Index: Songs

Bugeilio'r Gwenith Gwyn

Author: Unknown

Contributed by: David Wood

Mi sydd fachgen ieuanc ffo+l,
Yn byw yn o+l fy ffansi
Myfi'n bugeilio'r gwenith gwyn,
Ac arall yn ei fedi.
Pam na ddeui ar fy o+l,
Ryw ddydd ar o+l ei gilydd?
Gwaith 'rwy'n dy weld, y feinir fach,
Yn lanach, lanach beunydd!

Glanach, lanach wyt bob dydd,
Neu fi a'm ffydd yn ffolach,
Er mwyn y Gw+r a wnaeth dy wedd,
Gwna im drugaredd ballach.
Gwnn dy ben, gwel acw draw,
Rho i mi'th law wen dirion;
Gwaith yn dy fynwes bert ei thro
Mae allwedd clo fy nghalon!

Tra fo dw+r y mo+r yn hallt,
A thra fo 'ngwallt yn tyfu
A thra fo calon yn fy mron
Mi fydda'n ffryddlon i ti?
Dywed i mi'r gwir dan gel
A rho dan sel d'atebion.
P'un ai myfi neu arall, Ann,
Sydd orau gan dy galon.