Index: Songs

Gwenno Penygelli

Author: Trad

Contributed by: David Wood

Rwy'n ddeg ar hugain oed
Ac arna i chwant priodi
Geneth ysgafndroed
Fel Gwenno Penygelli
Mae ganddi ddillad crand
A mae hi'n eneth bropor
A deg punt yn y banc
Ar l ei modryb Gaenor.

Mae gen i het Jim Cro
Yn barod i fy siwrne
A 'sgidie o groen llo
A gwisg o frethyn cartre'
Mae gen i dy yn llawn
Yn barod i'w chroesawu
A phedair tas o fawn
A dillad ar fy ngwely.

Mae gen i ddafad ddu
Yn pori ar Eryri
Chwiaden, cath a chi
A gwartheg lond y beudy
Mi fedraf dasu a thoi
A chanu, a dal yr arad
A gweithio heb ymdroi
A thorri gwrych yn wastad.

Roedd yno bwdin reis
A hwnnw ar hanner berwi
Y cwc wedi torri'i bys
A cholli'r cadach llestri
Cig y maharen du
Yn wydyn yn 'i gymale
Potes maip yn gry'
A chloben o baste 'fale.