Contributed by: David Wood
Nid wy'n gofyn bywyd moethus, Aur y byd na'i berlau mān; Gofyn rwyf am galon hapus, Calon onest, calon lān. Cytgan: Calon lān yn llawn daioni, Tecach yw na'r lili dlos; 'Does ond calon lān all ganu, Canu'r dydd a chanu'r nos. Pe dymunwn olud bydol Chwim adenydd iddo sydd; Golud calon lān, rinweddol, Yn dwyn bythol elw fydd. Hwyr a bore fy nymuniad Esgyn ar adenydd cān Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad Roddi imi galon lān. Amrywiolion cyffredin: Cytgan, 2: Dim ond calon lān all ganu Ail bennill, 2: Hedyn buan ganddo sydd Trydydd pennill, 2: Gwyd i'r nef ar edyn cān