Index: Songs

Anghrediniaeth, gad fi'n llonydd

Author: Dafydd Wiliam, Llandeilo Fach, 1720-1794

Contributed by: David Wood

Brynygogarth

Anghrediniaeth, gad fi'n llonydd,
Onid e mi godaf lef
O'r dyfnderoedd, lle'r wy'n gorwedd,
Fry yn lān i ganol nef.
Brawd sydd yno'n eiriol drosof,
Nid wyf angof nos na dydd;
Brawd a dyr fy holl gadwynau,
Brawd a ddaw ā'r caeth yn rhydd.

'Chydig ffydd, ble'r wyt ti'n llechu?
Cymer galon, gwna dy ran.
Obaith egwan, ble'r wyt tithau?
Tyn dy gleddau gyda'r gwan.
Anghrediniaeth, cilia o'r llwybr,
Phery'r frwydyr ddim yn hir;
Er mai eiddil yw fy enw,
Eto i gyd 'rwy'n ennill tir.