Index: Songs

Duw mawr y rhyfeddodau maith!

Author: Samuel Davies, 1723-1768

Contributed by: David Wood

Rhyd-y-groes (T. D. Edwards)

Duw mawr y rhyfeddodau maith!
Rhyfeddol yw pob rhan o’th waith;
Ond dwyfol ras, mwy rhyfedd yw
Na’th holl weithredoedd o bob rhyw.
Pa dduw sy’n maddau fel Tydi
Yn rhad ein holl bechodau ni?

O! maddau’r holl gamweddau mawr,
Ac arbed euog lwch y llawr;
Tydi yn unig fedd yr hawl,
Ac ni chaiff arall ran o’r mawl.
Pa dduw sy’n maddau fel Tydi
Yn rhad ein holl bechodau ni?

O! boed i’th ras anfeidrol gwiw,
A gwyrth dy gariad mawr, O! Dduw,
Orlenwi’r ddaear faith â’th glod,
Hyd nefoedd, tra bo’r byd yn bod.
Pa dduw sy’n maddau fel Tydi
Yn rhad ein holl bechodau ni?