Index: Songs

Arglwydd, gad im dawel orffwys

Author: Emrys (William Ambrose) 1813-1873

Contributed by: David Wood

Arwelfa (John Hughes)

Arglwydd, gad im dawel orffwys
Dan gysgodau’r palmwydd clyd,
Lle yr eistedd pererinion
Ar eu ffordd i’r nefol fyd;
Lle’r adroddant dy ffyddlondeb
Iddynt yn yr anial cras,
Nes anghofio’u cyfyngderau
Wrth foliannu nerth dy ras.

O! mor hoff yw cwmni’r brodyr
Sydd â’u hwyneb tua’r wlad,
Heb un tafod yn gwenieithio –
Heb un fron yn meithrin brad:
Gwlith y nefoedd ar eu profiad,
Atsain hyder yn eu hiaith;
Teimlant hiraeth am eu cartref,
Carant sôn am ben eu taith.

Arglwydd, dal ni nes mynd adref,
Nid yw’r llwybr eto’n faith;
Gwened heulwen ar ein henaid,
Wrth nesáu at ben y daith;
Doed y nefol awel dyner
I’n cyfarfod yn y glyn,
Nes in deimlo’n traed yn sengi
Ar uchelder Seion fryn.