Index: Songs

Pan oedd Iesu dan yr hoelion

Author: E. Cefni Jones (1871-1972)

Contributed by: Douglas Smith

Coedmor (R. L. Jones, 1896-1953)

Pan oedd Iesu dan yr hoelion
   yn nyfnderoedd chwerw loes,
torrwyd beddrod i obeithion
   ei rai annwyl wrth y groes:
      cododd Iesu!
   Nos eu trallod aeth yn ddydd.

Gyda sanctaidd wawr y bore,
   teithiai'r gwragedd at y bedd;
clywid ing yn sw+n eu camre,
   gwelid tristwch yn eu gwedd:
      cododd Iesu!
   Ocheneidiau droes yn gān.

Wyla Seion mewn anobaith,
   a'r gelynion yn cryfhau;
gwelir myrdd yn cilio ymaith
   at allorau duwiau gau:
      cododd Iesu!
   i wirionedd gorsedd fydd.