Index: Songs

Dafydd y Garreg Wen

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Wood

"Cariwch," medd Dafydd, "fy nhelyn i mi,
Ceisiaf cyn marw roi to+n arni hi.
Codwch fy nwylaw i gyrraedd y tant;
Duw a'ch bendithio, fy ngweddw a'm plant.

"Neithiwr mi glywais lais angel fel hyn,
'Dafydd, tyrd adref a chwarae trwy'r glyn,'
Delyn fy mebyd, ffarwél i dy dant;
Duw a'ch bendithio, fy ngweddw a'm plant."