Index: Songs

Breuddwyd Y Frenhines

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Wood

Breuddwyd y Frenhines
	Oedd gweld ei hun yn dlawd,
Mewn bwthyn lle’r oedd gwe+n
	Ei mam, ei thad, a’i brawd.
Gla+n oedd yr ystafell,
	A’i tha+n oedd ar y llawr,
Ond nid oedd yno boen
	Na blinder ennyd awr.
Plant a ganent wrth y drws,
	Ganiadau’r pentref llon,
Ac fel y teimlai rhyw lawenydd
	Newydd yn ei bron;
Ymddeffro ddarfu’r Brenin,
	A hithau’i deffro gadd:
Breuddwydio’r oedd efe,
	Fod rhywun am ei ladd.

Breuddwyd dynes arall
	Oedd yn dlawd yn wir,
Oedd gweld ei hun trwy’i hun
	Yn aeres mo+r a thir;
Llawn oedd ei hystafell
	O arian ac o aur,
A choron ar ei phen o
	Fil o berlau clear,
Pwy oedd debyg iddi hi, mor
	Hardd o bryd a gwedd?
A hi a chwyddai pan yn edrych
	Ar ei swyddol sedd;
A’i gw+r ddeffro+dd o’r diwedd
	Gan ddwedyd wrthi “Siân!
Rhaid iti godi’n awr,
	Mae’n amser cynnau tân!”