y mae gan Tom Thrift, aradrwr y Plas Hen, £88 o’i ennill yn awr yn y Savings Bank; ond nid oes gennyf fi, er fy mod dair blynedd yri hŷn na Tom, yr un geiniog wrth gefn yn ei chadw erbyn yr amser a ddaw.  Ond yr ydym ni yn gystal ein cyflwr a Robert Frugal druan.  Y mae ef yn awr newydd golli yr oll ag oedd wedi ennill.  Gwyddoch ei fod ef wedi bod yn fugail craff, ffyddlon, a gofalus, yn y Foelfawr am dros un mlynedd ar ddeg.  Llwyddodd ei feistr i gael ganddo adael ei gyflog y naill flwyddyn ar ol y llall yn ei law ef.  Addawodd y meistr ddeng waith drosodd y byddai Robert yn sicr o gael llog da am ei arian.  Yr oedd rhai yn ofni braidd er’s amryw fisoedd nad oedd ei feistr ddim yn gwneyd yn dda iawn yn y Foelfawr.  Yr oedd yn myned yn fwyfwy shy ar ddyddiau y talion; ond nid oedd neb o’r cymydogion yn dychmygu fod ei amgylchiadau mor ddrwg.  Yr oedd y steward yn ddyfnach yn secret ei helynt na neb arall, ac yn awr y mae y bailïaid newydd fod yn y Foelfawr, ac y maent wedi ysgubo ymaith i’r meistr tir bob peth oedd gan y tenant,—y stoc, a’r offer, a’r dodrefn, a’r ŷd, a’r gwair, a’r cig, a’r caws, a’r cyfan oll.  Nid oes yno ddim gwerth ceiniog wedi ei adael i Robert Frugal druan ar ol holl ludded a holl ofal ei fugeiliaeth.  Y mae Lord Quicksilver, y meistr tir, yn mynnu ac yn cael y ffyrling eithaf o’i rent arswydus ef; ond nid yw Robert, wedi ei holl lafur am un mlynedd ar ddeg i gynorthwyo y tenant i gasglu y rhent uchel hynny i’r lord, yn cael yr un ddimai o’i gyflog.  Ac y mae y gof hefyd ag oedd wedi gweithio am ddwy flynedd i’r Foelfawr yn methu cael dim am ei waith na’i haiarn; a dywedir yn hyf ac yn uchel drwy yr holl ardal fod baili uchaf Lord Quicksilver wedi prynnu deg o ychen mwyaf y Foelfawr am hanner eu gwerth, am fod y cymydogion yn ofni cynnyg yn ei erbyn, ac am fod y rhybudd am yr ocsiwn mor fyrr, ac ain na roddid dim coel i’r prynnwr.  Cyfraith yr ocsiwn wyllt sydyn yno oedd talu i lawr gyda bod y morthwyl i lawr; a chan fod y lord newydd dderbyn ei renti y diwrnod cyn hynny, nid oedd yno ddim arian parod i’w gael drwy yr holl gymydogaeth.  Yn wir y mae yn ddrwg iawn gennyf dros Humphrey y Gof, a thros Robert Frugul druan.  Cyfraith uffernol ydyw honno sy’n yspeilio y gweithiwr tlawd o’i ennill caled, ac o fwyd a dillad ei blant, er llenwi coffrau a seleri y gormeswyr goludog.  Peidiwch, da mam, ag edrych yn ddu fel yna arnaf am anturio siarad fel hyn am y gormeswyr goludog.  Gwn eich bod wedi ein dysgu o’r cryd i siarad yn wylaidd, ac i feddwl yn barchus am fawrion ein gwlad; ond y gwir ydyw y gwir, a dylid ei ddweyd ar amgylchiad fel hwn.  Ac nid oes dim ond rhyw bum mis, fel y gwyddoch, er pan ddarfu i’r hen Nansi Jones, ar ol bod yn dairymaid ragorol o fedrus ac o ffyddlon yn y Ddol Hir am dros ugain mlynedd, golli pob ceiniog a enillasai yn yr un modd, pan y mynnodd yr hen Lady Marigold o Blas y Dyffryn, bob dimai o’i rhent afresymol hi.  Beth ydyw pethau fel hyn ond lladrad noeth?  Ac yr oedd y drefn lunio cyfraith dros beth fel hyn, a’i darllen dair gwaith drosodd mewn dau lys seneddol, cyn gosod sel y goron wrthi, yn rogni mor gythreulig ag a ddyfeisiodd Turpin Wyld a’i gymdeithion erioed yn nyfnder y nos, yn seler dywyllafllys cyngor ei ogof.  Druan o’r hen Nansi Jones, wedi colli drwy hyn y cyfan o holl ennill ei bywyd, wedi colli drwy hyn y cyfan ydoedd wedi ofalus gynilo i’w chynnal yn ei hen ddyddiau.  Ydyw, mam, y mae peth fel hyn yn orthrymder anoddefadwy.  Y mae yn farbariaeth o’r fath greulonaf; ac y mae y rhai sydd yn gweinyddu y fath gyfraith yn lladron o’r dosbarth hyllaf; y maent yn lladron hyfion wyneb-haul: ac y maent yn digywilydd ymogoneddu yn nerth trais eu lladradaeth.  Gellwch chwi, fy nhad, ysgwyd pen, a gwenu a synnu bob yn ail, at hyfdra fy ymadroddion; ond nid wyf yn dywedyd dim ond y gwir.  Yr wyf yn dywedyd gwirionedd eglur, mewn geiriau eglur; ac y mae yn llawn bryd i rai ddweyd y gwir am bethau fel hyn yn y mannau mwyaf cyhoedd, ac yn y geiriau mwyaf eglur.  Y mae synwyr cyffredin y wlad wedi bod yn rhy wylaidd o lawer, a gonestrwydd cyffredin y wlad wedi bod yn rhy ddistaw o lawer yn nghylch pethau fel hyn.”

“Ond,” ebe’r tad a’r fam, eu dau ar unwaith, “er mwyn popeth, John anwyl, gad yna bobl fawrion y senedd a’r gyfraith; gad i ni ystyried beth sydd i ni wneyd yn awr?”

“Beth sydd i ni wneyd?” ebe John.  “Nid oes dim i ni ei wneyd ond MYNED I AMERICA.  Nid ydyw yn awr ddim hanner mor dreulfawr, na hanner mor dywyll, na hanner mor beryglus, i fyned yno ag ydoedd pan aeth fy nau ewythr, a’m dwy fodryb, yno ddeugain mlynedd yn ol; a gwyddoch yn dda fel y maent hwy a’u plant wedi llwyddo.  Gallwn gyhoeddi ocsiwn yn ddioed; ac ar ol talu i bawb bob ffryling o’u gofyn, bydd gennym dros ddwy ran o dair o’r cynnyrch tuag at ddechreu byw o newydd yn nyffryn bras y Missouri.  Trwy drugeredd, ni raid i ni ddim eto gladael i’r ocsiwn ar ein pethau fod dan fawd y bailïaid.  Cawn werthu pan y mynnom, ac fel y mynnom.  Codwch eich calon, fy anwyl dad a mam; y mae grennych chwech o blant cryfion fyddant yn ffyddlon i chwi hyd angeu.  Yr ydym oll gyda chwi yn awr, ac yn gwbl ryddion i ddyfod gyda chwi i America.  Yr ydym yn nyddiau goreu ein nerth, wedi ein hyfforddi i lafurio.  Y mae pob golwg a gobaith y gallwn wneyd yn dda yn America.  Codwch eich calonnau, cawn drigo yno eto yn llawen ac yn ddiogel bob un dan ei olewydden a’i ffigysbren ei hun; ac ni chaiff yr un o honoch chwi ddioddef dim eisieu tra y bydd dim modd gennym ni i’ch cynorthwyo.”

“Ond,” ebe y fam, a’i llygaid yn llawn, “a wyt ti ddim yn meddwl, John, y medrem ni gael ffarm oddeutu yma, dan ryw arglwydd tir arall, yn hen wlad anwyl ein genedigaeth?”

“Nac ellir yn wir, fy anwyl fam; y mae bron yn amhosibl cael cynnyg ar ffarm o unrhyw werth, dan unrhyw feistr tir ag sy’n deall y ffordd i gefnogi ei denantiaid.  Nid llawer o’r arglwyddi tir hynny sydd i’w cael yn ein gwlad ni yn awr; ac am y lleill oll, nid oes dim llawer o ddewis rhyngddynt.  Ni waeth ganddynt yn y byd pwy a wasgant, na pha faint a wasgant ar y sawl a gânt dan eu hawdurdod, am y cânt hwy y geiniog uchaf rywfodd.  Y mae llaweroedd o honynt, drwy eu dylni, a’u gwastraff, a’u gorthrymder, wedi bron andwyo eu hetifeddiaethau, ac wedi rhedeg i ddyled dros eu pennau; ac y maent, er gwasgu a chribddeilio, bron yn methu cael dau pen y llinyn yn nghyd.  Y mae eraill o honynt yn ddigon cyfoethog; ond nid oes ganddynt na chalon na challineb i ddim ond i wasgu a gor thrymu.  Dyna yr hen Lady V. o Garth Tafwys.  Y mae yn graig o arian, ond y mae yn ddraig o greulondeb tuag at ei thenantiaid.  Bu ganddi yn fy nghof i saith o denantiaid ar y ffarm fwyaf sydd ganddi; a darfu iddi bron andwyo eu teuluoedd.  A gwyddoch fod amryw o ffermydd goreu y General Malden yn awr ar ei law.  Bu amryw amaethwyr craffus, cryfion, yn eu golwg; ond y mae yr hen General, er ei fod yn colli cannoedd arnynt bob blwyddyn, yn rhy gyndyn i’w gosod am renti, ac ar amodau ag y gellir byw arnynt, a thalu am danynt.  A dyna ein hen gymydogion H. H., a B. W., a D. D. E., y rhai a gydnabyddir fel y ffarmwyr goreu yn yr holl wlad, wedi llwyr benderfynu rhoddi eu ffermydd i fyny Wyl Fair nesaf; ac y mae eu meistr hwy yn cael ei ystyried yn un lled deg a rhesymol: a rhywbeth tebyg ydyw bron yn mhobman.  Y gwir yw, dyrysodd rhwysg rhyfel dyddiau gogoniant yr hen Boni wŷr mawr ein gwlad; cawsant flas y pryd hynny ar renti uchel, ac ymchwyddasant i fyw yn wastraffus ar y rhenti hynny; ac y maent hyd heddyw heb ddysgu, neu yn hytrach heb geisio dysgu, cael pethau i’w lle.  Amserau caled iawn gafodd y ffarmwyr bron o hyd o hynny hyd heddyw.  Llai nag a feddyliech chwi o’r tenantiaid goreu sydd wedi gallu cael dim cyflog am eu llafur, chwaethach llog am eu heiddo.  Y mae miloedd obonynt wedi rhoddi nerth eu dyddiau goreu i’w meistradoedd am flynyddoedd lawer am ddim ond eu bwyd; ïe, y maent yn dlotach o lawer yn awr ar ol eu holl ofal, a’u holl lafur, nag oeddynt ddeng mlynedd at hugain yn ol.  Y mae yr arglwyddi tiroedd yn eu diraddio ac yn eu trin fel caethion.  Y maent yn meddwl ei bod yn fraint iddynt lafurio am ddim er eu cynnal hwy; ac y maent yn cydymgyngreirio i gadw i fyny renti hen ddyddiau Boni er cynnal i fyny rwysg a rhysedd gwallgofrwydd y dyddiau hynny.  Goreu i ni, yn wir, po gyntaf yr awn i’r America.  Nid oes dim golwg am ddyddiau gwell yma.  Yr ydych chwi yn lled adnabyddus o amgylchiadau y rhan fwyaf o ffarmwyr yr ardaloedd hyn.  Yr wyf fi yn barnu, yn ol pob hanes, fod y serfs yn Russia, er caethed ydynt, wedi ennill mwy yn y deugain mlynedd diweddaf nag a enillodd y rhan fwyaf o denantiaid ucheldiroedd Cymru.  Onid ydych chwi wedi cyfaddef lawer gwaith mai gwanychu yn raddol y maent o hyd, er eu holl ymdrech, er’s dros ddeunaw mlynedd ar hugain.  Os ydyw gwersi hanesion byrion fy hen lyfr ysgol i yn gywir, y maent yn trin tenantiaid y wlad yma yn awr yn yr un modd yn union ag y dywedir fod barwniaid Russia yn trin eu caeth-denantiaid.  Y mae llawer o etifeddiaethau llydain yn cael eu trin yng Nghymru yn awr yn yr un dull yn union ag yr oedd arglwyddi gloddestgar Rhufain yn trin eu hetifeddiaethau yn mlynyddoedd olaf adfeiliad eu hymerodraeth.  Gwyddoch yn burion fel y mae y meistri tiroedd a’u stewardiaid wedi bod yn anialeiddio yr Iwerddon drwy y blynyddoedd, nes ydynt o’r diwedd wedi torri eu tenantiaid, ac wedi torri eu hunain hefyd, ac wedi achosi tlodi mawr drwy rannau helaeth o’r wlad werdd honno.  Y mae rhai parthau o Gymru wedi cael eu gwasgu i gyflwr lled Iwerddonaidd.  Y mae y ffyrdd a’r adeiladau yn warth i’r oes.  Y mae yn drwm iawn fod arglwyddi tiroedd mor ddiwladgarwch, mor ddiddyniolaeth, ac mor gibddall i’w lles eu hunain.  Yn lle ymhyfrydu yn ffyniant ac yn nedwyddwch eu tenantiaid, y maent yn llawenychu yn ysbryd ac yn moesau gwasaidd eu caethiwed a’u tlodi.  Gwyddoch yn eithaf da ein bod ni bob amser wedi byw mor gynnil ag oedd bosibl i ni.  Gwnaeth hen gyfrwy fy nhad cu y tro i ni rhyngom oll tan y Gwanwyn diweddaf, pan y cawsom gyfrwy newydd cryf a rhadlawn; ac yr ydych yn cofio yn burion ddanodion y mân-squires spardynawg, meibion y steward, pan yr aeth fy mrawd ieuangaf i ffair Galanmai ar gefn y cyfrwy newydd am y tro cyntaf.  Rhaid i bob cyfrwy gael ei daith gyntaf rywbryd.  Yr oedd fy mrawd, ar ebol du a’r cyfrwy newydd, yn edrych yn bur dda y bore hwnnw.  Gwn nad anghofiwch byth mo edrychiad na geiriati ladies ieuainc drawing-room y steward pan yr aeth fy chwaer dal wridog Betsy, dair blynedd yn ol, heibio i’w ffenestr fawr yn ei shawl wlanen newydd i edrych am ei chyfnitheroedd o’r Dyffryn: ac yr ydys yn dweyd fod yr hen ffarmwr cloff diwyd Edward Sparing i lawr yn llyfr private y steward am ei fod wedi prynnu dog-cart gref dda gan ei gymydog cywrain Wheelwright Davies i’w gario ef a’i ferch wylaidd lân lanwaith Elen i farchnad yr ŷd a’r ymenyn.  Cewch chwi weled na bydd neb yn fuan i drin y tir yn yr hen wlad lethedig yma ond personiaid a beggeriaid, a mân-squires a demireps, ac uwch-stewardiaid ac îs-stewardiaid, a chlepgwn a thurncoats, a gamekeepers a bailïaid; a ffarmio ardderchog arswydus fydd yn bod yma y pryd hynny.  Caiff arglwyddi tiroedd weled eu camgymeriad, a theimlo eu colled y pryd hynny, ond bydd yn rhy ddiweddar iddynt edifarhau.  Ni bydd dim gobaith iddynt hwy weled diwygiad cyn eu marw.  Dichon y caiff y tô ar ol y nesaf weled dyddiau gwell yn hen wlad wyllt Gwalia.”

“Ond,” ebe’r tad, “a fyddai ddim yn well i ni ymfudo i ryw dalaeth Brydeinisg?  Dywedir fod yn awyr iachus deheubarth Affrica filiynau ar filiynau o gyfeiriau o wastad-dir bras ffrwythlawn heb neb i’w trin.  A fyddai ddim yn well i ni geisio prynnu ffarm fawr dda mewn lle felly?”

“Yr wyf yn meddwl, fy nhad, na byddai.  Yr wyf yn credu y buasai yn hawdd iawn prynnu ffermydd ardderchog yno pe buasid o’r dechreu yn ymddwyn yn agos i deg a boneddigaidd tuag at y cynfrodorion.  Ond yn awr y mae Syr Hero Harri Aliwal a’i gydswyddwyr mawrfrydig a gwronaidd, drwy gyfarwyddyd a than awdurdod swyddfa llys uchel y taleithiau tramor, wedi poeni a dirmygu a gormesu cynfrodorion y parthau dymunol hynny nes eu gyrru yn wallgof gynddeiriog; ac yr ydys yn benderfynol i’w llwyr ddiwreiddio o’r tir, a’u hymlid i ddinistr bythol cyn gynted ag y byddo bosibl; ac y mae swyddwyr Prydain wedi chwythu un o wageni mwyaf y brodorion yn yfflon gyrbibion er dangos fod ganddynt ddigon o bowdr i ddryllio pob peth yno o’u blaen.”

“Wel,” ebe’r tad eilwaith, “pe bai ni yn gwneyd i fyny ein meddyliau i fyned i America, a fyddai ddim yn well i ni aros ychydig i edrych beth a ddaw?”

“Na, yn wir, yr wyf yn meddwl mai colled fyddai hynny; ac y byddai yn llawer gwell i ni baratoi i fyned ar unwaith.  Y mae yn wir y gallem ni droi yn union y weirglodd fawr dan y tŷ, a’r borfa hir dan y ’sgubor bellaf, i wenith; ond gwnai hynny lawer mwy o ddrwg i’r tenant newydd nag a wnai o les i ni; a byddai yn well i ni ymadael heb fod dim lle ganddynt i ddweyd ein bod ni wedi cymeryd mantais oddiwrth unrhyw gytundeb llac penagored i wneyd dim tebyg i dro bach felly.  Yr ydym ni wedi eu gwasanaethu am dymor hir yn onest ac yn anrhydeddus, ac ni hoffwn mewn un modd i’r un tro bach felly lychwino ein hymddygiad wrth ymadael â hwy.”

“Yr wyt yn hollol right, John,” ebe y tad; “ni fynnwn innau er dim redeg y ffarm, na’i drygu mewn un modd, fel ag i golledu ein dilynwr, pwy bynag fyddo,—oblegid” * * * * *

Ar ganol yr ymddiddan yma, daeth Foulk Edward, yr under-steward, i’r tŷ i ofyn i John a’i frodyr ddyfod gydag ef yn union deg a’u harfau cau a’u menyg i drwsio gwrych y nursery.

* * * * *

Ymhen rhyw dair wythnos ar ol hyn, pan ydoedd Squire Speedwell yn gyrru yn lled fore ar draws Ffridd Hir Cihaul Uchaf, goddiweddwyd ef gan ruthr trwm o eirlaw, a charlamodd ei oreu am gysgod at ysgubor uchaf Ffarmwr Careful.  Yr oedd y ffarmwr yn digwydd bod yno y pryd hynny yn trwsio ei ôg fawr, ag oedd wedi cael ei thorri wrth gael ei llusgo yn erbyn dannedd, neu ar draws asennau, y graig ddu oedd yn ngbanol ei faes gwenith uchaf.  Brysiodd y ffarmwr yn bur garedig a boneddigaidd i gael y Squire a’i farch i ddiddosfan; ac wrth ddiolch am ei garedigrwydd, sylwodd y Squire fod mwy na thair blynedd er pan oedd ef wedi bod y ffordd honno o’r blaen; fod yn hoff iawn ganddo weled, wrth ddyfod i fyny y Ffridd, fel yr oedd hen ffarm Cilhaul Uchaf wedi cael ei threfnu a’i gwella yn y blynyddoedd diweddaf, a’i fod yn gobeithio y cai y tenant oes hir i fwynhau tâl am ei lafur.  Cydnabyddodd John Careful, mewn llais trist isel, ei fod ef a’i deulu wedi myned i lawer iawn o lafur ac o draul er gwella y ffarm, ond eu bod yn colli y cyfan,—ei fod newydd dderbyn notice i ymadael.

“Nac ydych, ’does bosibl,” ebe’r Squire yn bur sydyn.

“Ydym yn wir,” meddai y tenant.   “A ydyw eich meistr tir yn gwybod eich bod yn ymadael?”

“Yn wir, syr, nid wyf yn gwybod hynny.”  “Wel, yr wyf fi yn disgwyl cael gweled eich meistr tir yfory, neu drenydd, ac mi siaradaf ag ef yn nghylch y mater.”

“Yr wyf yn rhwymedig ac yn ddiolchgar iawn i chwi yn wir, syr; ond yr wyf yn ofni na byddai hynny o ddim lles i ni nac i neb arall.  Y mae yn awr yn rhy ddiweddar.  Gwasanaethodd y steward fi a’r notice â’i law ei hun, a hynny mewn dull pur benderfynol.  Y mae fy meibion yn teimlo ein bod wedi cael cam creulon, ac y maent yn gofidio yn ddwys o’r herwydd; ac y maent yn hollol benderfynol i fyned i America, ac y maent yn daer iawn ar i’w rhieni fyned gyda hwy.”

“Yr anwyl mawr, gwarchod ni, gobeithio nad yw Mrs. Careful a chwithau ddim yn meddwl myned dros y môr i’r America yn eich oed chwi.”

“Ydym, yn wir, syr, ac ni awn hefyd os bydd ein plant yn myned.”

“Na, na, Mr. Careful bach, ail ystyriwch y peth—gwyliwch rhag y fath helbul, a pherswadiwch eich meibion i beidio gadael gwlad eu genedigaeth.  Goddefwch i mi gael cyfle i siarad â’ch meistr tir yn nghylch y peth.  Caf adeg yn bur fuan.  Aroswch chwi—; gadewch i ni weled—; gwrandewch yn awr—.  Y mae eich meistr tir i fod yn Hunt Fawr C * * * yr wythnos nesaf.  Deuwch yno; a byddwch yn sicr o ddyfod yno; a deuwch yno yn fore: mynnaf fi gyfle i chwi gael ei weled a siarad ag ef, a chawn glywed beth a ddywed.”

“Yr wyf yn ddiolchgar iawn i chwi yn wir, syr, am eich ewyllys da, a’ch cyngor caredig.  Yr wyf yn teimlo yn bur isel a hiraethlawn wrth feddwl am fyned o fy hen gartref a’m hen wlad, ond yr wyf yn ofni mai felly y bydd.  Y mae y plant yn dynn iawn am fyned, gan ein bod wedi cael y fath gam a’r fath amharch—y mae yn rhy bell i feddwl am wneyd dim pen yn awr.  O’r braidd y gwrandawai y plant yn awr ar unrhyw gyngiad i aros yma.  Yr ydys wedi ymddwyn tuag atom yn groes i bob cyfiawnder.  Y mae yn amlwg fod y steward a’i fryd yn sefydlog ar gael ein lle; ac y mae ef a’i denlu yn rhai pur gwmpasog a chyfrwys, ac yn foddlon i wneuthur pob peth et cael eu cynllun i ben.”

“Wel, wel, beth bynnag am hynny, gofalwch chwi am fod wrth Hotel C * * * erbyn hanner awr wedi wyth fore dydd yr Hunt.  Y mae rhuthr y gawod yn awr drosodd; mi âf fi, os gwelwch yn dda: yr wyf wedi addaw cyfarfod tri o’m cyfeillion ar ben Bryn Grug y Grouse am hanner awr wedi deg.”

Dydd yr Hunt a ddaeth; ac yr oedd Ffarmwr Careful wrth yr Hotel, yn ol ei air, erbyn y funud benodedig: ac yr oedd yn edrych yn bur dda ar ol cerdded yno ar ei draed.  Ymhen pum munud ar ol iddo gyrraedd yno, gwelai Lord Protection, ei feistr tir, yn myned heibio yn mraich Squire Speedwell.  Y funud y canfu y Squire Mr. Careful yno, cododd ei fys arno i ddyfod yn mlaen, a dywedodd,—

“O my lord, dyma eich hen denant John Careful, yr hwn y bum yn crybwyll wrthych am dano y nos o’r blaen.”

“O, ho, bore da, Mr. Careful,” ebe Lord Protection; “gwn oddiwrth fy llyftau, ac oddiwrth yr hyn wyf yn glywed gan bawb, eich bod chwi yn un o’r tenantiaid goreu a mwyaf ymdrechgar a feddaf.  Y mae yn wir yn ddrwg iawn gennyf eich bod yn myned i ymadael.  Derbyniais air yn ddiweddar oddiwrth fy steward yn hysbysu eich bod yn cwyno ar y rhent, ac yn enwedig ar y codiad diweddaf.  A ydyw y rhent mewn gwirionedd yn rhy uchel, Mr. Careful?  Nis mynnwn er dim i’ch ffarm chwi fod yn rhy ddrud i chwi allu talu am dani.  Nid wyf yn gallu cofio yn awr yn gywir am ei hansawdd.  Nid wyf erioed wedi cael hamdden a chyfle i edrych yn fanwl dros Cilhaul Uchaf.  Ydych chwi yn barnu yn gydwybodol ei bod hi yn rhy ddrud?”

“Ydyw yn wir, my lord, y mae yn rhy ddrud.  Yr wyf fi a’m teulu wedi gwneuthur prawf teg o hrnny.  Ffarm wlyb, oer, amlwg, lechweddog, lawn o gerryg, ydyw—yn gofyn traul a llafur anghyffredin i’w thrin.  Darfu i ni, yn y blynyddoedd diweddaf, wario llawer mewn gwelliantau.  Yr oedd y codiad yn un trwm afresymol, ac yn un hynod o anamserol; a darfu i briswyr eraill gymeryd achlysur a mantais oddiwrth brisiad eich goruchwyliwr chwi i wneuthur niwaid mawr i ni.  Yr ydym, yn wir, my lord, wedi cael cam cywilyddus; a darfu i mi gwyno wrth eich steward, a dywedyd nad oedd dim modd i mi dalu am y ffarm yn ol y rhent a’r trethoedd a’r prisiau presennol; a rhoddodd y steward i mi notice i ymadael, ac awgrymodd y byddai yn ddigon hawdd iddo osod y ffarm y diwrnod a fynno.”

“Ac, my lord,” ebe Squire Speedwell, yn bur sydyn, “y mae John Careful a’i deulu yn penderfynu myned i America.  Byddai yn resyn yn wir, my lord, iddynt ymadael ac ymfudo felly.  Gadael eich estate chwi.  Gadael hen aelwyd eu tadau; a gadael gwlad hoff eu genedigaeth.  Tad cu John oedd un o’r dynion cryfion fu’n cadeirio eich tad cu chwi drwy y ddinas yma yn amser yr election fawr; a bu ei dad ef yn cario eich tad chwi ar achlysur y gyffelyb fuddugoliaeth ar ol hynny; ac y mae ganddo yn awr dri o feibion talion gwridog cryfion, nad ellid byth gael rhai mwy noble i gario eich mab chwi yn yr election nesaf.  Da chwi, my lord, er mwyn pob peth, gwnewch rywbeth o’u tu yn yr amgylchiad a’r bwlch yma.  Yn wir nid yw ddim yn amser yn awr i daflu ymaith y fath hen denant ymdrechgar a gofalus.”

“Wel, mi wnaf yn sicr.  Mynnaf siarad â’r steward ar y mater yn yr Audit nesaf.  Yr wyf fi yn credu fod fy stewardiaid i yn ceisio gwneyd eu goreu.  Nid wyf yn meddwl nad allant hwy gamgymeryd fel pobl eraill; ond yr wyf yn credu eu bod yn bryderus ac yn awyddus ac yn llafurus ac yn ddiwyd ac yn ystyriol i wneyd yr oll ag a allant yn y modd goreu; ac nid wyf yn hoffi ymyrryd â’u trefniadau; ond yn wir yr wyf yn dwys deimlo dros fy nhenantiaid tlodion ymdrechgar yn y blynyddoedd isel hyn.  Y mae dyddiau treth yr ŷd, dyddiau deddfau amddiffyniad eu marchnad hwy, dyddiau prisiau adeg fyw y rhyfeloedd, wedi hen fyned heibio.  Y mae’n debyg gennyf ei bod yn bur ddrwg er’s tro yn awr ar denantiaid; ac yr wyf yn ofni yn wir, John Careful, eich bod chwi wedi cael eich gwasgu, a gobeithio yr wyf y gwelaf fy ffordd yn oleu ac yn rhydd i mi eich cynorthwyo chwi yn y bwlch yma.  Ond dywedwch i mi, John, a ydych chwi ddim yn meddwl y gallai rhai o’r tenantiaid wneyd mwy o’u ffermydd nag y maent yn ei wneyd?”

“Ydwyf, my lord, yr wyf yn meddwl y gallent, ond iddynt gael cynorthwy a chefnogiad ac addysg; ond os rhoddwch chwi bedwar can pwys ar ysgwydd dyn nad all gario ond tri chan pwys, yr ydych yn sicr o’i wneyd bob yn dipyn yn anewyllysgar ac yn analluog i gario dau gan pwys.  Os gorfodwch chwi ddyn i redeg triugain milldir y dydd, pan na ddylai redeg ond deugain byddwch yn sicr cyn hir o’i redeg i’r pen.  Y mae llawer o ffarmwyr yn awr wedi eu gwasgu mor isel fel nad oes ganddynt ddim calon na nerth i gynnyg at orchwylion ag y buasent dan amgylchiadau mwy cefnog yn sicr o’u cyflawni.  Peth eithaf priodol—ïe, peth da ragorol, my lord, fyddai i’ch stewardiaid trymion llymion chwi ysbarduno tenantiaid a gweithwyr cysglyd, dioglyd, rhodianllyd, clebrog; ac yn wir yr wyf yn hoffi o’m calon gweled rhai swrth a segur felly yn ei chael hi hyd adref; ond ar ol ei rhoi hi yn ddiarbed i’r rhai afler a marwaidd, carwn yn fawr weled eich steward mawr chwi, yn union ar ol derbyn y rhenti, yn galw y rhai diwyd ac ymdrechgar o’i ddeutu i square yr Hotel, a charwn ei weled yn eu canol, fel pregethwr ’Senters, yn dringo carreg yr Horse-block, i areithio er canmol ac er cefnogi eu gofal a’u llafur.  Carwn ei weled yn sefyll yn syth ar ben hen garreg yr Horse-block; ac ar ol rhyddhau a glanhau ei wddf, a thynnu ei gadach allan i sychu ei wyneb a’i wefus, hoffwn ei weled yn estyn ei law am osteg a gwrandawiad, a’i glywed yn areithio yn debyg i hyn:—

“‘Fy hoff gyfeillion,—Yr wyf yn eich galw yn gyfeillion, oblegid yr wyf fi yn gyfaill i chwi, ac yr wyf yn dymuno parhau yn gyfaill i chwi; ac y mae o bwys mawr i ni fod yn gyfeillion.  Y mae eich meistr tir urddasol a haelfrydig wedi erchi i mi hysbysu i chwi ei fod ef yn dymuno eich ffyniant a’ch cysur—ei fod yn dymuno i chwi wneyd yn dda, ac edrych yn dda—ei fod yn dymuno i chwi gadw offer hwsmonaeth da, a stoc dda; a’i fod am i chwi gael pantry llawn a phwrs llawn, a’i fod am i chwi allu sparin arian bob blwyddyn.  Y mae yn beth hollol deg a gweddus i chwi gael rhywfaint o gyflog am eich gofal a’ch lludded, a rhywfaint o log am yr arian sydd gennych yn nodrefniad a stociad eich ffermydd; ond ar yr amserau drwg a dyryslyd hyn, dylech fod yn foddlon ar dalion cymedrol, eto dylai pob un o honoch gynilo ychydig bob blwyddyn, os na bydd rhyw dreuliau teuluaidd anarferol yn lluddias hynny.  Dylech ymdrechu cynilo ychydig bob blwyddyn erbyn angen a methiant y dyddiau a ddaw.  Ewyllys arbennig eich meistr tir ydyw i chwi gael pob anogaeth a chefnogiad.  Byddwch yn ddiwyd a gofalus.  Gochelwch bob difrod a diogi.  Astudiwch eich cynlluniau yn fanylaidd.  Cyn dechreu ar unrhyw orchwyl, eisteddwch yn gyntaf i fwrw y draul.  Cedwch eich cyfrifon yn llawn ac yn eglur.  Ymgedwch gartref hyd y gellwch.  Telwch eich ffordd yn gyflawn yn mhob man wrth fyned yn mlaen.  Gochelwch ddechreu rhedeg i ddyled.  Na phrynnwch byth ar y coel.  Gochelwch arfer benthyca arian na dim arall.  Cedwch eich buarthau yn gryno, eich cloddiau yn lân, eich cwterydd yn agored, eich gwrychoedd yn gyfain, eich ffyrdd yn gelyd, eich llwybrau yn sychion, eich tô yn ddiddos, a’ch holl adeiladau mewn trwsiad cyfaddas.  Colled i chwi, yn gystal ag i’ch meistr, fyddai i chwi beidio gwneyd hynny.  Gwn am ddwy neu dair o ysguboriau lle y cafodd tunelli o wair ei ddrygu y gaeaf diweddaf am fod y tô yn gollwng defni.  Naw mlynedd yn ol, darfu i’ch arglwydd tir fyned i draul fawr i wneuthur ffordd newydd drwy Glyn y Bedw Gleision.  Bu bron iawn i mi gorsio mewn mwy nag un man ar y ffordd honno yn mis Mawrth diweddaf.  Nid wyf yn meddwl i neb drwsio dim arni, nac ar ei phyllau, nac ar ei ffosydd, nac ar ei routs, nac ar y cloddiau o’i hamgylch, er y dydd y cafodd ei gorffen.  Nis gwn yn sicr ar bwy y mae bai mwyaf yr esgeulusdod, pa un ai ar arolygwyr ffyrdd y dre ddegwm ai ar denantiaid yr ardal; ond yr wyf yn sicr pe buasai eich meistr tir yn dyfod ar hyd-ddi yn y Gwanwyn diweddaf, a phe buasai yn gweled ôl teyrnasiad gwlawogydd naw gaeaf ar bob rhan o honi, y buasai yn gwylltio gymaint fel y buasai yn ysgubo tenantiaid yr ardal honno i ffwrdd bob un oddiar ei etifeddiaeth.  A gwelais hefyd wrychoedd mawr ceimion cysgodfawr canghenog, heb gael eu torri er dyddiau y Frenhines Ann, yn lledu eu gwraidd a’u brigau ar draws ac o amgylch rhai o’r dolydd mwyaf cysgodol yn yr holl wlad.  Peidiwch er dim ag aredig mwy o dir nag a fedrwch wrteithio.  Bydd hynny yn sicr o achosi colled.  Yr wyf yn meddwl y gwnai gwisg go dda yn awr ac eilwaith o bridd a chalch, neu o bridd a thail, i’ch porfeydd a’ch gweirgloddiau dalu yn well O lawer yn y wlad oer fas wleb anwastad yma nag i chwi lafurio i droi gormod.  Gwelais y dydd o’r blaen, wrth fyned ar draws gyda’r cwn, hen domenydd llydain o dywyrch ffosydd ar ganol y gweirgloddiau gwair, yn y mannau goreu arnynt; ac yr oedd argoelion digon eglur fod y tomennau hynny wedi bod yno ar ffordd y bladur er’s degau o flynyddoedd.  A gwelais hefyd y cloddiau a’r ffosydd oddeutu amryw gaeau gwlybion wedi llawn gau, a’r mân-ffrydiau sly yn ymlithro yn ddistaw drwy’r dydd a thrwy’r nos o’r clawdd i’r cae i andwyo y tir.  Yr oeddwn bron gwylltio wrth weled hynny, eisiau fod y cloddiau a’r ffosydd yn cael eu hagor, a’r tywyrch yn cael eu cymysgu â’r hen domenydd gorsychion, a’r cyfan yn ol hynny yn cael eu cymysgu â chalch neu â thail i’w daenu dros y caeau.  Gellid dyblu cynnyrch rhosydd a chaeau gwlybion yn y dull hynny.  Y mae rhai yn meddwl y gellid gwneyd defnydd da o glai drwy ei olosgi.  Er mwyn pob peth ymdrechwch ddyfeisio rhyw foddion er atal egriad, a llifiad ymaith yr ammonia o’ch tomennydd: neu, mewn geiriau eraill, er atal colli nodd y rhinwedd o’r tail, yr hyn yw ei nerth fel gwrtaith.  Gwelais ddoe, wrth fyned heibio, amryw domennydd yn bur wasgarog, ar dapiau moelion, llechweddog, digysgod, heb fod yn agos mor gryno ac mor amddiffynedig ag y buasai yn hawdd iddynt fod.  Yr oedd holl domennydd yr hen Farmwr Clout ar lethr craig, ar fin y nant; ac yr oedd eu brasder goreu yn llifo ymaith i nychu y brithylliaid oedd yn y llyn du oddidanynt: ac yr oedd pistyll trystfawr Ffarmwr Careless yn gwyllt-ffrydio ar draws buarth y tŷ, a thrwy fuarth yr ysgubor, a thros ochr yr ydlan, ac i lawr dros y ffordd i’r afon.  Y mae y fferyllwyr craffaf yn dysgu i ni fod llawer iawn o nerth gwrteithiau cartrefol ein gwlad ni yn cael ei golli trwy fod y tomennydd yn cael eu gadael yn agored i’r tês ac i’r tymhestloedd.  Dyfal astudiwch bob cynllun a osodir ger eich bron er ysgoi y colledion hynny.  Y mae yr hen dai, a’r hen ysguboriau, ar lawer tyddyn wedi cael eu hadeiladu yn y mannau mwyaf anfanteisiol.  Nid eich bai chwi oedd hynny.  Gwn fod lle a dull adeiladau rhai ffermydd go fychain yn achosi colled o dros ugain punt yn y flwyddyn.  Er pob peth astudiwch a chwiliwch am ryw foddion er atal i rinwedd eich tomennydd gael ei sugno gan y tês i’r wybren, na chael ei olchi gan y tywydd i’r môr.  Gwn am amryw hen ffarmwyr a wnaethant lawer o arian yn eu dydd, ac nid wyf yn gwybod eu bod yn enwog am ddim ond am ruglo y buarthau, a chludo y cyfan i’r domen er ei mwyhau, ac am ei chadw yn gryno er ei hamddiffyn.  Gwnewch eich goreu ymhob modd i frashau a chynyddu eich gwrtaith cartrefol.  Cedwch oriau rheolaidd, yn enwedig wrth godi ac wrth noswylio, a chyda’ch prydiau bwyd.  Dysgwch eich gweinidogion i fod yn ddiwyd, ac yn gynnil, ac yn onest.  Erfyniwch arnynt er pob peth i fod yn eirwir, ac yn ffyddlon yn eich absenoldeb.  Gwnewch eich goreu ar i bawb drwy’r ardal gael digon o waith.  Peth ofnadwy ydyw meddwl am fechgyn neu ferched ieuainc mawrion cryfion iachus yn ymsegura mewn syrthni heb ddim i’w wneyd.  Y mae llaweroedd drwy seguryd felly wedi cael eu handwyo am byth.  Rhoddwch gymaint o ysgol ag a fedrwch i’ch plant.  Ni fynnwn i er dim, ac yr wyf yn sicr nas mynnai eich meistr tir er dim, eich rhwymo na’ch gorfodi mewn un modd gyda golwg ar eich Sabbathau.  Y mae yr addoli i fod yn hollol yn ol barn eich deall a theimlad eich calon eich hun; ond goddefwch i mi ddweyd na welais i ddim daioni yn dyfod erioed o’r bobl sy’n treulio eu Sabbathau i gysgu a dylyfu gên a rhodianna a hel cleber.  Os byddwch chwi am ryw welliantau ag y dylai eich meistr tir eich cynorthwyo i’w gyflawni, ystyriwch eich cynlluniati gyda manylrwydd, a gadewch imi wybod eich cynygion.  Yr oedd yn dda iawn gennyf eich gweled yma mor brydlawn bore heddyw.  Y mae eich cinio yn awr yn barod; ac y mae gennyf i’w hysbysu i chwi y bydd eich arglwydd tir caredig yn eich dysgnyl oll i giniawa gydag ef yn y Castell Wyl Fair nesaf.  Bydd yno y pryd hynny amryw foneddigion profiadol dysgedig i esbonio i chwi ryw egwyddorion newyddion gyda golwg ar ansawdd gwahanol briddoedd, a gwahanol wrteithiau, a gwahanol lysiau, yn nghydag amryw bethau eraill cysylltiedig â llwyddiant amaethyddiaeth.  Gadewch i ni fyned oddiyma yn awr i’r ystafell ginio.  Ni gawn ar ol cinio yfed iechyd da ein brenhines a’ch meistr tir; ac yna ymwasgarwn bob un i’w gartref.”

“Aros, John, aros; yr wyt ti yn awr yn pregethu dyledswydd i dy uwchradd, a hynny mewn dull pur gyfrwys.  Yr wyf wrth dy wrando wedi colli adeg i weled cychwyniad y llwynog; yr wyf eisus yn rhy ddiweddar, ac mi gollaf hynny o sport.”

“Yr wyf yn deisyf eich pardwn, my lord; yr oeddwn yn rhy ddifeddwl wrth gymeryd eich amser chwi felly; ond yn wir, ni buaswn i byth yn dweyd cymaint oni buasai eich bod chwi yn gwenu mor isel ac mor garedig wrth wrando.  Mi âf fi adref gynted ag y gallaf bellach.”

“Aros, John, aros—paid a myned yn union eto.  Yr wyf fi yn hoffi clywed hen denant fel tydi yn dweyd ei feddwl a’i brofidd yn rhydd ac yn eglur.  Ychydig iawn yn wir wyf fi yn hidio yn awr am golli rhyw dipyn o sport ac o lafur yr hela llwynog.  Nid oes gennyf fi yn awr ddim cymaint o flys at bethau felly ag a fu gennyf unwaith; ac yn wir yr wyf yn ofni ein bod ni ar ddyddiau hela fel hyn yn gwneyd cryn niwaid i borfeydd a gwrychoedd a chaeau ŷd ein tenantiaid.  Y mae ein mintai heddyw rhwng cwn a meirch a dynion yn un bur fawr.  Yr wyf yn ofni fod ein blys ni am sport yn costio yn lled ddrud iddynt hwy.  Yr ydym, yn gyntaf, yn diygu eu meusydd hwy ar ddyddiau ein helwriaeth.  Yn ail, eu gwellt a’u hegin a’u hŷd hwy sydd yn porthi ac yn pesgi ein cwningod a’n hysgyfarnogod a’n hadar tewion ni.  Yn drydydd, y maent hwy yn lled fynych yn gorfod lletya a byrddio ein milgwn a’n bytheuaid ieuainc ni, pan y bydd tymor sport yr hela drosodd.  Ac yn bedwerydd, os digwydd iddynt hwy rywdro, yn rhyw ddull, ddyfod ar draws petrisen, neu gyffologyn, neu gyw pheasant, neu gwningen, neu ysgyfarnog, dyna, hwy ar unwaith wedi ymddyrysu yn rhwydau ein deddfau helwfiaeth ni; ac wrth ymwingo i geisio dianc yn rhydd, y maent y rhan amlaf yn colli eu tymherau, ac wedi hynny yn colli llywodraeth eu tafodau, ac bob yn dipyn ar ol hynny yn colli eu ffermydd.  Atolwg, John, a fedri di ddweyd i mi pa faint o gost i denant ydyw cadw bytheuad neu filgi ieuanc?”

“Na fedraf, my lord, ddim dweyd hynny yn fanwl.  Byddai yn drueni creulawn hanner newynu ci ieuanc.  Os caiff ei gadw yn dda, costia gymaint a chadw mochyn; ac y mae y gofal o gadw ci ieuanc yn rhywbeth.  Y mae helgi ieuanc cryf gwresog weithiau yn bur chwareus, braidd yn rhy chwareus ar adeg yr ŵyn bach; ac y mae yn anhawdd iawn gennyf feddwl am gi ieuanc wrth ei gadwyn ddydd a nos, ac edrych arno yn neidio o’m deutu gan ymbil arnaf â’i wên, ac â’i ddeigryn, ac â’i lygaid, ac â’i ochenaid, am ei ollwng yn rhydd o’i gadwyn i gael rhoddi mymryn bach o dro gyda mi drwy y coed a’r caeau.”

“Ond, John, wyt ti yn golygu fod ein game ni, sef ein hadar a’n hysgyfarnogod ni, yn peri colled i’r tenantiaid?”

“Byddai yn well gennyf, my lord, beidio ateb y gofyniad yna.”

“Yn enw dyn, John, pam?”

“Am nad yw y tenant byth ar ei ennill wrthsiarad ar bwnc fel yna.”

“Twt, twt, John; yr oeddwn i wedi clywed dy fod di bob amser yn barod i ddweyd dy feddwl yn eglur a didderbynwyneb ar bob pwnc.  Y mae fy ngofyniad i yn un digon dealladwy—A ydyw ein hysgyfarnogod a’n hadar ni yn achosi colled i’n tenantiaid?”

“Wel, ydynt, my lord, y maent; y maent yn sicr.  Y mae y tenant yn cael rhy fach yny dyddiau yma am besgi beef a mutton; ac nid yw yn cael dim am besgi cwningod ac ysgyfarnogod, ond rhyw ychydig o wenwyn ac o ddrwg ewyllys yn awr a phryd arall.  Ni chefais i ddim cymaint o golled oddiwrth game ag a gafodd rhai tenantiaid; ond mi wn i am rai mannau lle y mae game yn cael brasder y porfeydd, a defnydd bara y tylwyth.  Dyna’r gwir, my lord; ond yr wyf yn ofni fy mod yn eich digio wrth ei ddweyd.”

“Nac wyt yn wir, John, nac wyt yn wir.  Paid a meddwl fy mod wedi tramgwyddo o herwydd yr hyn a ddywedaist heddyw.  Da iawn gennyf fy mod wedi cael cyfle i glywed dy farn a’th deimlad am y pethau yma.  Byddai yn burion peth i ni gael adegau mynychach i glywed ein tenantiaid yn adrodd tipyn o’u helyntion; ac yn wir yr wyf fi bron iawn a blino ar bryder a rhwysg a rhodres bywyd uchel cyhoeddus, a rhyw ffurf-ddefodau swyddogol diddarfod.  Yr wyf yn bwriadu edrych i mewn dipyn manylach rhagllaw i amgylchiadau fy etifeddiaeth, ac i gyfleusderau a chysuron y rhai sydd yn byw ac yn llafurio danaf.  Y mae rhyw ddyledswyddau yn perthyn i bob meddiannau.  Y mae rhyw rwymedigaethau yn nglŷn â phob eiddo; ac yn wir yr wyf fi am wneuthur mwy o hyn allan tuag at gynorthwyo fy nhenantiaid ymdrechgar.  Yr wyf yn ofni yn fawr; ac yn wir, yr wyf yn gorfod hollol gredu ein bod ni, arglwyddi tiroedd, wedi bod yn llawer rhy esgeulus o ddyledswyddau blaenaf cylchoedd pwysig ein sefyllfa gymdeithasol; a bod hynny wedi bod yn golled fawr i ni ein hunain, yn gystal ag i eraill.  Y mae arglwyddi y gweithiau haearn yn gwybod maint a nerth a thraul eu ffwrneisiau.  Y mae arglwyddi y mwnau yn gwybod hanes traul a chynnyrch eu cloddfeydd.  Y mae y manufacturers yn dyfal ymgais o hyd am berffeithio eu peiriannau.  Y mae y masnachwr yn astudio yn barhaus y dulliau goreu i drefnu cistau a shelffydd a byrddau gwerthu ei fasnachdy.  Y mae y marsiandwr yn gwybod yn dda am dunelliad ei longau:—ond nid ydym ni, y meistri tiroedd, wedi rhoddi bron ddim o’n meddwl erioed ar gyfansoddiad gwrtaith, nac ar drefniad lleoedd tomennau, nac ydlanau, na chyfansoddiad cutiau, nac ysguboriau, nallaethdai, na ffyrnau, na ffyrdd, na ffosydd, na gwrychoedd, na buarthau, na nemawr o ddim o gyfleusderau ein ffarmdai; ac y mae yr esgeulusdra cywilyddus yma wedi bod yn achos o golledion trymion i ni ein hunain, ac i’n tenantiaid.  Ond yn wir, yr wyf fi o hyn allan yn bwriadu talu mwy o sylw i’r pethau hyn.”

“Wel, yn wir, my lord, y mae yn dda iawn genyf fi eich clywed chwi yn dywedyd hynny, oblegid yr wyf yn gwybod y bydd eich sylw a’ch cyngor a’ch cefnogiad chwi yn sicr o fod o les anrhaethol i’ch tenantiaid a’u teuluoedd, ac yn elw mawr hefyd i’ch etifeddiaeth yn ei holl gysylltiadau.  Bum i yn meddwl lawer gwaith, my lord, pe buasai perchenogion etifeddiaethau llydain fel eich un chwi, ac un Marshall Victor, ac un Countess Southland, ac un Duke Northland, yn cyduno i dalu i ddarlithydd dawnus, dysgedig, profiadol, am esbonio i’r tenantiaid wahanol ganghennau amaethyddiaeth, y buasai hynny yn ateb dibenion gwerthfawr, ond cynnal y cyfarfodydd mewn lleoedd cyfleus, ac ar adegau priodol.  Ond dylai y darlithydd fod yn ddyn ymarferol yn gystal ag yn ddyn dysgedig; a dylai fod ganddo ddigon o dymer dda, ac o amynedd gwr boneddig, i gymeryd ei holi a’i groesholi gan yr hen Ffarmwr Grey, a’r ffarmwr ieuanc ymchwilgar Dicky Price, yn niwedd pob darlith, gyda golwg ar draul a holl gysylltiadau eraill y gwelliantau a fyddai y darlithydd am gynnyg i sylw y tenantiaid.  Oblegid yr wyf fi yn credu, my lord, fod llaweroedd o’r scriblwyr barfog Llundeinaidd fu’n ysgrifennu yn ddiweddar i’r newyddiaduron ynghylch gwelliantau amaethyddol llechweddi a rhosydd Cymru wedi gwneuthur cam mawr â thenantiaid craffus ac ymdrechgar.  Y mae yn ddigon hawdd gwybod mai ar ol cinio go fras, a diod go gref, yr oedd y scriblwyr barfog hynny yn dychymygu eu cynlluniau, ac yn gwneyd i fyny eu cyfrifon; ond nis gwn i ddim nad oedd rhyw grach-arglwydd go anghenog yn talu am eu cinio, er cael tipyn o logic cockney y papyr newydd yn esgus dros ei waith yn codi rhenti afresymol.  Hoffwn i yn fawr iawn gael newid lle ag un o’r scriblwyr gwalltog hynny am dair blynedd.  Cai ef ffarmio ochrau Cilhaul Uchaf, ac eisteddwn innau wrth ei ddesc yntau i gadw y cyfrifon.  Yr wyf fi yn wir awyddus, my lord, am welliantau.  Y mae yr oes yma yn oes am welliantau, a diwygiadau, a dyfeisiau.  Gellir dichon ddyfod o hyd i egwyddorion a chynlluniau ag a all fod o les mawr i ffarmwyr.  Nid oes gennyf fi ddim cydymdeimlad â’r ffarmwyr musgrell diog llygad-gauad ag ydynt ding-dong yn yr un man o hyd, yn esgeuluso neu yn gwrthod pob gwelliant profedig er teced y byddo yn cael ei osod ger eu bron, ac er taered y byddo yn cael ei gymhell i’w hystyriaeth; ond yr wyf ar yr un pryd yn protestio yn erbyn cynlluniau gwylltion, a chyfrifon bylchog gwallus, y scriblwyr menyddboeth penfeddal sy’n ysgrifenu llythyrau i’r newyddiaduron am geiniog y line gan y swyddfa, neu am gig rhost a grog gan arglwydd y tyddyn: peth ofnadwy ydyw ysgrifenu am gyflog er mwyn boddhau pobl nad ydynt am wybod y gwirionedd.”

“Eh, oh, John, yr wyt ti yn dechreu twymo mymryn yrwan, ac yn myned braidd yn ddoniol.  Rhaid i mi fyned yn awr.  Glywi di swn gwyllt y bytheuaid?  Y maent yn fyw ar eu full cry.  Yr wyf yn gobeithio cael dy weled yn fuan eto; ac fel y dywedais o’r blaen, byddaf yn sicr o gofio am dy achos pan ddaw diwrnod yr Audit.”

Daeth dydd yr Audit, a gofynnodd y lord i’r steward paham yr oedd John Careful yn ymadael o’r Cilhaul Uchaf.  Atebodd y steward mai o herwydd ei fod o hyd yn achwyn ar y codiad diweddar, a’i fod wedi dywedyd drachefn a thrachefn nad allai ddim talu y rhent presennol; ac am fod pobl ieuainc cryfion, newydd briodi, pur gyfrifol, yn gwbl barod i gymeryd y ffarm am y rhent presennol.

“Ond dywedir i mi,” meddai’r lord, “fod John Careful wedi gwario llawer iawn mewn gwelliantau yno, a bod ei blant oll yn rhai sobr, deallus, a gweithgar, dros ben, a’u bod wedi llafurio llawer yno.  Byddai yn dda iawn gennyf pe medrem ddyfod i ryw gytundeb yn eu hachos.  Byddai yn ofidus gennyf golli y fath denantiaid.”

“Yr wyf yn ofni, my lord, os gwnawn blygu i ostwng y rhent iddynt hwy, y deuwn ni i ddyryswch diderfyn gyda thenantiaid eraill.”

“Wel, dichon y dylem ni adystyried achos yr holl denantiaid, ac y dylem gymeryd rhyw sylw neillduol o’r rhai sydd wedi gwario a llafurio fwyaf mewn gwelliantau.”

“Na, yn wir, nid yn awr, my lord, os gallwn mewn modd yn y byd osgoi hynny.  Buasai yn dda iawn pe buasai mwy o ystyriaeth ac o bwyll yn bod yn yr amser a aeth heibio, a phe buasai mwy o ymchwiliad yn cael ei wneyd i draul a llafur tenantiaid mewn gwelliantau yn amserau rhai o’r prisiadau a wnaethpwyd yn y blynyddoedd a aethant heibio,—ond nis gallwn ni ddim galw yn ol yn awr yr adegau hynny.  Y mae’r camgymeriadau a wnaethpwyd yn awr yn hen.  Y maent yn hen bethau wedi myned heibio.  Nid ellir dim eu galw yn ol yn awr.  Y mae yn rhy ddiweddar yn awr i feddwl am eu hadystyried.  Y mae yr ymwthio am ffermydd yn parhau o hyd, yn enwedig yr ymwthio am y ffermydd ag ydynt mewn trefn weddol o dda; ac yn wir, nid wyf fi ddim yn meddwl, pe baem ni yn gostwng, ac yn gostwng llawer i’r Carefuls, y gofynnent byth eto am Gilhaul Uchaf.  Y mae cryn ysbryd ymsymud ac ymfudo yn awr yn y wlad.  Nis gwn yn sicr beth ddaw o honi.  Mae rhai tenantiaid yn dechreu myned braidd yn ystyfnig, ac yn wir weithiau yn dafodog.”

“Ydych chwi wedi addaw Cilhaul i ryw un?”

“Na, nac ydwyf, my lord, ddim wedi ei haddaw; ond yr ydwyf, my lord, bron cystal a bod wedi ei haddaw i Mr. a Mrs. Jacob Highmind.  Y maent yn bobl ieuainc bywiog, boneddigaidd, gwetlhgar, diolchgar, yn geraint i deuluoedd Eglwysig, o egwyddorion ystwyth, plygadwy, conserva-toriaidd.  Y mae ganddynt ddigon o arian at eu llaw, ac y maent yn debyg o drin yn dda ragorol, mewn dull fydd yn enw ac yn elw i’r estate: a’r hyn sydd o braidd fwy pwys na dim ydyw, y cawn ni glywed yn ddistaw o bryd i bryd yr oll fydd yn cael ei ddweyd a’i wneyd yn yr ardal.  Gallaf sicrhau i chwi, my lord, fod yr Highminds yn bobl barchus iawn.  Y maent yn perthyn dipyn i deulu dylanwadol y Sliminds.  Yr wyf yn addef fod y Carefuls yn bobl ddiwyd, geirwir, ymdrechgar, cymydogol; ond y maent yn GAPELWYR pur dynion.”

“Wel, beth er hynny, yr oedd eu hynafiaid yn gapelwyr tynion, ond yr oeddynt yn denantiaid rhagotol.”

“Ie, dichon eu bod, my lord, ond nid oedd y tadau ddim mor ystyfnig, ddim yn agos mor dynion, a’r bobl yma.  Nid yw y bobl yma ddim yn myned i’r Eglwys hyd yn nod a’r ŵyl y Groglith, nac ar Sul y Pasg, nac ar ddydd lau y Dyrchafael, nac ar ddydd Nadolig ein Harglwydd, na dydd puredigaeth y fendigedig; forwyn, na dydd y santeiddlan wirioniaid, na dydd cydfrad y Papistiaid, na dydd merthyrolaeth y brenin Siarles, na dydd adferiad y brenhinol deulu, na dydd St. Bartholomeus, na dydd St. Andreas, nac un dydd gŵyl arall.”

“Da iawn genyf eich bod chwi a’m stewardiaid eraill yn meddwl mor barchus am ordinhadau crefydd, ac yn dwyn y fath sel dros yr Eglwys.  Diau eich bod yn cael ymgeledd gwerthfawr i’ch cyflwr ar ei gwyliau santaidd.  Attolwg, a fuoch chwi yn yr Eglwys ar y gwyliau a enwasoch?”

“Beth, my lord, ddarfu i chwi ofyn yn awr?”

“Gofyn a fuoch chwi yn yr Eglwys ar ŵyl y Groglith, ac ar ŵyl y Pasg?”

“Y Groglith a’r Pasg ydych chwi yn ddweyd, my lord?”

“Wel, ïe, y Groglïth a’r Pasg.  A fuoch chwi yn yr Eglwys y dyddiau hynny?”

“Y Groglith a’r Pasg! jaist,—gadewch i mi gofio?  Yn—yn—yn yr Eglwys;—naddo, jaist, my lord, darfu i mi ddarllen y llithiau a’r gweddiau gartref foreu Sul y Pasg; ac yr oedd acw dipyn o’r tannau ac o’r dawns gan y bobl ieuainc acw ddydd y Groglith; ac yr oedd eu mam am i mi aros gartref gyda hwy.”

“Wel, fuoch chwi yn yr Eglwys ŵyl y Dyrchafael?”

“Yn wir, my lord, y mae hynny yn rhy anhawdd i mi gofio yn awr.”

“Wel, fuoch chwi yn yr Eglwys y Sul diweddaf?”

“Y Sul diweddaf—aroswch chwi, pryd yr oedd hynny hefyd;—na, jaist, my lord, yr oeddwn i yn bur gwla gan gur yn fy mhen ar ol cinio lled hwyr y dydd Sadwrn o’r blaen.  Yn wir-ionedd-i, my lord, yr oeddwn i wedi hollol fwriadu myned i’r biegeth fore gŵyl merthyrolaeth Sant Siarles, oblegid yr oeddwn i am gael clywed pregeth yn iawn ar y testun hynny; ond yr oedd hi mor ofnadwy o oer, fel y gwyddoch chwi, yn niwedd Ionawr, fel y buasai yn ddigon am fywyd undyn i fyned i’n Heglwys ni y bore hwnnw.  Yr wyf fi, my lord, yn ceisio myned i’r Eglwys bob amser ag y gallaf, ond gwyddoch ei bod yn llawer haws i’r tenantiaid fyned nag ydyw i mi fyned.  Nid oes ganddynt hwy ddim gofalon i’w rhwystro, ac y maent yn ddigon cryfion i ddal pob tywydd; ac y maent yn medru myned i’w cyrddau eu hunain pan y mynnant.”

“Dywedasoch chwi gynnau nad oedd tadau y Careful ddim yn gapelwyr mor dynion ag ydynt hwy.”

“Do, my lord, mi ddywedais hynny, ac yr wyf fi yn credu hynny; ac y mae eich lady chwi a gwraig y person hefyd yn dweyd ac yn meddwl yr un peth, ac y maent am i mi arfer awdurdod fy sefyllfa i’w plygu i fyned i’r Eglwys: ac yn wir, yr wyf fi yn credu, my lord, y dylid eu plygu —eu bod hwy yn llawer mwy cyndyn nag oedd eu tadau.”

“Nid doeth fyddai i ni fyned i ddadl ar beth fel hyn; ond yr wyf fi yn credu eich bod chwi yn cam-gredu.  Yr wyf fi yn credu fod y tadau yn llawn mor dynned anghydffurfwyr a neb sydd i’w cael yn awr.  Y mae yn ffaith, yn ffaith ag sydd ar gof a chadw hyd heddyw, i geidwad parc fy hen-hen-dad cu gyduno â bwtler Judge Jeffry i gasglu mob o hogiau, hogiau mawrion; ac yr oedd rhai o honynt yn hogiau penlas, clun-gloff, a gwargam, i luchio hen-hen-dad cu y Carefuls ag wyau gorllyd, pan oedd yr hen ŵr yn myned i’w gapel bychan wrth Droed y Foel un bore Sabbath; ac yr ydys yn gwybod hefyd i geidwad y parc a’r bwtler gael eu cymhell a’u cynhyrfu i fynnu y sport hynny gan rywbeth a ddywedwyd ar frecwast yn nhŷ y Judge y bore hwnnw; a gallaf ddywedyd i chwi yn mhellach fod capelydd y Judge, a rector y plwyf, a’u gwragedd, yn brecwesla gyda’r Judge y bore hwnnw: ac yr oedd y tair lady yn llawn bywyd, ac wrth eu bodd yn cynorthwyo i dynnu cynllun sport yr wyau gorllyd; ac yr oeddynt oll ar y pryd yn disgwyl y cerbyd i’w cario at gymun sanctaidd corff a gwaed y Ceidwad wrth fwrdd allor yr Eglwys: ond aeth yr hen ŵr i’r capel drwy y mob, a’r poeredd, a’r llaid, a’r wyau, a heibio i gerbyd y Judge, a bu fyw a marw yn denant Cilhaul, ac yn gapelwr hefyd.  Yr wyf fi yn credu fod oes yr wyau gorllyd yn un llai creulawn tuag at anghydffurwyr nag ydyw yr oes wengar foneddigaidd athrodaidd hon, pan y mae dynion da, gonest, diwyd, dirodres, yn cael eu cyfrwyswthio o’u ffermydd o herwydd eu syniadau crefyddol.  Yr oedd y ceinioca gynt i brynnu wyau gorllyd yn beth llawn mor deg ag ydyw defnyddio arian treth i rannu torthau gwynion; ac yr wyf fi yn sicr ei fod yn dro llai bawaidd o’r hanner i luchio yr hen-hen-dad cu ag wyau nag ydyw yn awr i wthio ymaith ei orwyr o’r ffarm.  Yr wyf yn deisyf arnoch ddyfod i ryw gytundeb â’r Carefuls.  Y mae eu tadau wedi bod yn ffyddlon i ni, ac yn ymdrechgar ar yr estate am lawer oes.  Ni fynnwn er dim golli y fath hen deulu.  Er mwyn pob peth peidiwch a gadael iddynt fyned i America.”

Y newydd nesaf a glywodd teulu y Carefuls oedd fod y ffarm wedi ei gosod i Mr. Jacob Highmind; ac felly darfu iddynt barotoi yn ddiwyd, ond yn ddistaw, tuag at eu mordaith; a darfu i dros bymtheg ar hugain o grefftwyr a llafurwyr goreu y gymydogaeth ymfudo ymaith gyda hwy.

Ychydig ddyddiau cyn eu hymadawiad, galwodd Mr. Careful yn swyddfa y steward ar y Green; ond pan ydoedd yn sefyll wrth y drws, ac yn curo, gwelodd y steward ochr ei wyneb drwy gil y ffenestr, a chyflym ymguddiodd allan o’r swyddfa, gan roddi awgrym â’i fys ac â’i lygad i’r clercod i ddweyd wrth John Careful ei fod ef oddicartref.  Wrth glywed fod y steward oddicartref, gofynnodd John Careful i’r clercod a oedd Mrs. Steward gartref?  Atebodd y clerc uchaf ei bod, ond ei bod wedi cael yr influenza mor ddrwg fel nas medrai ddyfod o’i hystafell.

“Yr wyf yn meddwl eich bod yn camgymeryd,” ebe’r hen ffarmwr dan ledwenu, “oblegyd mi welais i ei gefn ef, ac mi welais ei hwyneb hithau y foment yma i lawr yn y breakfast-room.”

“Yn enw pob dyn,” ebe’r clerc, “ond os ydynt hwy yn y breakfast-room, dichon y daw ef i mewn yma bob yn dipyn: ellwch chwi aros nes y daw?”

“Nac allaf; nid oes genyf fi ddim busnes o ddim pwys âg ef yn awr.  Yr wyf fi wedi talu fy holl gyfrifon iddo, a’u talu oll yn eu diwrnod.  Nid oeddwn i ddim ond galw wrth y drws i roi fy nghompliments iddo with ymadael.  Gellwch chwi, os gwelwch yn dda, wneuthur hynny drosof fi; a dywedwch wrtho, os pery business y stewardiaid i fyned wysg ei dîn, ac ar i lawr, yn y wlad yma, fel y mae yn myned yn awr, y gwnaf fi fy ngoreu i gael gwaith neu ffarm iddo yn America.  Y mae business y stewardio wedi gweithio ei hun allan yn hollol mewn parthau helaeth o’r Iwerddon, ac mewn rhai conglau o Gymru a Lloegr hefyd; ac os bydd y steward, neu ei hen weddw, neu rai o’i blant, yn dymuno i mi a’m plant chwilio am ffarm dda iddynt yn y gorllewin pell, y gwnawn i unrhyw gymwynas felly iddynt ag fydd yn ein gallu.

Yr oedd y steward a’i wraig yn y passage yn clywed yr ymddiddan yma; a chydag i’r hen ffarmwr droi ei gefn o’r swyddfa, daeth y steward i mewn, a dywedodd gyda swn gofid ei bod yn ddrwg iawn ganddo na buasai yn gofyn i’r hen ddyn ddyfod i mewn i’r tŷ i gael gwydriad ffarwel.  “Oblegid,” meddai’r steward, “y mae John Careful mewn gwirionedd yn ffarmwr da, ac y mae ei blant yn rhai pur weithgar, a’r unig beth oedd yn eu gwneyd mor atgas yn ein tŷ ni, gyda Mrs. Steward, a’r plant yn enwedig, oedd eu bod mor ystyfnig, a braidd yn dafodog, os tybient eu bod yn cael eu gwasgu.”

Gydag i’r Carefuls gymeryd llong a hwylio ymaith, gwahoddodd Mrs. Steward y tenant newydd a’i wraig i ddyfod i’r Green i dê.  Yr amcan o hynny, mewn enw, oedd i’r steward a’i deulu gael cyfle i roddi cyfarwyddiadau i Mr. a Mrs. Highmind gyda golwg ar driniad dyfodol Cilhaul Uchaf; ond yr amcan mewn gwirionedd oedd i deulu y steward gael gwybod teimladau a syniadau a dywediadau y cymydogion gyda golwg ar wthiad ymaith y Carefuls o’u ffarm.  Adroddodd Mr. a Mrs. Highmind wrthynt bob peth oeddynt wedi glywed gan bawb; a threuliwyd dwy awr a hanner felly yn bur ddifyr i redeg dros holl helynt yr holl gymydogion.  Gwyddai Jacob Highmind yn bur dda am ragfarn teulu y steward yn erbyn rhyw bump neu chwech o’r cymydogion, a gwyddent hefyd yn eithaf da pa fodd i borthi y rhagfarn hwnnw; a buont yn bur llwyddianus i goginio i’r stewart a’i deulu wledd o athrod o’r fath a garent; a phan oeddynt ar gychwyn adref o’r Green, crybwyllodd y steward yn bur siriol wrthynt ei fod ef am ailwneyd aelwyd y parlwr a phapuro y muriau, a’i fod am seilio y lofft wely oreu, a helaethu ei ffenestr; a’i fod am wneuthur back-kitchen newydd iddynt, a symud y grisiau o ochr y kitchen i dalcen uchaf y back-kitchen; a’i fod am wneyd ffwrn a chodi boiler yn nhalcen isaf y back-kitchen; ac y mynnai fflagio y seler; ac y caent dŷ bach mawr y tuhwnt i’r twyn ffebrins pellaf yn yr ardd; ac y mynnai droi y pistyll o’r tu wyneb i’r tu cefn i’r tŷ, heibio i ddrws y back-kitchen; a’i fod heblaw hynny yn cynllunio amryw gyfleusderau eraill iddynt; ac ychwanegodd gyda wyneb pur siriol ei fod yn disgwyl y gwnaent yn dda yn Nghilhaul Uchaf.  “Oblegid,” meddai ef, “y mae yn ffarm bur helaeth; ac, a dweyd y gwir i chwi yn ddistaw, y mae y Carefuls wedi ei gadael yn y drefn oreu, ac yn y galon oreu.  Mewn un gair, yr oedd yn amhosibl iddynt ei gadael mewn cyflwr gwell.”

Ymadawodd Mr. a Mrs. Highmind o’r Green mewn ysbrydoedd pur uchel, a chydymroisant yn egnïol i ddechreu ffarmio; ond buont dipyn yn anlwcus yn newisiad eu gwasanaeth-ddynion.  Nid oedd y bugail ddim yn un rhy graff, na rhy gyflym, na rhy ofalus; ac nid rhyw law wastad iawn oedd gan yr aradrwr—byddai ei gwlltwr yn bur fynych ar wyneb y tir, wedi cael ei wthio allan gan garreg—neu ynte byddai yn glynu ac yn plygu ar y graig ddu ag oedd yn waelod i dros hanner tyddyn Cilhaul; ac yr oedd yn hoff iawn hefyd o wê hir y pum ceffyl, ac o’r hwshings, a’r martingals, a’r mwng ribanawg, a’r cynffonau plethedig.  Ac yr oedd y cow-man a’r laeth-forwyn yn bur hoff o fod gyda’u gilydd yn mhob man y gallent; a deallwyd bob yn dipyn ei bod hi yn colli gryn lawer o’r llaeth os digwyddai ef fod yn agos.  A’r hyn oedd yn waeth na’r cyfan, dechreuodd Mrs. Highmind gael ei blino yn fawr yn y boreuau gan anhwylderau y cylla: a chafodd anwyd trwm iawn un bore wrth hebrwng y buchod o’r fuches i’w porfa, drwy fod ei hesgidiau braidd yn deneuon, a’r gwlith heb godi, a dichon iddi gael ychydig o gnau yn y gwrych wrth ddyfod adref.  Beth hynnag, gorfu iddynt gyflogi nurse o gryn fedr ac o gryn brofiad, ac yr oedd galwad hefyd ar Mr. Highman i fod yn y tŷ y rhan fwyaf o’i amser ymhell cyn, ac ymhell wedi, gorweddiad i mewn Mrs. Highmind; a phan y daeth rhybudd am y diwrnod rhent, deallodd ei fod yn fyr o ddeg punt ar hugain, a galwodd yn union gyda’i hen ewythr Thomas ap Owen i ddweyd ei gŵyn wrtho—ei fod wedi myned i gryn draul yn y chwe mis diweddaf i ddodrefnu y tŷ a phethau eraill; fod y steward wedi adnewyddu a chrynhoi llawer iawn ar y tŷ, a’i fod yntau wedi prynnu soffa, a bwrdd mahogani, a chadeiriau mahogani, i’r parlwr, a drych mawr uwchben y tân; a’i fod hefyd wedi cael gwely mahogani, a dodrefn gwely i gyfateb i’r ystafell uwchben y parlwr; a’u bod wedi cael gwely newydd, a chist-ddillad fawr dda iawn, i’w hystafell ei hunain, a llawer o bethau newyddion eraill.  Gofynnodd ei hen ewythr iddo braidd yn sydyn a oedd efe wedi prynnu y pertiant torri gwellt, a’r peiriant chwalu clapiau, ag oedd ef wedi son am brynnu.  Atebodd yntau nad oedd—nad oedd yn wir ddim wedi gallu eu prynnu, fod treuliau meddygol a theuluaidd wedi chwyddo i fyny i fwy nag oedd efe wedi allu rag gyfrif; a’i fod o herwydd hynny wedi methu prynnu amryw bethau ag yr oedd eu mawr eisiau tuag at wasanaeth y ffarm.  Dywedodd ei hen ewythr wrtho y gallai roddi benthyg pum punt ar hugain iddo am bum mis, ond nad allai roddi dim ychwaneg iddo; ei fod ef yn fynych mewn prinder ei hun; ei fod yn gorfod rhoddi llog hynny o arian oedd ganddo wrth gefn i wneyd i fyny y rhent; a bod yn rhaid iddo gael y pum punt ar hugain yn ol cyn Gwyl Fair.  Yr oedd Mr. Highmind yn ddiolchgar iawn i’w hen ewythr am ei gymwynas, a sicrhaodd wrtho y gofalai am dalu yn ol mewn amser prydlawn.  Trwy gael benthyg fel hyn gan ei ewythr, casglodd ddigon rywfodd i dalu ei rent Gwyl Fihangel.  A thoc, toc, toc, bion fel breuddwyd, dyma ddydd rhent Gwyl Fair yn dyfod ar ei warthaf, ac yr oedd Mr. Jacob Highmind druan yn gwbl amharod i dalu yn ol i’w ewythr, nac i dalu i’w arglwydd tir nac i’r gweision.  Yr oedd wedi talu ei dreth tlodion, a’r degwm, a’r dreth Eglwys, a threth y gig a’r cwn, a dyna y cyfan; ac felly aeth eilwaith at ei hen ewythr, ac eglurodd ei amgylchiad iddo, ac erfyniodd arno fyned gydag ef i’r banc i fod yn feichiau yno drosto am bedwar ugain punt.  Yr oedd yn bur anhawdd gan yr hen ewythr fyned gydag ef i’r banc, ond aeth o’i led anfodd; oblegid yr oedd yn gweled mai dyna oedd yr unig ffordd iddo gael ei bum punt ar hugain yn ol y pryd hynny.  Pan oeddynt ill dau yn y banc, rhoddodd Highmind rywfodd na’i gilydd awgrym distaw i’r bancer i dynnu y draft am gant a deg, yn lle am bedwar ugain; a chyn pen yr hanner blwyddyn, yr oedd tymhor rhediad y drafft hwnnw ar ben, a’r trydydd dydd rhent wrth y drws; a gorfu Highmind druan werthu y pigion o’i stoc er ad-dalu y drafft hwnnw a’i logau yn y banc, ac er cyfarfod talion eraill yr hanner blwyddyn hynny.  Daethstori y banc, a gwerthiad anamserol colledfawr cymaint o stoc Cilhaul, bob yn dipyn i glustiau y steward, a bu geiriau go uchel a go gâs rhyngddo ef a Highmind; a than ddylanwad gofid a gwenwyn yn wyneb ei golledion, ac wrth gael ei drin, cynhyrfodd a sorrodd Highmind gymaint fel ag y dywedodd nad allai byth byth dalu am y ffarm yn ol y prisiau a’r talion presennol, a’i fod wedi hollol wneuthur i fyny ei feddwl i fyned o Gilhaul gynted byth ag y medrai; a’i bod yn ddrwg iawn ganddo fod y diwrnod iddo roddi notice am y flwyddyn honno wedi myned heibio: ei fod yn gallu rhagweled yn ddigon amlwg y byddai yn sicr o golli y £300 goreu o’i £600 cyn y medrai gael Cilhaul oddiar ei ddwylaw.  A bu yn ol ei rag-gyfrif.  Wrth arwerthu y stoc a’r offer ar derfyn y tair blynedd, cafodd ei fod wedi colli ymhell dros dri chant o bunnau.

Deallwyd erbyn hyn mai cryn orchwyl i denant newydd—i’r mwyaf lwcus a llafurus—fyddai gwneyd y gofynion o Gilhaul; a thaenwyd y farn am hynny ar ol dydd ocsiwn Highmind ymhell ac agos.  Gwyddai pawb nad oedd triniaethau tair blynedd Highmind wedi gwneuthur dim lles i’r ffarm; a bu ei henw, a “to be let,” ar ei ol, am wythnosau lawer mewn llythyrenau mawrion yn y newyddiaduron, ac uwch y tân yn yr offices, a’r news-rooms a’r tap-rooms, ac ar byst y tollbyrth, ac ar dalcen y farchnadfa, a holl furiau y dref.  “CILHAUL AR OSOD” oedd o flaen y llygaid pa le bynnag yr elid.  Daeth pump neu chwech o ddynion dyeithr o bell i’w golwg, ond trodd pob un o honynt adref heb wneuthur unrhyw gynhygiad.  O’r diwedd galwodd y steward y baili ato, a dywedodd,

“Yr wyf yn ofni y rhaid i ni sefyll at Cilhaul am y flwyddyn yma; a rhaid i ni ymroi i ffarmio gystal ag y medrwn ni.  Ni geisiwn borfau mwy o honi, ac aredig llai o honi, nag oedd Jacob Highmind yn wneyd.  Rhai pur dibrofiad a diofal oedd Jacob a’i wraig.  Mi ofynnaf fi i’m cyfaill craffus W. Wilful, Yswain, o Severn-mead, am fyned i lawr gyda chwi i ffair Midland i brynnu Herefords a Southdowns i ni; ac yr wyf yn bur hyderus y gwnawn yn dda iawn o’r ffarm.”

Tua diwedd yr haf gofynnodd y steward i’r baili pa fodd yi oedd yr Herefords a’r Southdowns yn troi allan.

“Drwg iawn yn wir, syr; y mae y rhosydd a’r gweunydd yn rhy wlybion ac yn rhy frwynog iddynt, ac y mae y moelydd yn rhy oerion iddynt: dichon fod y tymor wedi bod yn fwy anfanteisiol nag arferol; ond beth bynnag am hynny, y maent yn edrych lawer gwaeth nag oeddynt pan ddaethant yma, ac y mae y prisiau yn awr yn bur isel; nid allwn ni ddim cael cymaint am danynt ag ydym ni wedi roddi, er eu bod wedi cael holl borfa llaeth ac ymenyn y ffarm i gyd.”

“Beth, baili, wyt ti yn dweyd nad allwn ni gael dim cymaint am danynt ag a roisom?”

“Ydwyf, syr, yr wyf yn ofni hynny.”

“Wel, beth gawn i wneyd, baili?  Y mae hyn yn beth braidd profoclyd.  O dangio y free-traders yna

“Y mae yn rhy ddiweddar i chwi eu dangio hwy yn awr, o leiaf am eleni.  Nid oes gennym ni ddim arian mewn gafael tuag at y talion nesaf.”

“Wel, gwell i ni adael cyfrifon yr hanner blwyddyn yma heb eu talu, a chwilio am y cyfle goreu fedrir gael o hyn i ddiwedd y flwyddyn i werthu y cyfan gyda’u gilydd, a chawn weled y pryd hynny pa fodd y bydd y cyfrifon yn sefyll.”

Ar ddiwedd y flwyddyn dygodd y baili ei gyfrifon at y steward yn ol y gorchymyn.

“Wel, baili,” meddai’r steward “ydyw’r tenantiaid yn dal i gwyno?”

“Ydynt yn wir, syr; ac y maent yn edrych yn bur ddigalon.”

“A fedri di ddweyd i mi pa rai o honynt sy’n cwyno fwyaf yn erbyn y prisiad a’r codiad diweddaf, a phrisiad y degwm; oblegid, yn wir, rhaid i mi wneyd rhyw sylw bellach o’r rhai sy’n tuchan o hyd.  O ïe, ydyw cyfrifon Cilhaul genyt ti?”

“Ydynt, syr.”

“Wyt ti wedi gwneyd y balance i fyny i ni gael gweled pa fodd y maent yn sefyll.”

“Nac ydwyf, syr, ond gallaf wneyd mewn munud.”

“Aros, gad i mi gael gweled y prif bennau.  O, dyma ddalen ein dyledion—gad weled beth ydynt?—1.  Degwm.  2.  Trethoedd.  3 Cyflogau. 4.  Casglu y cynhaeaf.  5.  Calch.  6.  Tanwydd. 7.  Gof.  8.  Seiri.  9.  Porfa gaeaf.  Aros di, pa le y mae’r hyn a dalasom am aredig a hau a llyfnu yn y gwanwyn?  Nid yw y talion hynny ddim yma.”

“Nac ydynt, syr; darfu i ni, os ydych yn cofio, alw ar y tenantiaid cymydogaethol i aredig a hau a llyfnu i ni; a gwnaethant bob un ei ran yn bur rwydd i chwi, a hynny am ddim.

“Gwir iawn, baili—gwir iawn yr wyf yn cofio hynny yn awr, ac y mae hynny erbyn heddyw yn gryn lwc i ni; ac eto mi welaf fod y balance yma yn ein herbyn.”

“Ydyw, syr, y mae.”

“Beth, oes genyt ti ddim arian mewn llaw tuagat rent y flwyddyn?”

“Nac oes yn wir, syr, ac y mae y dreth dlodion, a rhai gofynion eraill, heb eu talu.”

“Dam it—rhaid fod rhyw dalion uchel cywilyddus yn dy gyfrif di.”

“Nac oes yn wir, syr: cefais wneuthur pob peth i chwi am y prisiau isaf; ond darfu i ni golli cryn dipyn o arian ar rai o’r ychen mwyaf, a rhai o’r defaid mawrion mwyaf: nid oeddynt ddim yn gweddu yma, ac y mae wedi bod yn dymor anfanteisiol o ran y tywydd a’r prisiau.”

“Wel, cawr gwyllt a’n cato ni, oes gennyt ti ddim tuag at y rhent?”

“Nac oes yn wir, syr.”

“Wel, yn enw pob rheswm, pa fodd y mae yn bod felly?”

Wel, syr, y mae’r ffarmwyr yn methu talu cyflogau, ac y mae llaweroedd o lafurwyr tlodion o ganlyniad allan o waith; ac y mae y trethoedd o herwydd hynny yn myned yn bur uchel, a’r tir ar yr un pryd yn gwaelu.  Ac yn wìr, y mae degwm Cilhaul yn bur uchel—yn ymyl pymtheg punt.”

“Beth! ydyw degwm Cilhaul yn bymtheg punt?”

“Ydyw, syr, o fewn ychydig sylltau.”

“O dangio y personiaid a’u Heglwys; y maent hwy yn gallu dyfeisio i ennill ac i elwa drwy bob prisiad, a than bob trefn.”

“Atolwg, syr, peidiwch a dangio y personiaid fel yna, er eich mwyn eich hun, ac er mwyn eich ceraint sy’ mewn urddau eglwysig hefyd.  Ydych chwi yn cofio fel y darfu i chwi fwgwth troi Jonathan Noncony druan o’i ffarm am iddo ddigwydd dweyd dan ryw hanner cellwair yr hyn a ddywedasoch chwi yn awr—nad oedd y person byth yn colli dim drwy unrhyw gyfnewidiad.”

“Ydwyf, baili, yr wyf yn cofio fel y darfu i mi drin Jonathan, ac fel y darfu i mi yrru Jonathan a’r warden benben, fel y cawn i achlysur oddiwrth hynny i achwyn ar Jonathan wrth ei feistr tir:—ond dangio Jonathan a’r warden a’r person; ni wiw i ni syrthio allan a myned i gynhennu.  Ein pwnc ni yn awr yw, beth gawn i wneyd o Gilhaul?  Oes dim modd i ni gael neb i’w chymeryd oddiar ein llaw?”

“Nac oes yn wir, syr, am y rhent ac yn ol y prisiau presennol; o leiaf, yr wyf yn ofni hynny.  Y mae yn Hafod Hwntw, mhell bell tudraw i fynyddoedd Plumlimon, deulu mawr pur ddigrif.  Y mae ganddynt lawer iawn iawn o ddefaid, ac o ddyniewyd ac o geffylau bach y mynydd; ac y mae rhyw air fod eu deadelloedd yn lluosogi weithiau mewn modd braidd dirgelaidd a gwyrthiol.  Y mae yno ryw ddwsin o blant tewion, geirwon, pengrychion, llygadfawr; ac nid ydynt hwy na’r hen bobl byth yn myned i na llan na chapel; ond y maent yn rhyw ffordd, trwy eu bugeiliaeth rhyfeddol, wedi sparin llawer iawn o arian.  A dywedir fod rhai o’r merched am ddyfod i fyw dipyn yn îs i lawr er mwyn cael gweled tipyn mwy o’r byd; a’u bod ar brydiau yn bur daer am i’w tad chwilio am ffarm yn rhywle yn îs i lawr.”

“Ond, wyt yn sicr, baili, fod yno arian?  Dylai fod sicrwydd am hynny, oblegid dyna ein pwnc ni.”

“O oes, syr, y mae yno ddigon o arian.  Ni raid dim ofni am hyny.  Y mae ganddynt, heblaw y stoc fawr drom sydd yno, ddwy fil a hanner yn mortgage ar dyddyn Gwaun y Bwlch; a dywedir fod ganddynt fil a haner o hen guineas mewn darn o hen bridden yn y ddaear dan y fflagsen wrth draed gwely yr hen bobl yn y siamber bellaf.”

“Djail innau i, yr hen bridden honno fyddai y peth i ni yn awr, baili.  Pe medrem ni unwaith gael teulu Hafod Hwntw i Gilhaul Uchaf, ni byddem ni ddim yn hir cyn cael adgyfodiad disglaer i’r hen guineas o’u bedd tywyll.  Mynnem ni rai ohonynt yn bur doc i gael fresh air yngoleu’r dydd, yn lle bod yn llwydo ac yn magu y gout yn yr hen bridden.”

“Ond, syr, pe baent hwy yn dyfod i fyw yn agos yma, byddai plant y pentref yn sicr o redeg ar ol yr hen ddyn ar ddiwrnod rhent, ac ar bob diwrnod arall, i lygadu arno, ac i estyn bysedd ar ei ol.  Y mae ganddo wasgod gron gwta gwta o wlan du y ddafad, a honno yn glytiau o bob lliw a llun; ac y mae dwy led llaw rhwng gwaelod honno a thop ei glos lledr, oblegid nid oes ganddo byth ddim straps i ddal ei glos i fyny.  Wrth ei weled unwaith yn didol y defaid wrth y gorlan, yr oeddwn yn disgwyl bob munud gweled ei hen glos yn llithro i lawr dros ei grwper.  Y mae ganddo fyclau pres mawrion wrth ben ei luniau, ac ar gefnau ei esgidiau.  Nid oes ganddo ddim byd am ei wddf.  Un od iawn ydyw o, ac y mae ei wraig yn odiach nag yntau; ac yn wir, y mae bechgyn a merched Hafod Hwntw yn bur debyg i’w tad a’u mam.”

“Pw, pw, baili, paid a phoeni dim ynghylch eu gwedd a’u gwisg a’u hymddangosiad.  Pe caem ni unwaith olwg ar bridden yr hen guineas, dyna’r peth i ni.  Yr oedd amryw briddenod o hen guineas yn y gymdogaeth yma ddeugain mlynedd yn ol, ond yr ydym ni wedi eu hadgyfodi oll o’u beddau.  Da di, dyfeisia ryw ffordd i gael hen ŵr Hafod Hwntw i olwg Gilhaul.  Gelli gychwyn ddiwrnod yn gynt wrth fyned i ffair Rhos.  Galw heibio i Hafod Hwntw wrth fyned.  Bydd yr hen ŵr yn sicr o fyned i’r ffair.  Ceisia ganddo ddyfod i’r golwg wrth ddychwelyd adref; a throwch i orphwyso i’r Cross Keys, a dyro iddo iugaid cynnes o gwrw wedi ei speisio yn bur neis cyn ei gymeryd i edrych y ffarm.  Gelli ddangos iddo fod yr adeiladau oll yn bur gryno ac yn bur gyfleus, a bod y mynydd defaid yn bur helaeth.  Ni bydd dim eisiau crybwyll wrtho y nifer o ddefaid sydd gennym ni yno yn awr, na dim am fethiant ein cynnyg am y Southdowns.  Cymer et ar draws y ddwy weirglodd, a’r ddôl wenith y tuhwnt iddynt.  Ni byddai waeth heb ei gymeryd dros Rhos y Waun; ond gellil grybwyll wrtho fod y ffriddoedd oll yn rhai sychion a gwelltog, a da ragorol i wartheg hespion a merlod.  Astudia ryw gynllun i gael yr hen ŵr drosodd i olwg y ffarm.”

Galwodd y baili heibio i Hafod Hwntw fel yr addysgwyd ef: a thrwy lawer o gymell ac o daerni a son gryn dipyn am degwch haelfrydig Lord Protection, a gwerth ffafraeth teulu y Green, a chroesawder y gymdogaeth, ac eangder y ffarm; a thrwy i rai o ferched Hafod Hwntw gefnogi ei a raeth, llwyddodd y baili i gael gan yr hen ŵr ddyfod gydag ef heibio i Gilhaul wrth ddychwelyd adref o’r ffair.  Ond erbyn eu dyfod at y Cross Keys nid oedd ar yr hen ŵr eisiau na bwyd na diod.  Nid oedd ond newydd orffen bwyta y bara a’r cig oedd ganddo yn ei boced, ac yr oedd newydd drachtio yn o ddwfn o ffynnon y Graigwen wrth ddyfod heibio.  Rhoddodd gwart o flawd ceirch a dwfr i’w ferlyn, a gyrrodd i fynu ar unwaith tua Chilhaul; a thaflodd ei olwg o’i amgylch ryw ddwywaith wrth yrru i fynu tua’r tŷ, ac aeth yn bur syth drwy y buarth, ac i fyny tua’r ffriddoedd, a gofynnodd ryw ddau neu dri o gwestiynau i’r baili yn nghylch y rhent a’r trethoedd, a’r tenant diweddaf a’r un a fuasai yno o’i flaen.  Dywedodd  y baili y cai yr holl hanes i gyd gan deulu y steward, ac erfyniodd yn daer iawn arno alw yn y Green.

“Na,” meddai’r hen ddyn, “byddai yn beth hollol ddiles i mi fyned cyn belled a’r Green.  Yr wyf yn gwybod yn barod gymaint ag sydd arnaf eisieu wybod am hanes ac am ragorion Cilhaul.  Y mae yn ddrwg genyf i mi deithio cyn belled o’m ffordd wrth ddyfod adref o’r ffair.  Yr wyf am frysio yn awr heb golli dim amser pellach i mi gael cyrraedd adref cyn nos.”

Dywedodd y baili wrtho y byddai yn hollol anmhosibl iddo gyrraedd adref erbyn nos; a thaer erfyniodd arno drachefn a thrachefn i alw yn y Green i gael ychydig luniaeth a feed i’w ferlyn; a lletya y noson honno yn y Green neu yn Nhgilhaul; ac y cai gychwyn adref gyda’r wawr bore drannoeth.

“Na thanci,” meddai’r hen ŵr, “mi âf fi adref yn burion heno.  Gallaf gyrraedd adref dros y mynyddau yn lled agos erbyn nos.  Bydd tipyn o leuad yn y dechreunos.  Yr wyf fi mor gyfarwydd â llwybrau y mynyddoedd ag ydwyf â ffyrdd y gwaelodion.  Y mae aderyn yn y llaw yn Hafod Hwntw yn werth dau yn y llwyn yn Nghilhaul.”  Ac ar hynny, trodd yr hen ŵr ben ei ferlyn broc caled tua’i gartref, a gyrrodd yn bur fywiog dros y ffriddoedd, ac ni welodd y baili mo’i wyneb caled sych garw byth mwyach.

Ymboenodd y steward a’i deulu lawer am i’r hen ŵr ddychwelyd felly heb iddynt gael ei weled; a danghosent eu nwydau drwg tuag at bawb o’u deutu mewn edrychiad, gair, a gweithred.  Yr oedd colli pob gobaith am bridden yr hen guineas, ar ol unwaith glywed cymaint am dani, yn eu gwneyd yn beevish ofnadwy, ac yr oeddynt dros bob mesur o wenwynllyd wrth y baili.  Aethant o’r diwedd mor gas wrtho nes y gwylltiodd yntau i’w natur ddrwg, a dyna fe â’i galon yn berwi, a’i wefusau mawrion yn crynnu, yn torri allan i ddweyd yn wyneb y steward a’i deulu,—

“Ni safaf fi mo hyn ddim yn hwy.  Yr wyf fi wedi gwneyd fy ngoreu i chwi bob amser, a gwyddoch chwithau hynny yn bur dda.  Y mae Cilhaul wedi costio i mi lawer iawn o ludded ac o ofid.  Nid fy nghynllun i oedd cyrchu yr Herefords a’r Southdowns yma.  Cyflawnais eich eirchion yn mhob dim yn y dull llawnaf a manylaf.  Aethum yr holl ffordd i Hafod Hwntw fel yr oeddych wedi ceisio gennyf.  Collais fy ffordd yn y niwl, a bu agos iawn i mi golli fy mywyd ar y mynydd wrth groesi Rhyd du Cors Rheidol.  Yr oedd llif y nant yn bur wyllt, ac yn bur ddwfn, ar ol y gwlawogydd.  Llwyddais i gael yr hen ddyn i lawr yn ol eich dymuniad.  Gwyddech yn burion yr amser yr oeddym i fod wrth y Cross Keys, a buasai yn hawdd iawn i chwi neu un o’ch meibion fod yno, neu wrth Gilhaul, i gyfarfod yr hen ŵr.  Buasai yn rhyw foddhad i chwi eich bod wedi cael ei weled, er na buasai hynny o ddim lles yn y byd.  Yr oedd yn ddigon eglur o’r foment gyntaf y daeth yr hen ŵr i olwg Cilhaul na wnai ymdroi dim yn ei gylch, ond y dychwelai yn unionsyth ar draws y bryniau cyn gynted ag y medrai tua’i hen Hafod Hwntw.  Y mae yr hen ŵr, er ei fod yn gwisgo gwasgod gron, a byclau dyddiau Bess, yn bur graff a hirben, ac yr wyf yn gwbl sicr na buasai dau ddwsin o stewardiaid byth yn ei droi hanner chwarter modfedd o’i lwybr; a byddai yn hollol wallgofrwydd i ddisgwyl i un dyn yn ei bwyll, os bydd ganddo hanner gronyn o’r synwyr mwyaf cyffredin, gymeryd Cilhaul dan ei beichiau presennol.”

“Wel, beth wnawn ni?” meddai’r steward, dan ollwng hir ochenaid allan o waelod ei galon.  “Yr ydym ni wedi gwneyd cam trwm cas brwnt iawn â’r Carefuls.  Yr wyf yn clywed eu bod hwy yn awr wedi prynnu section hyfryd o dir bras ffrwythlawn ar lan y Missouri.”

“Ydynt, syr, y maent yn gwneyd yn rhagorol yno.  Y mae ganddynt ffarm fawr ardderchog heb ddim beichiau i’w llwytho.  Y maent yn cael yno y cnydau mwyaf godidog, heb brynnu na guano na dim arall, ac y maent yn awr ar brynnu y sections cysylltiedig â hi.  Y maent i’w cael, a theitl y llywodraeth iddynt, am lai na chwe swllt y cyfair; ac y mae un o railffyrdd mawrion y gorllewin yn rhedeg yn awr drwy gwrr isaf eu tiroedd.’

Yr wyf yn ofni felly nad oes dim gobaith i ni eu cael hwy byth yn ol, ac y bydd Cilhaul ar ein llaw am flwyddyn eto.”

“Bydd, syr, bydd Cilhaul ar eich llaw hyd ddydd brawd, os na wnewch chwi gynnyg rhyw gyfnewidiad.”

“Pa fodd y gallaf fi gynnyg unrhyw gyfnewidiad yn awr ar ol i ni ymddwyn fel y gwnaethom tuag at y Carefuls?  Pa fodd byth y wynebaf yr Audit nesaf?  Pa fodd y meiddiaf ddangos fy wyneb i’m lord?  Pa beth a wnaf, neu a ddywedaf, nis gwn yn y byd.  Yn boeth ulw y bo yr hen Gilhaul yna.  Pe medrid ei gwthio i rywle o’r golwg, byddai yn drugaredd i mi.  Gwynfyd pe ceid rhyw wrach i’w rheibio.”

“Yr ydych chwi wedi gwneyd hynny yn barod,” ebe y baili.  “Byddai yn eithaf peth i chwi gyflogi llong fawr fawr i’w chludo draw ymhell i’r gorllewin dros y tonnau ar ol y Carefuls.  Dichon y gwnaent hwy rywbeth o honi.  Neu pe digwyddai i’r llong a hithau suddo ar fanciau tywod Newfoundland, byddai hynny yn well fyth.  Yr wyf yn gwybod y byddai yn llawer gwell i chwi ac i’r meistr tir ei hanfon felly dros y môr nag i chwi ei chadw ymlaen ar eich llaw i’w thrin.  Costiai ei phacio i fyny dipyn o drafferth i chwi, a byddai ei mudiad ymaith yn dipyn bach o golled i’r Frenhines ac i’r Eglwys, i’r person ac i’r cardotyn; ond byddai yn fendith fawr i chwi, os nad ellwch ei gosod.”

“O dangio di, baili, y rascal dwbl pan; paid di a cracio dy jokes creulawn fel yna i’m diraddio i.”

“Wel, syr, mi beidiaf fi yn rhwydd iawn; ond yr ydych chwi a’ch teulu yn ddiweddar wedi cracio pethau bryntach na jokes yn fy erbyn i, ac ni chymeraf fi ddim yn chwaneg o’r pethau hynny oddiwrth neb o honoch.  Y mae yn gwaedu fy nghalon y funud yma i gofio am y triniaethau creulawn a gwarthus a gafodd y Carefuls pan dan eich stewardiaeth chwi.  Yr wyf fi wedi gwneyd i fyny fy meddwl i fyned ar eu hol i America y gwanwyn nesaf.  Y mae yn ofid mawr gennyf yn awr na buaswn wedi myned gyda hwy.  Cymydogion teg, caredig, a boneddigaidd oeddynt.  Os oeddynt yn cwyno weithiau yn erbyn gorthrymder, cawsant ddigon o achos i gwyno; ac heblaw bod yn foddlon i bawb gael eu hawliau gwladol a chrefyddol, yr oeddynt yn bur barod eu cymwynasau a’u helusenau.  Yr wyf yn benderfynol i fyned ar eu hol yn ddioed.  Y mae lle ardderchog yn America i failïaid ffermydd ymdrechgar a medrus.  Gellwch chwilio am baili newydd yn fy lle pan y mynnoch; ac yr wyf yn gobeithio y caiff hwnnw fwy o gysur, a gwell lwc, yn Nghilhaul nag a gefais i.”

Dyna ychydig o hanes helyntion diweddar Cilhaul Uchaf.  Ni cheisiaf ar hyn o bryd mo’u holrhain ddim pellach.  Yr oedd helbul a gofidiau y steward wrth fethu gosod Cilhaul, a rhai ffermydd eraill a ddaethant ar ei law, yn ei boeni ddydd a nos.  Yr oedd yr adgofion o’i ymddygiad at rai o’r tenantiaid ffyddlonaf i’w meistr a welwyd erioed yn llosgi ddyfnach ddyfnach yn ei fynwes.  Yr oedd ei ddanodion ef a’i deulu i’w gilydd o’u barbareidddra dirmygus tuag at y Carefuls yn ennyn yn bur fynych fwy na llonaid y tŷ o fflamau annedwyddwch a chynnen.  Yr oedd croes-esboniadau y steward wrth ei lord yn ddamniol i’w gymeriad fel goruchwyliwr.  Glŷn yr anfri wrth ei enw tra bydd byw, a glŷn wrth ei goffadwriaeth am oesoedd ar ol iddo farw.  Byddai darlunio y cynhennau fu yn ei deulu, a danodion ei gydoruchwylwyr, a’r modd y bu rhyngddo â’i arglwydd, a’r sport fyddai rhai o’i hen gyfeillion yn wneyd o hono o gylch bar y Cross Keys, yn bethau rhy anhawdd i mi eu llawn ddarlunio.  Y mae y rhan fwyaf o’r pethau hynny wedi cael eu cadw yn secrets.  Gellir dychmygu, a dychmygu yn bur gywir, ond nid doeth adrodd dim heb fod sail eglur a diamheuol iddo.

Yr wyf yn clywed fod fy nghefnder awenyddol Twm Edward o’r Nant wedi rhoddi ei ffarm i fyny, a’i fod a’i fryd ar ymfudo i ryw Canterbury Settlement yn ynysoedd y de; a’i fod wedi parotoi hanesion manylaidd am stewardiaeth y Green, a thenantiaeth y cwr uchaf o estate Lord Protection, i’w cyhoeddi yn llyfr go fawr cyn iddo ymadael o’r wlad.  Y mae Twm wedi cael y cyfleusderau mwyaf manteisiol i sylwi a deall fel y mae pethau wedi myned yn mlaen er’s llawer blwyddyn yn y Green, ac yn yr Hall, ac ar hyd yr holl estate; ac yr wyf yn sicr y bydd hanesion ac adroddiadau Twm yn rhai cryfion ac addysgiadol, yn enwedig ei adroddiadau o gyfrwys ddichellion y steward a’i deulu i lunio a derbyn a thraethu clep ac athrod, ac i chwythu cynnen rhwng cymydogion, er mwyn i’r steward drwy hynny gael achlysur i feirniadu yn yr Hall, yn nghlyw y lord a’i gymdeithion, ar dymherau y tenantiaid, a chael achlysur hefyd i ddifrïo a gwthio ymaith y tenant ymdrechgar fydd yn rhy onest i werthu ei gydwybod am bris dirmygol tylwyth y steward.  Bydd llyfr Twm o hanes teulu y steward yn werth ei gael, a gwnaiff les.

Yr wyf finnau yn bwriadu, pan gaf hamdden i grynhoi at eu gilydd, gyda thipyn o ofal a manylder, fy adgofion o hanes Nant y Dderwen, a’r Clawdd Melyn, a’r Caeau Llwydion, a’r Ffos Fach, a’r Bryn Tew, a Than yr Wtra, a’r Berth Lwyd, a’r Gro Arw, a Glyn Carfan, a’r Coed Crin, a Llwyn y Pryfaid, a Maes y Brwyn, a’r Gelli Lwyd, a Bryndu, a’r Bryniau Mawr, a Thal y Bont, a’r Tŷ Uchel, a Garth y Drain, a Math y Dafarn; ac amryw o ffermydd eraill oddeutu y gymydogaeth.  Yn y rhan fwyaf o’r mannau a nodwyd, cyflawnwyd anghyfiawnderau o’r fath greulonaf tuag at hen denantiaid o’r cymeriad mwyaf ymdrechgar a ffyddlon; a dangoswyd at rai o honynt, yn enwedig tuag at weddwon a phlant amddifaid, fath o flagardiaeth ag y buasai yn gywilydd gan grach-stewardiaid Novogorod feddwl am ei gyflawni.

Yr wyf fi yn gwresog garu hen wlad fy ngenedigaeth, a gwn fod y rhan fwyaf o’m cymydogion yn hoff iawn fel finnau o’u gwlad, er tloted ydyw, a’u bod wedi gwneuthur ymdrechion anghredadwy i geisio byw ynddi: ond pan feddyliwyf am yr addewidion anogaethol o dâl sicr am eu llafur i amaethwyr a llafurwyr diwyd a gofalus sy’n cael eu dal allan iddynt gan ddyffrynoedd llydain breision cyfoethog taleithiau gorllewin America, a holl wastadedd y ddwy Canada, a phorfeydd gwelltog anherfynol Australasia, a gwastad-diroedd iachus rhai o wledydd hyfryd Asia Leiaf a gororau Affrica, a deniadau y Canterbury Settlements, a’r Sydney Herbert Settlements, a hyd yn nod rai o dywysogaethau yr Ynys Werdd yn ein hymyl;—pan feddyliwyf, meddaf, am y deniadau a’r gwahoddiadau taerion cryfion ac anogaethol sy’n cyrraedd y ffarmwyr a’r gweithwyr o’r holl fannau hyn; a phan gofiwyf am luosogiad cyflym y cyfleusderau i deithio ar bob llaw, ac am y niferoedd sydd wedi ymfudo yn barod o’n gwlad fach dlawd lethedig; a phan feddyliwyf am y dull barbaraidd yr ydys yn baeddu, ac yn beichio, ac yn athrodi, ac yn hustyngio, ac yn diraddio, ac yn mathru dan draed y ffarmwyr mwyaf diwyd ac ymdrechgar a welodd ein hen gymoedd erioed,—yr wyf yn ofni yn wir yr ymfuda pob rhinwedd a diwydrwydd ymaith ym mhell oddiyma, a hynny yn bur fuan, os na bydd i arglwyddi tiroedd a’u crach-stewardiaid, ynghyda’u ceraint eglwysig, ymddwyn yn decach ac yn foneddigeiddiach tuag at denantiaid cydwybodol a llafurus

BYWYDAU DISTADL.

DONAWR 18, 1850.  MARY WILLIAMS, Garsiwn.  Bu yn dra diwyd yn holl gynhulliadau yr eglwys drwy hir dymor ei haelodaeth; ac yr oedd yn hyfryd sylwi ar ei llygaid llawn pan y byddai yn gwrando “yr ymadrodd am y groes.”  Un o dlodion y tir ydoedd; ac wrth ei gweled weithiau yn y tes, ac weithiau yn y tywydd, yn cerdded o amgylch i geisio elusen, bu yn alar gennym lawer tro na buasai hyfforddiad boreuol wedi ei roddi i un o lygad mor graff i drin gardd lysiau gryno wrth ymyl ei bwthyn.  Buasai yn hyfryd ei gweled yn gwrteithio, ac yn chwynnu, ac yn priddo ei gryniau; ac yn cynhaeafu camamil, chwerwlys lwyd, troed y dryw, cwmffre, dant y llew, cribau Sant Ffraid, y gemi goch, a llysiau rhinweddol eraill.  Buasai rhyw wasanaeth bychan felly, nid yn unig yn elw i gymdeithas, ond yn ddifyrrwch i’w mheddwl, ac yn gymorth i’w myfyrdod a’i gweddi, drwy ei chadw o gymaedd lludded a phrofedigaethau rhodianna aflesol.  Y mae llawer-oedd wedi treulio rhan fawr o’u dyddiau i gerdded o dŷ i dŷ, pan y gallasent, ond rhoddi eu dyfais ar waith, gael rhyw oruchwylion difyrrus a buddiol i’w cyflawni gartref.  Y mae rhy fach yn cael ei wneyd gan flaenoriaid cymydogaethau i hyfforddi a gwobrwyo diwydrwydd ac ymdrech mewn pethau bychain.

Chwefror 1, 1850.  THOMAS EVANS, Aber.  Un isel “hawdd ei drin” ydoedd; distaw yn y teuluoedd lle y gweinyddai; o ymadrodd byrr sylweddol yn y gymdeithas grefyddol; ac o nerth taerineb anarferol mewn gweddi.