Index: Songs

Hyfrydol

Author: Unknown

Contributed by: David Wood

Marchog, Iesu, yn llwyddiannus,
Gwisg dy gleddau 'ngwasg dy glun;
Ni all daear dy wrth'nebu,
Chwaith nac uffern fawr ei hun:
Mae dy enw mor ardderchog,
Pob rhyw elyn gilia draw;
Mae dy arswyd trwy'r greadigaeth,
Tyrd am hynny maes o law.

Mewn anialwch rwyf yn trigo,
Temtasiynau ar bob llaw;
Heddiw, tanllyd saethau yma,
'Fory, tanllyd saethau draw;
Minnau'n gorfod aros yno,
Yn y canol, rhwng y ta+n,
Tyrd fy Nuw, a gwe+l f'amgylchiad,
Yn dy allu tyrd ymlaen.

Tyn fy enaid o'i gaethiwed,
Gwawried bellach fore ddydd;
Rhwyga'n chwilfriw ddorau Babel,
Tyn y barrau heyrn yn rhydd;
Gwthied caethion yn finteioedd
Allan megis tonnau llif,
Torf a thorf, dan orfoleddu,
Heb na diwedd fyth na rhif.

Amen.