Index: Songs

I Blas Gogerddan

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Wood

“I Blas Gogerddan heb dy dad!
	Fy mab erglyw fy llef,
Dos yn dy o+l i faes y gad,
	Ac ymladd gydag ef!
Dy fam wyf fi, a gwell gan fam,
	It golli’th waed fel dwfr,
Neu agor drws i gorff y dewr,
	Na derbyn bachgen llwfr.”

“I’r neuadd dos ac yno gwe+l
	Arluniau’r Prysiaid pur;
Mae ta+n yn llygad llym pob un,
	Yn golau ar y mur.” –
“Nid fi yw’r mab amharchai’i fam,
	Ac enw ty+ ei dad:
Cusenwch fi fy mam” medd ef,
	Ac aeth yn o+l i’r gad.

Daeth ef yn o+l i dy+ ei fam,
	Ond nid, ond nid yn fyw:
Medd hithau, “O fy mab! fy mab!
	O maddau im O Dduw!”
Ar hyn atebai llais o’r mur:
	“Trwy Gymru tra rhe+d dwfr,
Mil gwell yw marw’n fachgen dewr,
	Na byw yn fachgen llwfr!”