Index: Songs

Anodd Ymadael

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Wood

Mewn bwthyn diaddurn yn ymyl y nant
Eisteddai gwraig weddw yng nghanol ei phlant;
Ar ieuaf ofynnodd wrth weld ei thristad
“Mae’r nos wedi dyfod ond ble mae fy nhad?”

Fe redodd un arall gwyneblon a thlws,
I’w ddisgwyl ef adref ar garreg y drws;
Fe welodd yr hwyrddydd yn cuddio y wlad
A thorrodd ei galon wrth ddisgwyl ei dad.

Y se+r a gyfodent mor hardd ag erioed,
A gwenai y lleuad drwy ganol y coed;
A’r fam a ddywedodd, ‘Mae’th dad yn y nef
Ffordd acw, fy mhlentyn – ffordd acw mae ef.’

Mewn bwthyn diaddurn yn ymyl y nant,
Ymddiried i’r Nefoedd mae’r weddw a’i phlant;
Ni fedd yr holl gread un plentyn a wad
Fod byd anweledig, os collodd ei dad.