Index: Songs

Caed trefn i faddau pechod yn yr Iawn

Author: William Williams (Gwilym Cyfeiliog) (1801-1876)

Contributed by: David Wood

Cymod (John Thomas)

Caed trefn i faddau pechod
Yn yr Iawn:
Mae iachawdwriaeth barod
Yn yr Iawn:
Mae’r ddeddf o dan ei choron,
Cyfiawnder yn dweud, Digon!
A’r Tad yn gweiddi, Bodlon!
Yn yr Iawn;
A Diolch byth, medd Seion,
Am yr Iawn.

Yn awr hen deulu’r gollfarn,
Llawenhawn;
Mae’n cymorth ar Un cadarn,
Llawenhawn:
Mae galwad heddiw ato,
A bythol fywyd ynddo;
Ni chollir neb a gredo,
Llawenhawn;
Gan lwyr ymroddi iddo,
Llawenhawn.