Index: Songs

Bugail Yr Hafod

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Wood

Pan oeddwn i’n fugail yn Hafod y Rhyd,
A’r defaid yn dyfod i’r gwair a’r iraidd y+d;
Tan goeden gysgodol mor ddedwydd o’wn i
Yn cysgu, yn cysgu yn ymyl trwyn fy nghi:
	Gwelaf a welaf,
	A+f fan y fynnaf,
	Yno mae fy nhaglon
	Efo hen gyfoedion
	Yn mwynhau
	Y meysydd a’r dolydd
	A’r hafddydd ar ei hyd.

Pan oeddwn i gartref, fy mhennaf fwynhad
Oedd naddu a naddu ar aelwyd glyd fy nhad;
Tra’m chwaer efo’i hosan, a mam efo’r carth
Yn nyddu, yn nyddu ar garreg la+n y barth.
	Dened a ddeno,
	Anian dyn yno,
	Hedaf yn fy afiaeth
	Ar adenydd hiraeth
	I’r hen dy+,
	Gla+n gynnes dirodres
	Adewais yn fy ngwlad.

Mae’r wennol yn crwydro o’i hannedd ddilyth,
Ond dychwel wna’r wennol yn o+l i’w hannwyl nyth
A chrwydro wnawn ninnau yn mhell ar ein hynt,
Gan gofio’r hen gartref chwareuem ynddo gynt.
	Pwyso mae adfyd,
	Chwerwi mae bywyd,
	Chwerwed ef a chwerwo,
	Melus ydyw cofio
	Annedd wen,
	Dan heulwen yr awen
	A wena arnom byth.