Index: songs

Bryniau Aur Fy Ngwlad

Author: Dyfed (1850-1923)

Contributed by: David Wood


Ardderchog byramidiau,
  Gogoniant Cymru lān;
Cyfoethog o drysorau
  Yw bryniau gwlad y gān;
Mae pennaf olud daear
  Yn griddfan am ryddhad,
O dan glogwyni hawddgar
  Hen fryniau aur fy ngwlad.

Edliwiodd llawer gelyn,
  Bod Cymru fach yn dlawd;
A thaflwyd llawer poeryn
  I'w gwyneb gyda gwawd;
Ond ar y gelyn hwnnw,
  Dychwelyd mae'r sarhad;
A'i ragfarn sydd yn marw
  Ar fryniau aur fy ngwlad.

Mynyddau Cymru lonydd
  Sydd yn cyfodi'n awr,
I roddi arddurn newydd
  Ar goron Prydain Fawr;
Ni raid ysbeilio'r estron
  O'i gyfoeth na'i fwynhad,
Mae yn yr ymyl ddigon
  Ym mryniau aur fy ngwlad.