Index: Songs

Difyrrwch Gwy+r Dyfi

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Wood


Difyrrwch gwy+r Dyfi yr hen amser gynt,
Oedd tair aurdelyn chwareid gan y gwynt;
Cwynai un mewn gofid mawr,
Pan chwythai’r gwynt y derw i lawr;
Ond chware yn llawen trwy’r dydd heb ball,
A’r coed yn dadwreiddio’n llu wnelai’r llall.

Y drydedd a ganai yn brudd neu yn llon,
Pa un i sicrwydd ni wyddai neb bron:
Ond daeth derwydd barfog, gwyn,
Gwnaeth Delyn Deires o’r rhai hyn,
I ganu yng Nghymru mewn cydgord llawn. –
Fe wnaeth o’r tair eraill un delyn iawn.