Index: Songs

Hen Wlad fy Nhadau

Author: Evan James 1809-1878

Contributed by: David Wood

Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi,
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad,
Tros ryddid collasant eu gwaed.

Cytgan:
Gwlad!  Gwlad!  Pleidiol wyf i'm gwlad;
Tra mo+r yn fur
I'r bur hoff bau,
O bydded i'r heniaith barhau!

Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd,
Pob dyffryn, pob clogwyn i'm golwg sydd hardd;
Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si
Ei nentydd, afonydd i mi.

Os treisiodd y gelyn fy ngwlad tan ei droed,
Mae heniaith y Cymry mor fyw ag erioed;
Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad,
Na thelyn berseiniol fy ngwlad.