Index: Songs

Ar hyd y Nos

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Wood

Holl amrantau'r se+r ddywedant,
Ar hyd y nos:
"Dyma'r ffordd i fro gogoniant,"
Ar hyd y nos.
Golau arall yw tywyllwch
I arddangos gwir brydferthwch.
Teulu'r nefoedd mewn tawelwch,
Ar hyd y nos.

O! mor siriol gwena seren,
Ar hyd y nos.
I oleuo'i chwaer-ddaearen,
Ar hyd y nos.
Nos yw henaint pan ddaw cystudd,
Ond i harddu dyn a'i hwyrddydd;
Rhown ein golau gwan i'n gilydd,
Ar hyd y nos.