Index: Songs

Cymru fach

Author: Unknown

Contributed by: David Wood

Mae lle iddi i gyd yn fy nghalon, Gymru fach.
Pob mynydd a dyffryn ac afon, Gymru fach.
Er crwydro o olwg ei bryniau
Ymhell o sw+n ei rhaeadrau,
Mewn munud breuddwydiaf fy hunan
I fangre fy mebyd o bob man: Gymru fach.

Cytgan:
Annwyl wlad mam a thad!
Os nad yw hi'n fawr mae hi'n ddigon
I lenwi, i lenwi fy nghalon,
Annwyl wlad!

Mae lle iddi i gyd yn fy nghalon, Gymru fach.
O ddyddiau ei Mabinogion, Gymru fach.
Pa Gymro all werthu ei enaid
Ynghanol beddau gwroniaid?
A pwy yn sw+n ei rhaeadrau
Na we+l yr anfarwol lannau?  Gymru fach.

Mae lle iddi i gyd yn fy nghalon, Gymru fach.
A thirion fo'r nef i'w gobeithion, Gymru fach.
Ei chestyll rhyfelgar faluriwyd,
Ond cadwed ei chalon ei breuddwyd!
Boed heddwch yn ga+n rhwng ei bryniau
A cherdded y ga+n dros y tonnau, Gymru fach.