Index: Songs

Hun Gwenllian

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Wood

Gwenllian fach, fy nghalon dlos,
	’R wyt ti yn huno yn ddifraw,
	Gan ddal dy afal bach melyngoch yn dy law.
Mae’th ruddiau annwyl fel y gwridog ros;
Mae’th fron yn ddedwydd ddydd a nos,
Ym myd y gofid O gwyn fyd t’wysoges ifanc yn ei chrud,
Yn dal ei hafal bach ei holl o ofal byd.

Mae gennyt frodyr yn y gad,
	Mae’th dad a’i gleddyf wrth ei glun,
	A thithau’n cysgu’n drwm, gan wenu trwy dy hun.
Mae trwst y Norman dig yn crynu’r wlad,
Beth w+yr yr engyl am dy dad?
O am orffwyso’n ddedwydd iach,
Mae breninesau uchel ach,
A ro+i eu gorseddfainc am gwsg t’wysoges fach.