Index: Songs

Rhyfelgyrch Gwy+r Harlech

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Wood


Wele goelcerth wen yn fflamio,
A thafodau ta yn bloeddio,
Ar i'r dewrion ddod i daro,
    Unwaith eto'n un:
Gan fanllefau'r tywysogion
Llais gelynion, trwst arfogion,
A charlamiad y marchogion,
    Craig ar graig a gry!
Arfon byth ni orfydd,
Cenir yn dragywydd;
    Cymru fydd fel Cymru fu,
Yn glodus ymysg gwledydd.
'Ngwyn oleuni'r goelcerth acw,
Tros wefusau Cymro'n marw,
Annibyniaeth sydd yn galw,
    Am ei dewraf dyn.

Ni chaiff gelyn ladd ac ymlid -
Harlech! Harlech! cwyd i'w herlid;
Y mae Rhoddwr mawr ein Rhyddid
    Yn rhoi nerth i ni.
Wele Gymru a'i byddinoedd,
Yn ymdywallt o'r mynyddoedd!
Rhuthrant fel rhaeadrau dyfroedd,
    Llamant fel y lli!
Llwyddiant i'n marchogion
Rwystro cledd yr estron!
    Gwybod yn ei galon gaiff,
Fel bratha cleddyf Brython;
Y cledd yn erbyn cledd a chwery,
Dur yn erbyn dur a dery,
Wele faner Gwalia i fyny!
    Rhyddid' aiff a hi!

Variants: 'llywyddion' or 'lluyddion' for 'marchogion', line 9 of verse 2;
'bar' for 'cledd' in line 10 of verse 2;