Index: Songs

Ar Lan y Mo+r

Author: Unknown

Contributed by: David Wood


Ar lan y mo+r mae rhosys cochion;
Ar lan y mo+r mae lilis gwynion;
Ar lan y mo+r mae 'nghariad inne
Yn cysgu'r nos a chodi'r bore.

Ar lan y mo+r mae carreg wastad
Lle bu+m yn siarad gair a+'m cariad;
O amgylch hon fe dyf y lili,
Ac ambell gangen o rosmari.

Ar lan y mo+r mae cerrig gleision;
Ar lan y mo+r mae blodau'r meibion;
Ar lan y mo+r mae pob rhinweddau;
Ar lan y mo+r mae 'nghariad innau.

Others of the following verses are sometimes sung:

Dacw'r ty+ a dacw'r talcen
Lle ces i nosweithiau llawen
Ar y lloft uwchben y gegin
Gyda'r ferch a+ rhuban melyn.

Mae gen i fuwch a+ dau gorn arian;
Mae gen i fuwch sy'n godro'i hunan;
Mae gen i fuwch sy'n llanw'r stwcau
Fel mae'r mo+r yn llanw'r baeau.

Oer yw'r rhew ac oer yw'r eira;
Oer yw'r ty+ heb da+n yn y gaeaf;
Oer yw'r eglwys heb ddim offeiriad;
Oer wyf innau heb fy nghariad.

Llawn yw'r mo+r o sw+n a chregyn;
Llawn yw'r wy o wyn a melyn;
Llawn yw'r coed o ddail a blodau;
Llawn o gariad merch wyf innau.

The second verse is sometimes sung with O ddeutu instead of O amgylch, and sbrigyn instead of cangen.