Index: Songs

Dyma gariad fel y moroedd

Author: William Rees (Gwilym Hiraethog), 1802-1883 (1, 2); William Williams, Pantycelyn, 1717-1791 (3)

Contributed by: David Wood

Ebeneser (T. J. Williams)

Dyma gariad fel y moroedd,
Tosturiaethau fel y lli;
T’wysog Bywyd pur yn marw,
Marw i brynu’n bywyd ni;
Pwy all beidio â chofio amdano?
Pwy all beidio â chanu’r glod?
Dyma gariad na â’n angof
Tra bo nefoedd wen yn bod.

Ar Galfaria yr ymrwygodd
Holl ffynhonnau’r dyfnder mawr;
Torrodd holl argaeau’r nefoedd
Oedd yn gyfan hyd yn awr;
Gras a chariad megis dilyw
Yn ymdywallt yma ’nghyd,
A chyfiawnder pur a heddwch
Yn cusanu euog fyd.

O ddyfnderoedd o ddoethineb!
O ddyfnderoedd maith o ras!
O ddirgelion anchwiliadwy,
Bythol uwch eu chwilio i maes!
Mae seraffiaid nef yn edrych
Gyda syndod bob yr un
Ar ddyfnderoedd cariad dwyfol –
Duw yn marw dros y dyn!